MANYLION
  • Lleoliad: Merthyr Tydfil, All Wales, CF47 8DP
  • Testun: Gweinyddwr
  • Oriau: Amser llawn
  • Cytundeb: Parhaol
  • Math o gyflog: Misol
  • Salary Range: £19,740.00 - £20,366.00
  • Iaith: Saesneg
  • Dyddiad Cau: 07 Hydref, 2022 9:00 y.b

This job application date has now expired.

Rydym yn recriwtio Cynorthwywyr Gweinyddol

Rydym yn recriwtio Cynorthwywyr Gweinyddol

Gyrfa Cymru
Ydych chi'n chwilio am swydd lle rydych yn gweithio mewn tîm sy'n ysbrydoli ac yn cefnogi pobl i feddwl am eu gyrfa yn y dyfodol? Rydym yn chwilio am unigolion hyblyg sy'n rhoi'r cwsmer yn gyntaf i ymuno â'n tîm i ddarparu'r cymorth gweinyddol er mwyn ein galluogi i ddiwallu anghenion ein cwsmeriaid.

Mae Career Choices Dewis Gyrfa Cyf (CCDG) yn is-gwmni ym mherchnogaeth Llywodraeth Cymru. Rydym yn cyflawni cylch gwaith a bennwyd gan Weinidogion Cymru ac yn darparu gwasanaeth Gwybodaeth, Cyngor a Chyfarwyddyd Gyrfaoedd dwyieithog, annibynnol a diduedd i bobl o bob oed yng Nghymru.

Ymysg y buddion deniadol mae oriau hyblyg, 30 diwrnod o wyliau blynyddol, cynllun pensiwn cyfrannol a chynllun arian yn ôl yn gysylltiedig ag iechyd. Fel rhan o’r cynllyn hyfforddiant ar gyfer y swyddi yma bydd disgwyl i’r ymgeiswyr llwyddiannus gwblhau Prentisiaeth Gweinyddiaeth Busnes, Lefel 2, os nad oes ganddynt y cymhwyster yn barod.

Bydd angen i'r ymgeisydd llwyddiannus ddarparu cymorth gweinyddol a derbynfa effeithlon ac effeithiol i'n timau a'n canolfannau.

Rhaid i ymgeiswyr ddangos eu bod yn meddu ar y canlynol:
• Sgiliau cyfathrebu effeithiol a'r gallu i ddelio ag ymholiadau (dros y ffôn, dros yr e-bost ac wyneb yn wyneb) gan aelodau o'r cyhoedd, staff mewnol a rhanddeiliaid allweddol.
• Ymrwymiad i ddangos gwasanaeth rhagorol i gwsmeriaid.
• Y gallu i ymdrin ag ymholiadau anghyffredin lle y gall fod angen trafod a pherswadio
• Sgiliau TGCh
• Y gallu i drefnu a blaenoriaethu eich baich gwaith eich hun a chyrraedd amrywiol derfynau amser
• Y gallu i ddefnyddio cymhelliant a chrebwyll wrth gyflawni dyletswyddau o ddydd i ddydd
• Y gallu i weithio fel rhan o dîm

Rydyn ni fel cenedl yn ffynnu pan fyddwn yn hyrwyddo amrywiaeth a chynhwysiant. Mae sefydliadau sydd â gweithlu amrywiol yn gwneud gwell penderfyniadau, yn fwy creadigol, yn gadarnach, yn hapusach fel y cyfryw – ac, wrth gwrs, dyna’r peth cywir i’w wneud.

Gall amrywiaeth a chynhwysiant fod yn weddnewidiol, gan gyfrannu at gyflenwi gwasanaethau cyhoeddus o ansawdd uchel, a sicrhau gwelliant parhaus yn yr hyn rydyn ni’n ei wneud dros bobl Cymru. Rydyn ni wedi ymrwymo i gael gweithlu sy’n gynrychioliadol o’r dinasyddion rydyn ni’n eu gwasanaethu, a hynny yn ein holl swyddi, beth bynnag fo’u gradd.

Ni fydd unrhyw ymgeisydd am swydd yn derbyn triniaeth lai ffafriol ar sail oed, anabledd, rhywedd a hunaniaeth o ran rhywedd, hil ac ethnigrwydd, crefydd a chredo (yn cynnwys dim credo), statws priodasol neu bartneriaeth sifil, statws economaidd neu dueddiad rhywiol.

Ein nod yw hyrwyddo amgylchedd sy’n rhydd o bob math o wahaniaethu, ac sy’n trin pobl yn deg gydag urddas a pharch. Mae’r ymrwymiad hwn yn dechrau gyda’r broses recriwtio ac yn cael ei gynnal trwy’r holl arferion cyflogaeth, ac yn y pen draw i’r gweithle – gan gefnogi a gwella bywydau pobl Cymru.

Dylid dychwelyd ffurflenni cais wedi'u cwblhau at AD@gyrfacymru.llyw.cymru erbyn 9am 07/10/22. Mi fydd y broses asesu a chyfweld yn cael ei gynnal yn ddigidol.

Sylwer na fyddwn yn derbyn ceisiadau ar ffurf CV. Mae'r swydd-ddisgrifiad llawn, y ffurflen gais a'r ffurflen Asesu Iaith Gymraeg (os ydych yn medru siarad Cymraeg ac yn gallu cyflawni dyletswyddau’r swydd drwy gyfrwng y Gymraeg) er mwyn gwneud cais am y swydd hon ar gael yn: https://gyrfacymru.llyw.cymru/amdanom-ni/gweithio-i-ni

Croesewir ceisiadau yn Gymraeg neu Saesneg. Ni fydd cais a wneir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a wneir yn Saesneg.

JOB REQUIREMENTS
Mae’r disgrifiad swydd llawn a ffurflen gais ar gael yn:
https://gyrfacymru.llyw.cymru/amdanom-ni/gweithio-i-ni