MANYLION
  • Lleoliad: Dolgellau, Gwynedd, LL40 2SW
  • Testun: Hyfforddwr
  • Oriau: Amser llawn
  • Cytundeb: Parhaol
  • Math o gyflog: Blynyddol
  • Salary Range: £25,034 - £26,710
  • Iaith: Saesneg

This job application date has now expired.

HYFFORDDWR / GORUCHWYLYDD SGILIAU YMARFEROL – GWAITH BRICS

HYFFORDDWR / GORUCHWYLYDD SGILIAU YMARFEROL – GWAITH BRICS

Grwp Llandrillo Menai
Am wybodaeth bellach a ffurflen gais ewch i'r wefan......https://www.gllm.ac.uk/jobs

Oes gennych chi;
· lefel 3 mewn gosod brics neu gymhwyster cyfatebol?
· profiad yn y diwydiant adeiladu? a
· sgiliau cyfathrebu da ?
· sgiliau trefnu da?
· profiad o weithio gyda dysgwyr/prentisiaid a'u cefnogi?
· yr awydd i gefnogi ac addysgu eraill i ddysgu sgiliau ymarferol?
· y gallu i ymestyn eich sgiliau a'ch gwybodaeth eich hun?
Rydym am benodi unigolyn angerddol ac ymroddedig a fydd yn rhannu cyfrifoldeb am hwyluso dysgu a chyflawniad mewn Gwaith Brics a'r Diwydiant Adeiladu. Bydd gofyn i'r hyfforddwr addysgu/arddangos aml-sgiliau ymarferol mewn technegau Gosod Brics i ddysgwyr er mwyn eu paratoi ar gyfer byd gwaith. O dan arweiniad cyffredinol y staff darlithio byddwch yn cyflwyno sesiynau ymarferol i grwpiau o ddysgwyr yn y gweithdy ar Lefel 1 a Lefel 2 am hyd at 1000 o oriau’r flwyddyn (Medi-Mehefin), cefnogi’r staff Darlithio i olrhain ac asesu cynnydd y dysgwr, gwneud gwaith asesu (gan gynnwys prentisiaid Lefel 3 ar y safle) a chynllunio gweithgareddau er mwyn sicrhau bod pob dysgwr yn bodloni gofyniad y cymwysterau. Bydd dyletswyddau eraill yn cynnwys sicrhau bod y gweithdy'n rhedeg yn esmwyth a bod cymysgeddau'n cael eu paratoi ymlaen llaw er mwyn i ddysgwyr gael morter digonol ar gyfer eu tasgau. Byddwch yn cael mynediad at fentor un i un trwy gydol eich blwyddyn gyntaf yma i sicrhau trosglwyddiad esmwyth i'r rôl.


JOB REQUIREMENTS
Gweler isod