MANYLION
  • Lleoliad: Cardiff, Cardiff, CF240AB
  • Testun: Swyddog Gweithredol Uwch
  • Oriau: Amser llawn
  • Cytundeb: Cyfnod penodol
  • Math o gyflog: Misol
  • Salary Range: £31,212.00 - £38,158.00
  • Iaith: Saesneg
  • Dyddiad Cau: 02 Hydref, 2022 11:59 y.p

This job application date has now expired.

Swyddog Recriwtio a Chymorth, Hyrwyddo Gyrfaoedd (cyfnod penodol o Rhagfyr 2022 i Tachwedd 2023)

Swyddog Recriwtio a Chymorth, Hyrwyddo Gyrfaoedd (cyfnod penodol o Rhagfyr 2022 i Tachwedd 2023)

Cyngor y Gweithlu Addysg
Cyngor y Gweithlu Addysg (CGA) yw’r corff proffesiynol statudol, hunanreoleiddiol ar gyfer aelodau’r gweithlu addysg yng Nghymru.

Bydd y Swyddog Recriwtio a Chymorth yn chwarae rôl weithredol arweiniol wrth roi’r gwasanaeth recriwtio, eiriolaeth a chymorth newydd, Addysgwyr Cymru, ar waith. Bydd yr unigolyn yn sefydlu ac yn cynnal rhwydwaith o randdeiliaid, yn darparu gweithgareddau cyrchu wedi’u teilwra ac yn cynrychioli brand Addysgwyr Cymru mewn digwyddiadau sefydliadol allweddol. Gan weithio fel aelod o’r tîm hyrwyddo gyrfaoedd, bydd y Swyddog Recriwtio a Chymorth yn cefnogi’r gwaith o ddatblygu a hwyluso ymgyrchoedd recriwtio wedi’u targedu ar draws pob un o’r saith grŵp cofrestreion, a chynlluniau ymgysylltu â rhanddeiliaid ar gyfer meysydd recriwtio blaenoriaeth. Bydd yn darparu gwasanaeth ymholiadau proffesiynol ac yn darparu cynnwys a chymorth ar gyfer gwefan Addysgwyr Cymru a sianeli cyfryngau cymdeithasol.

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn meddu ar sgiliau cyfathrebu rhagorol, gan gynnwys sgiliau cyflwyno, a’r gallu i ysgrifennu’n gryno ac yn ddarbwyllol a chyflwyno gwybodaeth gymhleth i ystod eang o gynulleidfaoedd. Bydd hefyd yn meddu ar sgiliau trefnu, dadansoddi a TG cadarn. Mae sgiliau yn y Gymraeg yn ddymunol ond nid yn hanfodol ar gyfer y swydd.

Mae buddion i gyflogeion yn cynnwys mynediad i Gynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil, oriau hyblyg a 31 diwrnod o wyliau blynyddol (yn ogystal â 10 gŵyl banc a diwrnod braint).