MANYLION
  • Lleoliad: Rhyl, Denbighshire, LL18 2HG
  • Testun: Gweinyddwr
  • Oriau: Rhan amser
  • Cytundeb: Parhaol
  • Math o gyflog: Blynyddol
  • Salary Range: £14,119 - £15,119
  • Iaith: Saesneg

This job application date has now expired.

GWEINYDDWR CYMORTH DYSGU - TREFNIADAU MYNEDIAD I ARHOLIADAU, RHAN AMSER, TYMOR YN UNIG

GWEINYDDWR CYMORTH DYSGU - TREFNIADAU MYNEDIAD I ARHOLIADAU, RHAN AMSER, TYMOR YN UNIG

Grwp Llandrillo Menai
Am wybodaeth bellach a ffurflen gais ewch i - https://www.gllm.ac.uk/cy/jobs

PRIF BWRPAS
Gan weithio yn y tîm Anghenion Dysgu Ychwanegol bydd deiliad y swydd yn darparu cymorth gweinyddol hanfodol gan ganolbwyntio'n benodol ar Drefniadau Mynediad i Arholiadau a'r tasgau gweinyddol sy'n gysylltiedig â hynny.

Darparu cefnogaeth weinyddol effeithiol ac effeithlon i'r tîm Cymorth Dysgu mewn perthynas â Threfniadau Mynediad i Arholiadau.

Cysylltu a gweithio'n agos gyda'r Asesydd Trefniadau Mynediad i Arholiadau, y Cydlynwyr Cymorth Dysgu, y dysgwyr, y rhieni/gwarcheidwaid a'r swyddog arholiadau er mwyn sicrhau bod y trefniadau a'r cymorth sy'n gysylltiedig â mynediad i arholiadau yn cael eu rheoli a'u darparu i bob myfyriwr a ddynodwyd.

Bydd disgwyl i chi gymryd rhan mewn gweithgareddau hyfforddi staff perthnasol a meithrin y sgiliau sydd eu hangen i fod mor effeithiol â phosibl yn y swydd.

Disgwylir i Weinyddwyr Trefniadau Mynediad gyflawni eu dyletswyddau'n unol â gweithdrefnau Grŵp Llandrillo Menai ynghylch Trefniadau Mynediad i Arholiadau, Rheoliadau'r Cyd-gyngor Cymwysterau a System Ansawdd y Coleg.


JOB REQUIREMENTS
Gweler isod