MANYLION
  • Lleoliad: Northop, Flintshire, CH7 6AA
  • Testun: Darlithydd
  • Oriau: Rhan amser
  • Cytundeb: Parhaol
  • Math o gyflog: Blynyddol
  • Salary Range: £29,162 - £45,077
  • Iaith: Saesneg
  • Dyddiad Cau: 01 Medi, 2023 11:13 y.p

This job application date has now expired.

Darlithydd mewn Cyllid.

Darlithydd mewn Cyllid.

Coleg Cambria
Rydym yn awyddus i benodi Darlithydd mewn Cyllid. Mae'n ddymunol (ond nid yn hanfodol) eich bod wedi dysgu neu gyflwyno hyfforddiant mewn Cyllid a Chyfrifeg. Fodd bynnag, os ydych yn teimlo bod gennych y priodoleddau cywir i drosglwyddo gwybodaeth a rhannu eich profiad o Gyfrifeg a Chyllid, yna gallwn eich cefnogi i ennill y cymwysterau addysgu angenrheidiol er mwyn cyflawni'r gofynion ar gyfer y swydd hon.
Cyfrifoldebau:
Addysgu ac ysbrydoli ein dysgwyr, gan gyflwyno hyd at Lefel 4 AAT a modiwl Cyllid ar y rhaglen radd.
Paratoi deunyddiau dysgu, marcio gwaith myfyrwyr, a chysylltu â sefydliadau dyfarnu a goruchwylio arholiadau yn ôl yr angen.
Darparu arweiniad addysgol, cefnogaeth a chwnsela i bob myfyriwr wrth gymryd rhan mewn marchnata, cynllunio, asesu a gwerthuso darpariaeth cyrsiau.
Cynhyrchu dogfennau fel; cofrestrau, cynlluniau gwaith, cofnodion gwaith, adolygiadau o gyrsiau, dogfennau dadansoddi cyrsiau, adroddiadau myfyrwyr ac adroddiadau absenoldeb.

Gofynion Hanfodol
Cymhwyster Lefel 5 o leiaf mewn Busnes a Chyllid neu faes pwnc arbenigol perthnasol
Bod yn barod i weithio tuag at gymhwyster addysgu perthnasol
Bod yn barod i ddatblygu amrywiaeth o dechnegau dysgu ac addysgu a pharatoi deunyddiau addysgu ysgrifenedig a gweledol effeithiol
Sgiliau cyfathrebu a rhyngbersonol rhagorol, bod yn chwaraewr tîm cryf, gan arddangos egni a brwdfrydedd yn yr amgylchedd dysgu