MANYLION.
  • Lleoliad: Schools,
  • Pwnc: Heb ei ddarparu
  • Oriau: Heb ei ddarparu
  • Cytundeb : Parhaol
  • Dyddiad Dechrau: Heb ei ddarparu
  • Dyddiad Gorffen: Heb ei ddarparu
  • Math o gyflog : Heb ei Gyflenwi
  • Cyflog : Graddfa Arweinyddiaeth, L11 - L15
  • Iaith: Unrhyw
  • Dyddiad Cau: 03 Rhagfyr, 2026 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Pennaeth Cynorthwyol (Cwricwlwm, Addysgu a Dysgu) - Ysgol Dyffryn Conwy

Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy

Cyflog: Graddfa Arweinyddiaeth, L11 - L15

Gwasanaethau Addysg

Ysgol Dyffryn Conwy

Ffordd Nebo, Llanrwst, Conwy, LL26 0SD
Ffôn: 01492 642802
www.ysgoldyffrynconwy.org

Yn eisiau erbyn mis Ebrill 2027 - neu cyn gynted â phosib

Pennaeth Cynorthwyol (Cwricwlwm, Addysgu a Dysgu)

(Parhaol)

Oriau: Llawn amser

Cyflog: Graddfa Arweinyddiaeth, L11 - L15, £69,895 - £76,988 y flwyddyn

Mae Ysgol Dyffryn Conwy yn ysgol Gymraeg (categori 3) gyda 580 o ddisgyblion oedran 11-18 yn cynnwys 70 yn y Chweched Dosbarth. Lleolir yr ysgol yn nhref Llanrwst gyda'r ysgol yn gwasanaethu'r dref a'r holl Ddyffryn.

Yn Ysgol Dyffryn Conwy credwn yn gryf mewn partneriaeth a'r disgyblion, rhieni a'r gymuned ehangach.
Cynigwn i bob disgybl beth bynnag eu gallu a chefndir ymdeimlad o werth, hunan hyder ac ysgol hapus a chartrefol. Anelwn at ddarparu'r addysg orau posib i ddatblygu dysgwyr yn hyderus ddwyieithog ac yn ddysgwyr annibynnol gyda'r sgiliau angenrheidiol i'r dyfodol.

Ein nod yw datblygu pob plentyn er mwyn sicrhau eu bod yn cyrraedd eu potensial mewn sawl maes a thrwy amrywiol weithgareddau a chyfleoedd. Sicrheir cwricwlwm addas, eang a heriol i bob plentyn.
Credwn mewn llwyddiant i bawb, gan roi pob cymorth iddynt lwyddo.

Mae'r gallu i gyfathrebu trwy gyfrwng y Gymraeg yn hanfodol

Oherwydd natur y swydd byddwn yn gofyn am ddatgeliad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd ar gyfer yr ymgeiswyr llwyddiannus. Mae'n ofynnol bod yr ymgeisydd llwyddiannus yn cofrestru gyda'r Cyngor Gweithlu Addysg cyn cychwyn gweithio yn y swydd hon.

Am ragor o fanylion ynglŷn â'r swydd a ffurflen gais cysylltwch â Mrs Ffion Sabit, Cymhorthydd Personol y Pennaeth ar 01492-642802 neu e-bost fs@dyffrynconwy.conwy.sch.uk

Rydym wedi ymrwymo i ddiogelu. Bydd cymwysterau a geirdaon yn cael eu dilysu. Rydym wedi ymrwymo i'n Safonau'r Gymraeg. Croesawir ceisiadau yn y Gymraeg a'r Saesneg fel ei gilydd ac ni fydd ffurflenni cais a dderbynnir yn y naill iaith na'r llall yn cael eu trin yn llai ffafriol na'i gilydd.

Wrth fynd ati i hyrwyddo Cyfle Cyfartal, rydym yn croesawu ymgeiswyr o bob rhan o'r gymuned. Bydd pob ymgeisydd anabl sy'n diwallu gofynion hanfodol y swydd yn cael cyfweliad. Byddwn yn darparu cyfleusterau gwaith addas ychwanegol ar gyfer ymgeiswyr gydag anabledd. Gall pobl anabl ddewis gwneud cais mewn gwahanol fformatau.

This form is also available in English