MANYLION.
  • Lleoliad: See Job Advertisement,
  • Pwnc: Heb ei ddarparu
  • Oriau: Heb ei ddarparu
  • Cytundeb : Dros dro
  • Dyddiad Dechrau: Heb ei ddarparu
  • Dyddiad Gorffen: Heb ei ddarparu
  • Math o gyflog : Heb ei Gyflenwi
  • Cyflog : Gweler Hysbyseb Swydd
  • Iaith: Unrhyw
  • Dyddiad Cau: 03 Rhagfyr, 2026 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Athro / Athrawes Arbenigol Cyfathrebu a Rhyngweithio - Amrywiol

Cyngor Gwynedd

Cyflog: Gweler Hysbyseb Swydd

Manylion
Hysbyseb Swydd

Telir cyflog yn unol â Graddfa Gyflog Athrawon (£33,731 - £51,942) yn ôl profiad a chymhwyster + lwfans ADY

Mae gan Cyngor Gwynedd becyn cyflogaeth deniadol, am ragor o wybodaeth cliciwch ar y Pecyn Gwybodaeth

Mae Cyngor Gwynedd yn gweithredu'n fewnol trwy gyfrwng y Gymraeg ac yn cynnig ei holl wasanaethau yn ddwyieithog. Bydd angen i'r ymgeisydd gyrraedd y lefel ieithyddol sy'n cael ei nodi fel un o'r sgiliau hanfodol yn y Manylion Person.

Rydym yn annog pob ymgeisydd am swydd gyda'r Cyngor i gyflwyno ceisiadau yn Gymraeg neu yn ddwyieithog.

(Bydd ceisiadau sydd yn cael eu cyflwyno yn uniaith Gymraeg neu Saesneg yn cael eu trin yn gwbl gyfartal, ond gofynnir i'r ymgeisydd ystyried yn ofalus beth yw gofynion iaith y swydd a'r sefydliad ac a fyddai cyflwyno cais yn uniaith Gymraeg yn fwy addas.)

Am sgwrs anffurfiol neu manylion pellach gellir cysylltu â Angharad Walton ar 01286 679007 neu drwy e-bost AngharadAnnWalton@gwynedd.llyw.cymru

Dyddiad Cyfweliadau: 09/12/2026

Ffurflenni cais ar gael gan , Gwasanaeth Cefnogol, Cyngor Gwynedd, Swyddfa'r Cyngor, Stryd y Jêl, Caernarfon, LL55 1SH

Ffôn: 01286 679076 eBost: Swyddi@gwynedd.llyw.cymru

DYDDIAD C AU: 10 : 00 O'R GLOCH, 03/12/2026

Bydd y Cyngor yn gofyn am ddadleniad gan y Swyddfa Cofnodion Troseddol ar gyfer yr ymgeisydd llwyddiannus

Os yn llwyddiannus i fod ar y rhestr fer am gyfweliad, byddwn yn cysylltu a chwi drwy'r cyfeiriad E-BOST a gofnodwyd gennych ar eich ffurflen gais. Mae angen i chwi sicrhau eich bod yn gwirio eich E-BOST yn rheolaidd.

Manylion Person

NODWEDDION PERSONOL

HANFODOL

Hyder i gynnal hyfforddiant

Trefnu amser yn effeithiol

Sgiliau cyfathrebu clir

Gallu cydweithio fel aelod o dîm

Gallu i weithio'n hyblyg

Brwdfrydedd

Y gallu i feddwl am syniadau newydd

Trwydded yrru llawn a mynediad at drafnidiaeth

DYMUNOL

-

CYMWYSTERAU A HYFFORDDIANT PERTHNASOL
HANFODOL
Statws Athro Cymwysedig (SAC)

Ôl-radd mewn Anhwylderau Iaith neu Anhwylderau'r Sbectrwm Awtistiaeth neu Gymhwyster Proffesiynol ADY neu Gynhwysiad NEU Ymrwymiad i ddilyn cwrs Ôl-radd mewn Anhwylderau Iaith neu Anhwylderau'r Sbectrwm Awtistiaeth

DYMUNOL

Hyfforddiant o dechnegau technegol yn y maes e.e. Makaton, Elklan, Semanteg Lliwgar

PROFIAD PERTHNASOL

HANFODOL

Addysgu a paratoi ar gyfer disgyblion anhwylderau iaith a/neu awtistiaeth

Cydweithio gydag asiantaethau gan gynnwys y Gwasanaeth Therapi Iaith

Rheoli Staff

DYMUNOL

Hyfforddi cymorthyddion a/neu athrawon

Dulliau Canolbwyntio ar yr Unigolyn

Cynlluniau Datblygu Unigol

Gosod argymhellion i athrawon dosbarth

SGILIAU A GWYBODAETH ARBENIGOL

HANFODOL

Ymwybodol o Strategaeth ADYaCh Gwynedd

Dealltwriaeth o'r ddeddfwriaeth ADYaCh a'r Cod Ymarfer

Dealltwriaeth o Ddulliau Canolbwyntio ar yr Unigolyn

Dealltwriaeth o Gynlluniau Datblygu Unigol

Dealltwriaeth o anghenion amrywiol

Y gallu i gyflwyno gwybodaeth mewn ffordd effeithiol i drawstoriad o gynulleidfaoedd

Sgiliau cynnal basdata/cyfrifiadurol cryf

DYMUNOL

-

ANGHENION IEITHYDDOL

Gwrando a Siarad - Lefel Uwch
Gallu dilyn sgwrs neu drafodaeth drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg ar lefel broffesiynol a thrafod pynciau cyffredinol bob dydd yn y maes er mwyn cyflwyno gwybodaeth a mynegi barn. Gallu darparu cyflwyniad wedi'i baratoi o flaen llaw ac ymateb i unrhyw sylwadau a chwestiynau arno drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg.

Darllen a Deall - Lefel Uwch
Gallu deall Cymraeg a Saesneg ysgrifenedig safonol, ffurfiol ac anffurfiol. Medru casglu gwybodaeth o amrywiol ffynonellau megis llythyrau, adroddiadau, erthyglau, drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg er mwyn cyflawni'r swydd.

Ysgrifennu - Lefel Uwch
Cyflwyno gwybodaeth ysgrifenedig gyda hyder ar ffurf llythyr, adroddiad mwy manwl a thechnegol ac ymateb i geisiadau ysgrifenedig gan gyfleu gwybodaeth, syniadau a barn drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg. (Mae'n bosib cael cymorth i wirio'r iaith)

Swydd Ddisgrifiad

Pwrpas y Swydd
  • Sicrhau bod plant a phobl ifanc Gwynedd yn ganolog i bopeth yr ydan ni yn ei wneud.
  • Sicrhau gwasanaeth arbenigol o safon uchel ar gyfer ysgolion a chanolfannau arbenigol i gefnogi disgyblion ystod oedran 3 - 16 oed sydd ag anawsterau Cyfathrebu a Rhyngweithio.
  • Sicrhau gweithrediad yn y maes Cyfathrebu a Rhyngweithio drwy'r defnydd o weithdrefnau a phrosesau effeithiol ar sail tystiolaeth.
  • Byddent yn cyflawni hyn drwy:
  • Dysgu a gweithredu strategaethau cytunedig o fewn y Canolfannau Arbenigol.
  • dreulio cyfnodau ar lawr dosbarth yn arsylwi, modelu a monitro
  • cyd weithio gyda tîm bach o Gymorthyddion Arbenigol a chymorthyddion o fewn y Canolfannau Arbenigol
  • Cefnogi ysgolion ar ffurf hyfforddiant ac adnoddau parod
  • Gweithredu yn unol a chanllawiau diogelu cadarn

Cyfrifoldeb am Adnoddau.. e.e. staff, cyllid, offer
  • Cyd weithio gyda'r Arweinydd Tim Cyfathrebu a Rhyngweithio i gynnal hyfforddiant a chreu adnoddau ar gyfer ysgolion, canolfannau a rhieni
  • Cynorthwyo'r Arweinydd Tim Cyfathrebu a Rhyngweithio wrth gyd weithio efo'r cymorthyddion arbenigol
  • Cyd weithio gyda tîm o Gymorthyddion Arbenigol a chymorthyddion
  • Cyd weithio efo'r Uwch Athro/awes Cyfathrebu a Rhyngweithio i gynllunio llyfrgell o adnoddau gwahaniaethol
  • Gliniadur a ffôn symudol

Prif Ddyletswyddau

Mae'r swydd ddisgrifiad hwn i'w gyflawni yn unol a darpariaethau Dogfen Cyflogau ac Amodau Athrawon ysgol ac o fewn amred dyletswyddau athrawon fel y'u nodir yn y dogfen honno cyn belled ag y bo hynny'n berthnasol i deitl y swydd a graddfa cyflog y sawl sydd yn y swydd. Mae'r swydd hefyd yn ddarostyngedig i Amodau Gwaith Athrawon Ysgol yng Nghymru a Lloegr (Y Llyfr Bwrgwyn) ac i unrhyw amodau perthnasol a gytunwyd yn lleol.

  • Sicrhau gwasanaeth cefnogi a chynghori ar gyfer ysgolion a sefydliadau addysgol eraill drwy ddarparu arweiniad a chefnogaeth o ansawdd uchel.
  • Cyfrannu at gynlluniau strategol ysgolion unigol ym maes Cyfathrebu a Rhyngweithio, ac ADY yn gyffredinol.
  • Cyflenwi gwaith proffesiynol drwy gymryd weithredu strategaethau a gweithgareddau dysgu ar gyfer disgyblion gydag Anghenion Dysgu Ychwanegol; yn enwedig anhwylderau cyfathrebu a rhyngweithio ar lefel ysgol ac o fewn y Canolfannau arbenigol.
  • Cyfrannu at fonitro cynnydd disgyblion drwy asesu, cofnodi ac adrodd ar lwyddiannau.
  • Cydweithio gydag ysgolion ar gyfer datblygu'r awyrgylch cyfathrebu gyfeillgar o fewn yr ysgol.
  • Cyfrannu at drafodaeth a phenderfyniadau'r Fforwm Ardal ADYaCh.
  • Cyfrifoldeb am hunan reoli llwyth gwaith a blaenoriaethu achosion
  • Gweithredu ac addasu pecynnau gwaith penodol, i sicrhau adnoddau arbenigol ar gyfer ysgolion, y Canolfannau Arbenigol a rhieni yn y maes anghenion Cyfathrebu a Rhyngweithio.
  • Cyfrannu at ddatblygu rhaglen hyfforddiant penodol arbenigol i gynorthwyo ysgolion, unedau a rhieni i gael gwell dealltwriaeth o anghenion iaith, cyfathrebu, rhyngweithio a Niwroamrywiaeth .
  • Cyd weithio'n agos â'r Uwch Seicolegydd Addysgol Cyfathrebu a Rhyngweithio i weithredu strategaethau cytunedig ar lefel ysgol a chanolfannau arbenigol. Bydd hyn yn cynnwys ymgynghori ynglŷn â'r llwyth gwaith, gweithredu rhaglenni hyfforddiant, strategaethau ar gyfer unigolion o fewn ysgolion ac o fewn ein canolfannau arbennig.
  • Ymgynghori yn rheolaidd gyda'r Swyddogion Ansawdd ADYaCh er mwyn sicrhau fod gwybodaeth gyfredol ynglyn a chynnydd y plant, ac anghenion yr Ardal o ran Ansawdd y ddarpariaeth yn cael ei gyfathrebu.
  • Sicrhau arweiniad gweithredol clir i staff ysgolion ac o ddydd i ddydd cymorthyddion y Canolfannau.
  • Cyd weithio gyda'r holl dîm Integredig o fewn y Gwasanaeth ADYaCh.
  • Cyfrannu i HMS a datblygiadau staff o fewn y gwasanaeth ac o fewn ein hysgolion.
  • Paratoi adroddiadau ar gynnydd yn erbyn meini prawf cytunedig.
  • Sicrhau fod y Meini Prawf yn wybyddus i bawb ac yn cael eu gweithredu'n gyson yn ein hysgolion.
  • Sicrhau fod y bas data o'r disgyblion sydd yn derbyn cefnogaeth y Gwasanaeth yn gyfredol.
  • Sicrhau gweithrediad yn unol ag argymhellion y Fforwm Ardal ADYaCh.
  • Cymryd rhan, yn ôl yr angen, mewn prosesau sy'n adolygu, monitro a datblygu'r Gwasanaeth Cyfathrebu a Rhyngweithio.

Cyffredinol
  • Cyfrifoldeb am hunan ddatblygiad.
  • Sicrhau cydymffurfiaeth â rheolau Iechyd a Diogelwch yn y gweithle yn unol â'r cyfrifoldebau a nodir yn Neddf Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle 1974 a Pholisi Iechyd a Diogelwch y Cyngor.
  • Gweithredu o fewn polisïau'r Cyngor yng nghyswllt cyfle cyfartal a chydraddoldeb.
  • Cyfrifoldeb am reoli gwybodaeth yn unol â safonau a chanllawiau rheoli gwybodaeth y Cyngor. Sicrhau bod gwybodaeth bersonol yn cael ei thrin mewn cydymffurfiaeth â deddfwriaeth Diogelu Data
  • Ymrwymiad i leihau allyriadau carbon y Cyngor yn unol â'r Cynllun Rheoli Carbon ac i annog eraill i weithredu'n gadarnhaol tuag at leihau ôl-troed carbon y Cyngor.
  • Ymgymryd ag unrhyw ddyletswydd arall cyfatebol a rhesymol sy'n cyd-fynd â lefel cyflog a lefel cyfrifoldeb y swydd.
  • Ymateb i unrhyw gais rhesymol arall ar gais y Pennaeth Gwasanaeth Addysg.
  • Cyfrifoldeb i adrodd ar bryder neu amheuaeth bod plentyn neu oedolyn bregus yn cael ei gam-drin


  • Ceisio ar lein - Sut?
  • Rhestr Swyddi