MANYLION.
  • Lleoliad: Ysgol Dyffryn Ogwen, Bethesda,
  • Pwnc: Heb ei ddarparu
  • Oriau: Heb ei ddarparu
  • Cytundeb : Dros dro
  • Dyddiad Dechrau: Heb ei ddarparu
  • Dyddiad Gorffen: Heb ei ddarparu
  • Math o gyflog : Per annum
  • Cyflog : £19,062 - £20,592 y flwyddyn
  • Iaith: Unrhyw
  • Dyddiad Cau: 25 Tachwedd, 2026 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Cymhorthydd Cefnogol Lefel 2 - Ysgol Dyffryn Ogwen

Cyngor Gwynedd

Cyflog: £19,062 - £20,592 y flwyddyn

Manylion
Hysbyseb Swydd

ADRAN ADDYSG

YSGOLION UWCHRADD

YSGOL DYFFRYN OGWEN, BETHESDA

(Cyfun 11 - 18; 400 o ddisgyblion)

Yn eisiau: ar gyfer 1af o Ragfyr, 2026.
CYMHORTHYDD CEFNOGAETH DYSGU LEFEL 2

Swydd dros dro - tan 04/04/2027 yn y lle cyntaf.

Gwahoddir ceisiadau oddi wrth unigolion blaengar a brwdfrydig i weithio gyda thîm ymroddgar ac egnïol.

Oriau gwaith: 30 awr yr wythnos.

Bydd yn ofynnol i chi weithio 39 wythnos waith mewn blwyddyn ysgol sef 38 wythnos tymor Ysgol a 5 diwrnod mewn hyfforddiant.

Graddfa Gyflog: Telir cyflog yn unol ag Amodau Gwaith ar gyfer Gweithwyr Llywodraeth Leol, Graddfa GS4 pwyntiau 7 - 11 (sef £19,062 - £20,592 y flwyddyn), yn ôl profiad a chymhwyster.

Mae'r gallu i gyfathrebu'n effeithiol trwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg yn hanfodol ar gyfer y swydd hon.

Gwahoddir unrhyw un sydd â diddordeb a/neu angen mwy o wybodaeth i drafod yn anffurfiol â'r Rheolwr Busnes a Chyllid Mrs Jill Oliver (Rhif ffôn 01248 600291).

Gellir cyflwyno cais am y swydd yma ar-lein ar wefan Cyngor Gwynedd neu mae pecyn cais ar gael gan Mrs Jill Oliver, Ysgol Dyffryn Ogwen, Ffordd Coetmor, Bethesda, Bangor, Gwynedd (Rhif Ffôn:01248 600291)

e-bost: rhb@dyffrynogwen.ysgoliongwynedd.cymru

Os dymunir ddychwelyd y cais drwy'r post, dylid ei ddychwelyd i'r cyfeiriad uchod erbyn y dyddiad cau.

DYDDIAD CAU; HANNER DYDD, DDYDD MERCHER, 25 O DACHWEDD, 2026.

Bydd y Cyngor yn gofyn am ddadleniad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd ynghyd chadarnhad o gofrestriad gyda'r Cyngor Gweithlu Addysg gan yr ymgeisydd llwyddiannus cyn y gallent gychwyn yn y swydd yma.

Mae'r awdurdod hwn wedi ymrwymo i ddiogelu a hyrwyddo lles plant a phobl ifanc ac mae'n disgwyl y bydd pob un o'i staff a'i wirfoddolwr yn rhannu'r ymrwymiad hwn.

Manylion Person

NODWEDDION PERSONOL

HANFODOL
  • Y gallu i berthnasu'n dda â phlant ac oedolion.
  • Gweithio'n adeiladol fel rhan o dîm.
  • Parodrwydd i dderbyn cyfrifoldebau a chyfrannu syniadau
  • Brwdfrydig a hyblyg
  • Personoliaeth Ddigynnwrf
  • Ymrwymedig i ddiogelu a hyrwyddo lles plant a phobl ifanc

DYMUNOL

-

CYMWYSTERAU A HYFFORDDIANT PERTHNASOL

HANFODOL
  • Sgiliau rhif/llythrennedd da.
  • NVQ2 ar gyfer Cymorthyddion Addysgu neu gymhwyster cyfwerth, neu yn fodlon ymgymryd â'r cwrs yn dilyn penodiad.

DYMUNOL
  • Wedi dilyn hyfforddiant llwybr dysgu i gymorthyddion dysgu - 'Rhaglen Ymsefydlu'
  • Hyfforddiant cymorth cyntaf
  • Hyfforddiant Amddiffyn Plant
  • Hyfforddiant mewn strategaethau perthnasol i gefnogi dysgu, e.e. llythrennedd/ rhifedd

PROFIAD PERTHNASOL

HANFODOL
  • Gweithio gyda phlant o'r oedran priodol neu ofalu amdanynt.

DYMUNOL
  • Profiad o weithio gyda grwpiau bychain o blant
  • Profiad o waith cynorthwyo mewn dosbarth
  • Profiad o weithio gyda disgyblion gydag anghenion dysgu ychwanegol

SGILIAU A GWYBODAETH ARBENIGOL

HANFODOL
  • Deunydd effeithlon o TGaCh
  • Sgiliau rhyngbersonol a chyfathrebu da
  • Y gallu i sefydlu a chynnal perthynas dda gyda eraill.

DYMUNOL

-

ANGHENION IEITHYDDOL
  • Gallu dilyn sgwrs neu drafodaeth drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg ar lefel broffesiynol a thrafod pynciau cyffredinol bob dydd yn y maes er mwyn cyflwyno gwybodaeth a mynegi barn.
  • Gallu darparu cyflwyniad wedi'i baratoi o flaen llaw ac ymateb i unrhyw sylwadau a chwestiynau arno drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg.
  • Gallu deall Cymraeg a Saesneg ysgrifenedig safonol, ffurfiol ac anffurfiol.Medru casglu gwybodaeth o amrywiol ffynonellau megis llythyrau, adroddiadau, erthyglau, drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg er mwyn cyflawni'r swydd.
  • Gallu ysgrifennu llythyrau i bwrpas penodol, negeseuon e-bost ac adroddiadau byr, drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg, gan ddefnyddio geirfa ac ymadroddion syml sy'n gyfarwyddi'r maes gwaith.( Bydd angen gwirio cyn eu hanfon allan).

Swydd Ddisgrifiad

Pwrpas y Swydd
  • Sicrhau bod plant a phobl ifanc Gwynedd yn ganolog i bopeth yr ydym yn ei wneud.
  • Gweithio dan gyfarwyddyd ac arweiniad athrawon ac/neu aelodau o dîm rheoli'r ysgol.
  • Cefnogi unigolion a grwpiau o ddisgyblion i alluogi mynediad i ddysgu.
  • Mae'r ysgol wedi ymrwymo i ddiogelu a hyrwyddo lles plant ac mae'n disgwyl i'r holl staff a gwirfoddolwyr rannu'r ymrwymiad hwn

Prif Ddyletswyddau
  • Goruchwylio a darparu cefnogaeth ar gyfer disgyblion unigol a grwpiau o ddisgyblion, yn cynnwys rhai gydag anghenion dysgu ychwanegol, gan sicrhau eu diogelwch a'u mynediad i weithgareddau dysgu.
  • Gweithredu Cynlluniau Addysg/Ymddygiad Unigol a rhaglenni Gofal Personol- yn cynnwys toiledu, bwydo a symudoledd.
  • Yn dilyn hyfforddiant, gweinyddu meddyginiaeth yn unol â'r gweithdrefnau a pholisïau ar gyfer yr AALL ac ysgolion.
  • Cynorthwyo gyda goruchwylio disgyblion y tu allan i amser gwersi, yn cynnwys cyn ac ar ôl ysgol ac amserau cinio.
  • Mynd gyda staff addysgu a disgyblion ar ymweliadau, teithiau a gweithgareddau y tu allan i'r ysgol ar gais a chymryd cyfrifoldeb am grŵp o dan oruchwyliaeth yr athro/athrawes.
  • Sefydlu perthynas dda gyda'r disgyblion, gan weithredu fel model rôl a bod yn ymwybodol o anghenion unigol ac ymateb yn briodol iddynt
  • Annog disgyblion i ryngweithio gydag eraill ac i ymuno mewn gweithgareddau o dan arweiniad yr athro/athrawes
  • Gosod disgwyliadau uchel a hybu hunan-barch ac annibyniaeth.
  • Hwyluso cynnwys a derbyn pob disgybl o fewn y dosbarth, gan hybu annibyniaeth.
  • Dan arweiniad yr athro/athrawes, darparu adborth i ddisgyblion.
  • Cydweithio gyda'r athro/athrawes i greu amgylchedd dysgu pwrpasol.
  • Cynorthwyo i glirio'r dosbarth a chynorthwyo gydag arddangos gwaith y disgyblion.
  • Sicrhau adborth rheolaidd ac effeithlon i'r athro/athrawes, gan adrodd ar ymatebion y disgyblion i weithgareddau dysgu, cynnydd, a lles disgyblion
  • Hybu ymddygiad disgyblion ac agweddau cadarnhaol tuag at ddysgu.
  • Cefnogi strategaethau dysgu amrywiol dan arweiniad athro/athrawes.
  • Cefnogi'r defnydd o TGaCh mewn gweithgareddau dysgu.
  • Paratoi, cynnal a defnyddio offer/adnoddau sy'n ofynnol i gwrdd â'r cynlluniau gwersi/gweithgaredd dysgu perthnasol a chynorthwyo'r disgyblion i'w defnyddio.
  • Cysylltu'n broffesiynol â rhieni, gofalwyr dan arweiniad yr athro/athrawes.
  • Cyfranogi mewn cyfarfodydd gyda'r rhieni a chyfrannu at arolygon blynyddol yn unol ag arfer ysgol.
  • Bod yn ymwybodol o bolisïau a gweithdrefnau sy'n berthynol i gynhwysiad, amddiffyn plant, iechyd a diogelwch, cyfrinachedd a diogelu data, a chydymffurfio â hwynt, gan adrodd am bob pryder.
  • Cyfrannu at ethos/gwaith/amcanion cyffredinol yr ysgol.
  • Mynychu cyfarfodydd perthnasol.
  • Cymryd rhan mewn hyfforddiant a gweithgareddau dysgu eraill ac arolygon proffesiynol ar gais.
  • Cofrestredig gyda'r Cyngor Gweithlu Addysg.

Cyffredinol
  • Cyfrifoldeb am hunan ddatblygiad yn unol ar Safonau Proffesiynol ar gyfer Cynorthwyo Addysgu.
  • Ymgymryd ag unrhyw ddyletswydd ychwanegol sy'n berthnasol i'r swydd yn unol â chais y Rheolwr.
  • Sicrhau cydymffurfiaeth â rheolau Iechyd a Diogelwch yn y gweithle yn unol â'r cyfrifoldebau a nodir yn Neddf Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle 1974 a Pholisi Iechyd a Diogelwch y Cyngor.
  • Gweithredu o fewn polisïau'r Cyngor/Ysgol yng nghyswllt cyfle cyfartal a chydraddoldeb.
  • Cyfrifoldeb am reoli gwybodaeth yn unol â safonau a chanllawiau GDPR. Sicrhau bod gwybodaeth bersonol yn cael ei thrin mewn cydymffurfiaeth â deddfwriaeth Diogelu Data
  • Ymrwymiad i leihau allyriadau carbon yr ysgol/ Cyngor yn unol â'r Cynllun Rheoli Carbon ac i annog eraill i weithredu'n gadarnhaol tuag at leihau ôl-troed carbon yr ysgol/ Cyngor.
  • Ymgymryd ag unrhyw ddyletswydd arall cyfatebol a rhesymol sy'n cyd-fynd â lefel cyflog a lefel cyfrifoldeb y swydd.
  • Cyfrifoldeb i adrodd ar bryder neu amheuaeth bod plentyn neu oedolyn bregus yn cael ei gam-drin.

Mae disgwyl bydd pob cymhorthydd yn ymrwymo i'r Safonau Proffesiynol a'u datblygu.

Gwerthoedd ac Ymagweddau Cyffredin
  • Iaith a Diwylliant Cymru

Mae'r cynorthwyydd addysgu yn pwysleisio pwysigrwydd canolog hyrwyddo iaith a diwylliant Cymru yn gyson. Bydd dysgwyr yn cael eu cefnogi i feithrin sgiliau ar draws pob maes dysgu a chymerir pob cyfle i ehangu sgiliau a chymhwysedd dysgwyr.
  • Hawliau Dysgwyr

Bydd anghenion a hawliau dysgwyr yn ganolog ac yn cael blaenoriaeth yn null y cynorthwyydd addysguo wneud ei swydd. Mae'r cynorthwyydd addysgu yn arddangos disgwyliadau uchel ac ymrwymiad i gyflawniad pob dysgwr.
  • Llythrennedd, Rhifedd a Chymhwysedd Digidol

Mae'r cynorthwyydd addysgu yn pwysleisio pwysigrwydd canolog llythrennedd, rhifedd a chymhwysedd digidol yn gyson. Bydd dysgwyr yn cael eu cefnogi i feithrin sgiliau ar draws pob maes dysgu a chymerir pob cyfle i ehangu sgiliau a chymhwysedd dysgwyr.
  • Dysgwyr Proffesiynol

Mae'r cynorthwyydd addysgu yn ddysgwr proffesiynol ac mae'n ymrwymo i ymgysylltu parhaus mewn datblygu, cydweithio ac arloesi gydol gyrfa.
  • Rôl yn y System

Mae'r cynorthwyydd addysgu wedi ymrwymo i ddysgwyr ym mhobman ac mae'n rhan ddylanwadol o ddatblygu diwylliant addysg cydlynol yng Nghymru.
  • Hawl Broffesiynol

Mae gan y cynorthwyydd addysgu hawl broffesiynol i fod yn rhan o ysgol sy'n ystyried ei hun fel sefydliad sy'n dysgu. Mae gan y cynorthwyydd addysgu ymreolaeth i fod yn rhan weithredol o broffesiwn lleol, cenedlaethol a byd-eang ac mae ganddo'r hawl i annog a chefnogi gwelliant i'r ysgol er budd y dysgwyr.

  • Ceisio ar lein - Sut?
  • Rhestr Swyddi