MANYLION.
  • Lleoliad: Machynlleth,
  • Pwnc: Heb ei ddarparu
  • Oriau: Llawn amser
  • Cytundeb : Heb ei ddarparu
  • Dyddiad Dechrau: Heb ei ddarparu
  • Dyddiad Gorffen: Heb ei ddarparu
  • Math o gyflog : Heb ei Gyflenwi
  • Cyflog : Blank
  • Iaith: Unrhyw
  • Dyddiad Cau: 30 Tachwedd, 2026 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Athro/Athrawes Technoleg (Ysgol Bro Hyddgen)

Cyngor Sir Powys

Cyflog: Blank

Athro/Athrawes Technoleg (Ysgol Bro Hyddgen)
Swydd-ddisgrifiad
1) Addysgu myfyrwyr yn ôl eu hanghenion addysgol, gan gynnwys gosod a marcio'r gwaith i'w wneud gan y
myfyriwr yn yr ysgol ac mewn mannau eraill.
2) Asesu, cofnodi ac adrodd ar bresenoldeb, cynnydd, datblygiad a chyrhaeddiad myfyrwyr ac i gadw cofnodion
o'r fath sy'n ofynnol.
3) Darparu, neu gyfrannu at, asesiadau, adroddiadau a chyfeiriadau llafar ac ysgrifenedig sy'n ymwneud â
myfyrwyr unigol a grwpiau o fyfyrwyr.
4) Sicrhau bod y sgiliau allweddol a'r arbenigedd pwnc ysgol yn cael eu hadlewyrchu ym mhrofiad addysgu /
dysgu myfyrwyr.
5) Ymgymryd â rhaglen ddynodedig o addysgu.
6) Sicrhau profiad dysgu o ansawdd uchel i fyfyrwyr sy'n bodloni safonau ansawdd mewnol ac allanol.
7) Paratoi a diweddaru deunyddiau pwnc.
8) Defnyddio amrywiaeth o ddulliau cyflwyno a fydd yn ysgogi dysgu sy'n briodol i anghenion myfyrwyr a
gofynion y maes llafur.
9) Cynnal disgyblaeth yn unol â gweithdrefnau'r ysgol, ac annog arfer da o ran prydlondeb, ymddygiad, safonau
gwaith a gwaith cartref.
10) Ymgymryd ag asesiad o fyfyrwyr fel y gofynnir gan gyrff arholi allanol, gweithdrefnau adrannol ac ysgolion.