MANYLION.
  • Lleoliad: Brecon,
  • Pwnc: Heb ei ddarparu
  • Oriau: Llawn amser
  • Cytundeb : Parhaol
  • Dyddiad Dechrau: Heb ei ddarparu
  • Dyddiad Gorffen: Heb ei ddarparu
  • Math o gyflog : Per annum
  • Cyflog : Graddfa 7 Pwynt 15 i Bwynt 19 £31,015 i £33,119 y flwyddyn ar gyfartaledd £16.07 i £17.16 yr awr
  • Iaith: Unrhyw
  • Dyddiad Cau: 26 Tachwedd, 2026 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Cynorthwy-ydd Addysgu Lefel 3 - Ysgolion (Ysgol Penmaes)

Cyngor Sir Powys

Cyflog: Graddfa 7 Pwynt 15 i Bwynt 19 £31,015 i £33,119 y flwyddyn ar gyfartaledd £16.07 i £17.16 yr awr

Cynorthwy-ydd Addysgu Lefel 3 - Ysgolion (Ysgol Penmaes)
Swydd-ddisgrifiad
Cynorthwyydd Addysgu Lefel 3 gyda ffocws ar Anhwylderau yn y Sbectrwm Awtistig
Oriau'r Gwaith: Tymor Ysgol yn Unig (39 wythnos) 32.5 awr yr wythnos
Mae hwn yn swydd cyflenwi ar gyfer cyfnod mamolaeth a disgwylir iddo
ddechrau ar 4 Ionawr 2027
Swydd cyfnod mamolaeth yw hon, a bydd yn para cyhyd â chyfnod absenoldeb mamolaeth deiliad y swydd barhaol.
Rydym yn chwilio am rywun sydd wir eisiau gwneud gwahaniaeth i fywydau pobl ifanc; rhywun sy'n barod i fod a gwneud gwahaniaeth. Rhywun sydd am helpu ein disgyblion ag ASD ac Ymddygiad Heriol Difrifol i gyflawni eu potensial i fod yn unigolion iach, llwyddiannus sy'n meithrin rhagoriaeth. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn ymrwymedig ac yn barod i ddelio â heriau rheolaidd wrth iddynt godi. Mae gwytnwch yn ogystal ag ymagwedd agored a gonest yn hanfodol yn y rôl hon.
Gan adrodd i'r Athro Dosbarth, bydd gan yr ymgeisydd delfrydol gymhwyster NVQ lefel 3 neu gyfwerth. Byddwch yn hyderus wrth gefnogi gwersi ac yn chwaraewr tîm rhagorol. Mae dulliau cadarnhaol o gefnogi ymddygiad a phrofiad sylweddol o weithio gyda phobl ifanc ag anghenion cymhleth difrifol yn hanfodol.
Fel cynorthwyydd addysgu yn yr ysgol hon byddwch yn cefnogi disgyblion ag Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) cymhleth a dwys ar sail 1:1 a grŵp bach.
Byddwch yn gweithio ochr yn ochr â'r athrawes/athro dosbarth i gynnig amgylchedd dysgu ysgogol a diddorol i bob disgybl a gweithredu strategaethau ymddygiad cadarnhaol gan gynnwys chwarae/therapi synhwyraidd, "Nawr a Nesaf", tynnu sylw, a llawer mwy. Gan fod y dosbarthiadau yn yr ysgol hon yn fach, gyda'r dosbarth mwyaf
yn cynnwys 12 disgybl, bydd gennych gefnogaeth lawn yr athrawes/athro dosbarth ac o leiaf 2 gynorthwyydd addysgu arall. Gan y byddwch yn cefnogi ADY cymhleth, byddwch yn monitro ymddygiad a chyflyrau emosiynol disgyblion yn agos, gan addasu eich dull i weddu orau i'r disgyblion unigol.

Mae angen Gwiriad Manylach y DBS i'r swydd hon