MANYLION.
  • Lleoliad: Heb ei ddarparu
  • Pwnc: Heb ei ddarparu
  • Oriau: Llawn amser
  • Cytundeb : Heb ei ddarparu
  • Dyddiad Dechrau: Heb ei ddarparu
  • Dyddiad Gorffen: Heb ei ddarparu
  • Math o gyflog : Per annum
  • Cyflog : £27,709 - £29,542 Pro Rata | Grade 4
  • Iaith: Unrhyw
  • Dyddiad Cau: 03 Rhagfyr, 2026 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Cynorthwywyr Addysgu Lefel 2 - Ysgol Gynradd Gymunedol Woodlands

Torfaen Local Authority

Cyflog: £27,709 - £29,542 Pro Rata | Grade 4

Mae gennym ni 2 swydd wag ar gyfer Cynorthwywyr Addysgu i ddechrau - 1x parhaol, 1x

Blwyddyn o gontract dros dro

32.5 awr yr wythnos, 8:30am - 3:30pm

Mae Woodlands yn ysgol lwyddiannus iawn sy'n canolbwyntio ar y gymuned. Cafodd radd 'Ardderchog''

gan Estyn yn 2014 ac eto yn 2019.

Gallwn gynnig i chi:
  • Ysgol ddeinamig gyda disgwyliadau uchel
  • Staff cyfeillgar, brwdfrydig, a phlant gwych
  • Cyfleoedd i ddatblygu'n broffesiynol

Dylai ymgeiswyr:
  • Fwynhau herio, cefnogi ac ysgogi plant
  • Ymdrechu i sicrhau bod y dysgu yn ddifyr ac yn berthnasol
  • Bod yn llawn cymhelliant
  • Gallu gweithio yn rhan o dîm
  • Ymrwymo i feithrin a chodi safonau ar gyfer pob plentyn
  • Bod yn gynhwysol a hyrwyddo ethos o dderbyn

Am drafodaeth anffurfiol ynglŷn â'r swydd wag hon, cysylltwch â Claire Gratton drwy e-bost - claire.gratton@torfaen.gov.uk

Tynnu'r Rhestr Fer: Dydd Gwener, 4 Rhagfyr 2026

Arsylwadau: O ddydd Llun, 7 Rhagfyr 2026

Cyfweliadau: Dydd Iau, 10 Rhagfyr 2026

Mae'n hanfodol eich bod yn dangos sut rydych yn bodloni'r meini prawf Hanfodol a restrir yn y Fanyleb Person atodol, er mwyn sicrhau cyfweliad: Sut i wneud cais Canllaw i ymgeiswyr Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen .

Mae'r swyddhon wedi' iheithrio o Ddeddf Adsefydlu Troseddwyr 1974. Bydd proses sgrinio gynhwysfawr yn cael ei chynnal ar gyfer pob ymgeisydd a fydd yn cynnwys gwiriad Manwl gyda'r Gwasanaeth Datgelua Gwahardd.

Mae Cyngor Bwrdeistref Siriol Torfaen yn ymdrechu i fod yn gyflogwr teg, cefnogol ac effeithiol. Mae'r Cyngor wedi ymrwymo i ddiogelu a hyrwyddo llesiant plant, pobl ifanc ac oedolion sy'n agored i niwed. Mae'r Cyngor yn disgwyl i'w gyflogeion, boed yn gweithio am dâl neu'n ddi-dâl, i rannu'r ymrwymiad hwn. Rydym yn gwerthfawrogi'r ystod o brofiadau a ddaw yn sgil gweithlu amrywiol ac felly rydym yn croesawu ceisiadau gan bobl o bob cefndir a grwpiau sy'n cael eu tangynrychioli.

Mae angen cofrestru gyda Chyngor y Gweithlu Addysg ar gyfer y swydd hon.

Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y rôl hon ond nid ydynt yn hanfodol.Mae croeso i chi gyflwyno eich ffurflen gais yn Gymraeg neu yn Saesneg. Bydd pob cais yn cael ei drin yn gyfartal.

Rydyn ni wedi cofrestru fel ArweinyddHyderus o ran Anabledd, ac ymrwymo i gyflogi a datblygu gyrfaoedd pobl anabl. Mae ein Cynllun Gwarantu Cyfweliad yn gwarantu y bydd pobl ag anableddau yn cael eu gwahodd i gyfweliad, ar yr amod eu bod yn bodloni'r gofynion hanfodol ar gyfer y rôl. Os oes gennych gyflwr iechyd, os ydych yn niwroamrywiol, neu'n defnyddio Iaith Arwyddion Prydain, a hoffech drafod addasiadau rhesymol, cysylltwch â'r rheolwr recriwtio. Gallwn weithio gyda chi i drefnu addasiadau os ydym yn gwybod pa ofynion sydd gennych, cyn i chi gyflwyno'ch cais, sefyll prawf neu ddod i gyfweliad.

Gwnewch yn siŵr mai drwy wefan swyddi gwag Cyngor Torfaen yn unig yr ydych chi'n gwneud cais am y swydd hon. Nid ydym yn derbyn CVs na cheisiadau sy'n cael eu cyflwyno ar unrhyw wefannau eraill.