MANYLION
  • Lleoliad: Deeside, Flintshire, CH5 4BR
  • Testun: Darlithydd
  • Oriau: Amser llawn
  • Cytundeb: Parhaol
  • Math o gyflog: Blynyddol
  • Salary Range: £26,911 - £41,598
  • Iaith: Saesneg
  • Dyddiad Cau: 09 Gorffennaf, 2021 11:45 y.p

This job application date has now expired.

Darlithydd mewn Gweithgynhyrchu a Pheirianneg Fecanyddol

Darlithydd mewn Gweithgynhyrchu a Pheirianneg Fecanyddol

Coleg Cambria
Rhagori ar ddisgwyliadau drwy addysg, arloesedd ac ysbrydoliaeth...

Teitl y Swydd: Darlithydd mewn Gweithgynhyrchu a Pheirianneg Fecanyddol

Lleoliad: Glannau Dyfrdwy

Y Math o Gontract: Llawn Amser - Parhaol

Cyflog: £26,911 - £41,598



Mae Coleg Cambria yn chwilio am Ddarlithydd mewn Peirianneg Fecanyddol a Trydanol i ymuno â’r adran Peirianneg Uwch ar ein safle Glannau Dyfrdwy. Eich cyfrifoldeb fydd cyflwyno o Lefel 2 i Lefel 6 o mewn meysydd pwnc sy’n cynnwys Gwyddoniaeth Fecanyddol, Deunyddiau, CAD/CNC a systemau Gweithgynhyrchu.

Felly mae'n bwysig bod gennych sgiliau a phrofiad helaeth mewn amgylchedd Gweithgynhyrchu neu eisoes yn cyflwyno cwrs tebyg mewn amgylchedd coleg addysg bellach.



Gofynion Hanfodol

Gradd neu Gyfwerth (Cymhwyster Lefel 6) mewn Gweithgynhyrchu / Peirianneg Fecanyddol

Cymhwyster TAR neu’n barod i weithio at hynny

Profiad profedig helaeth o fewn diwydiant Gweithgynhyrchu / Peirianneg Fecanyddol



Mae Coleg Cambria wedi ymrwymo i hyrwyddo proffil y Gymraeg.

Mae sgiliau Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon.

Mae Coleg Cambria yn gyflogwr ‘Hyderus o ran Anableddau’.

Mae hyrwyddo Cydraddoldeb ac Amrywiaeth yn rhan hanfodol o’n gwaith, ac mae’r coleg wedi ymrwymo i gael grŵp staff amrywiol fel rhan o hynny.

Mae diogelwch plant, pobl ifanc ac oedolion y nodwyd eu bod yn ‘agored i niwed’ yn hollbwysig ac mae Coleg Cambria wedi ymrwymo’n llwyr i ddiogelu a hyrwyddo lles yr unigolion hyn ac i weithredu gweithdrefnau a threfniadau’r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) yn drwyadl. Byddwn yn gofyn am wiriad DBS gan yr ymgeisydd llwyddiannus a fydd yn cael cynnig y swydd. Yn dibynnu ar y swydd y byddwch yn gwneud cais amdani ac os ydych yn llwyddiannus, efallai bydd gofyn i chi gofrestru gyda Chyngor y Gweithlu Addysg.

Sylwer fod Coleg Cambria yn cadw’r hawl i gau’r rhestr ymgeiswyr yn gynnar ar gyfer unrhyw swydd pe byddwn yn derbyn nifer fawr o geisiadau. Byddwn yn argymell eich bod yn cwblhau eich cais cyn gynted â phosibl os hoffech gael eich ystyried ar gyfer y swydd hon.

Dyddiad cau i wneud cais: 09/07/21
JOB REQUIREMENTS
Gofynion Hanfodol

Gradd neu Gyfwerth (Cymhwyster Lefel 6) mewn Gweithgynhyrchu / Peirianneg Fecanyddol

Cymhwyster TAR neu’n barod i weithio at hynny

Profiad profedig helaeth o fewn diwydiant Gweithgynhyrchu / Peirianneg Fecanyddol