MANYLION.
Ymgeisiwch Nawr (CY)
- Lleoliad: Heb ei ddarparu
- Pwnc: Heb ei ddarparu
- Oriau: Rhan amser
- Cytundeb : Heb ei ddarparu
- Dyddiad Dechrau: Heb ei ddarparu
- Dyddiad Gorffen: Heb ei ddarparu
- Math o gyflog : Fesul awr
- Cyflog : £13.70 per hour
- Iaith: Unrhyw
- Dyddiad Cau: 27 Tachwedd, 2026 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (EN)
Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.
Relief Breakfast Club Assistant - Ysgol Gymraeg Gwynllyw
Torfaen Local Authority
Cyflog: £13.70 per hour
Mae Corff Llywodraethu Ysgol Gymraeg Gwynllyw yn galw am geisiadau i lenwi swydd Goruchwylydd Clwb Brecwast.Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gyfrifol am:
Sicrhau diogelwch, llesiant cyffredinol ac ymddygiad disgyblion yn ystod y clwb brecwast
- Goruchwylio disgyblion mewn ardaloedd penodol o'r ysgol yn ystod y clwb brecwast, sicrhau eu diogelwch, eu llesiant a'u hymddygiad cyffredinol trwy gymhwyso polisïau a gweithdrefnau'r ysgol yn briodol.
- Sicrhau bod ymddygiad yn ddiogel ac yn addas drwy ymyrraeth effeithiol neu gyfeirio at uwch aelodau staff.
- Goruchwylio disgyblion wrth iddynt fynd i mewn ac allan o'r ardaloedd bwyta, a sicrhau eu bod yn cadw at unrhyw ofynion hylendid personol.
- Cadw trefn dda yn yr ardaloedd bwyta
Am drafodaeth anffurfiol ynglŷn â'r swydd wag hon, cysylltwch â Mrs Vicki Pothecary ar Victoria.woodward@gwynllyw.cymru / 01495 750405.
Mae'n hanfodol eich bod yn dangos sut rydych yn bodloni'r meini prawf Hanfodol a restrir yn y Fanyleb Person atodol, er mwyn sicrhau cyfweliad: Sut i wneud cais Canllaw i ymgeiswyr Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen .
Mae'r swyddhon wedi' iheithrio o Ddeddf Adsefydlu Troseddwyr 1974. Bydd proses sgrinio gynhwysfawr yn cael ei chynnal ar gyfer pob ymgeisydd a fydd yn cynnwys gwiriad Manwl gyda'r Gwasanaeth Datgelua Gwahardd.
Mae Cyngor Bwrdeistref Siriol Torfaen yn ymdrechu i fod yn gyflogwr teg, cefnogol ac effeithiol. Mae'r Cyngor wedi ymrwymo i ddiogelu a hyrwyddo llesiant plant, pobl ifanc ac oedolion sy'n agored i niwed. Mae'r Cyngor yn disgwyl i'w gyflogeion, boed yn gweithio am dâl neu'n ddi-dâl, i rannu'r ymrwymiad hwn. Rydym yn gwerthfawrogi'r ystod o brofiadau a ddaw yn sgil gweithlu amrywiol ac felly rydym yn croesawu ceisiadau gan bobl o bob cefndir a grwpiau sy'n cael eu tangynrychioli.
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y rôl hon ond nid ydynt yn hanfodol. Mae croeso i chi gyflwyno eich ffurflen gais yn Gymraeg neu yn Saesneg. Bydd pob cais yn cael ei drin yn gyfartal.
Rydyn ni wedi cofrestru fel ArweinyddHyderus o ran Anabledd, ac ymrwymo i gyflogi a datblygu gyrfaoedd pobl anabl. Mae ein Cynllun Gwarantu Cyfweliad yn gwarantu y bydd pobl ag anableddau yn cael eu gwahodd i gyfweliad, ar yr amod eu bod yn bodloni'r gofynion hanfodol ar gyfer y rôl. Os oes gennych gyflwr iechyd, os ydych yn niwroamrywiol, neu'n defnyddio Iaith Arwyddion Prydain, a hoffech drafod addasiadau rhesymol, cysylltwch â'r rheolwr recriwtio. Gallwn weithio gyda chi i drefnu addasiadau os ydym yn gwybod pa ofynion sydd gennych, cyn i chi gyflwyno'ch cais, sefyll prawf neu ddod i gyfweliad.
Gwnewch yn siŵr mai drwy wefan swyddi gwag Cyngor Torfaen yn unig yr ydych chi'n gwneud cais am y swydd hon. Nid ydym yn derbyn CVs na cheisiadau sy'n cael eu cyflwyno ar unrhyw wefannau eraill.