MANYLION.
Ymgeisiwch Nawr (CY)
- Lleoliad: Heb ei ddarparu
- Pwnc: Heb ei ddarparu
- Oriau: Llawn amser
- Cytundeb : Heb ei ddarparu
- Dyddiad Dechrau: Heb ei ddarparu
- Dyddiad Gorffen: Heb ei ddarparu
- Math o gyflog : Per annum
- Cyflog : £33,673 - £36,581 Pro Rata | Grade 6
- Iaith: Unrhyw
- Dyddiad Cau: 26 Tachwedd, 2026 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (EN)
Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.
Cyflog: £33,673 - £36,581 Pro Rata | Grade 6
Dros Dro (Cyfnod Mamolaeth)Dyddiad cychwyn 1 Ionawr 2027, neu cyn gynted â phosibl (yn amodol ar wiriadau cyn-gyflogaeth)
Mae Croesyceiliog yn chwilio am Gydlynydd Dysgu i ymuno â'n tîm ymroddgar o weithwyr proffesiynol. Dyma gyfle cyffrous i fod yn rhan o dîm cryf a phrofiadol mewn ysgol uchelgeisiol dros ben sy'n canolbwyntio'n llwyr ar ddarparu pob cyfle posibl i ddisgyblion berfformio ar eu gorau.
Fel Cydlynydd Dysgu, byddwch yn chwarae rhan ganolog wrth sicrhau parhad dysgu yn ystod absenoldebau tymor byr staff addysgu. Byddwch yn goruchwylio dosbarthiadau cyfan, yn cyflwyno deunyddiau gwersi a baratowyd ymlaen llaw, yn cadw trefn dda, ac yn sicrhau bod disgyblion yn cadw ar dasg ac yn ymgysylltu â'u dysgu. Er nad yw'r rôl yn cynnwys cynllunio neu asesu ffurfiol, byddwch yn rhoi esboniadau clir, yn modelu dysgu lle bo hynny'n briodol, ac yn cynnig adborth ar lafar i gefnogi cynnydd disgyblion.
Byddwch yn creu ac yn cynnal amgylchedd dysgu cadarnhaol, pwrpasol, gan hyrwyddo disgwyliadau uchel o ran ymddygiad, ymdrech ac agweddau at ddysgu. Byddwch yn gweithio ar draws ystod o bynciau, a bydd angen i chi allu addasu a bod yn hyderus wrth arwain grwpiau o bobl ifanc, a gallu ymateb i gwestiynau a chamargraffiadau disgyblion wrth iddynt godi. Byddwch hefyd yn rhoi adborth i staff addysgu am ymgysylltiad disgyblion a'u cynnydd, gan helpu i gefnogi addysgu a dysgu effeithiol ar draws yr ysgol.
Y tu hwnt i oruchwylio yn yr ystafell ddosbarth, byddwch yn cyfrannu at waith ehangach yr ysgol, gan gynnwys rhoi cymorth gweinyddol pan nad oes angen rhywun i gyflenwi, a chefnogi blaenoriaethau ysgol-gyfan fel llythrennedd, rhifedd, a defnyddio TGCh. Mae'r rôl yn gofyn am safon addysg dda, sgiliau cyfathrebu cryf, a phrofiad o weithio gyda phobl ifanc, ochr yn ochr â'r gallu i feithrin perthnasoedd cadarnhaol, dangos gwytnwch, a gweithio'n effeithiol yn rhan o dîm.
Disgwylir i Gydlynwyr Dysgu gynnal gwerthoedd yr ysgol ar bob adeg, gan gefnogi datblygiad personol disgyblion a'u dyheadau, a dangos ymrwymiad i ddiogelu, cynhwysiant a dysgu proffesiynol parhaus.
Mae'n hanfodol eich bod yn dangos sut rydych yn bodloni'r meini prawf Hanfodol a restrir yn y Fanyleb Person atodol, er mwyn sicrhau cyfweliad: Sut i wneud cais Canllaw i ymgeiswyr Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen .
Mae'r swyddhon wedi' iheithrio o Ddeddf Adsefydlu Troseddwyr 1974. Bydd proses sgrinio gynhwysfawr yn cael ei chynnal ar gyfer pob ymgeisydd a fydd yn cynnwys gwiriad Manwl gyda'r Gwasanaeth Datgelua Gwahardd.
Mae angen cofrestru gyda Chyngor y Gweithlu Addysg ar gyfer y swydd hon.
Mae Cyngor Bwrdeistref Siriol Torfaen yn ymdrechu i fod yn gyflogwr teg, cefnogol ac effeithiol. Mae'r Cyngor wedi ymrwymo i ddiogelu a hyrwyddo llesiant plant, pobl ifanc ac oedolion sy'n agored i niwed. Mae'r Cyngor yn disgwyl i'w gyflogeion, boed yn gweithio am dâl neu'n ddi-dâl, i rannu'r ymrwymiad hwn. Rydym yn gwerthfawrogi'r ystod o brofiadau a ddaw yn sgil gweithlu amrywiol ac felly rydym yn croesawu ceisiadau gan bobl o bob cefndir a grwpiau sy'n cael eu tangynrychioli.
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y rôl hon ond nid ydynt yn hanfodol.Mae croeso i chi gyflwyno eich ffurflen gais yn Gymraeg neu yn Saesneg. Bydd pob cais yn cael ei drin yn gyfartal.
Rydyn ni wedi cofrestru fel ArweinyddHyderus o ran Anabledd, ac ymrwymo i gyflogi a datblygu gyrfaoedd pobl anabl. Mae ein Cynllun Gwarantu Cyfweliad yn gwarantu y bydd pobl ag anableddau yn cael eu gwahodd i gyfweliad, ar yr amod eu bod yn bodloni'r gofynion hanfodol ar gyfer y rôl. Os oes gennych gyflwr iechyd, os ydych yn niwroamrywiol, neu'n defnyddio Iaith Arwyddion Prydain, a hoffech drafod addasiadau rhesymol, cysylltwch â'r rheolwr recriwtio. Gallwn weithio gyda chi i drefnu addasiadau os ydym yn gwybod pa ofynion sydd gennych, cyn i chi gyflwyno'ch cais, sefyll prawf neu ddod i gyfweliad.
Gwnewch yn siŵr mai drwy wefan swyddi gwag Cyngor Torfaen yn unig yr ydych chi'n gwneud cais am y swydd hon. Nid ydym yn derbyn CVs na cheisiadau sy'n cael eu cyflwyno ar unrhyw wefannau eraill.