MANYLION.
  • Lleoliad: Heb ei ddarparu
  • Pwnc: Heb ei ddarparu
  • Oriau: Llawn amser
  • Cytundeb : Heb ei ddarparu
  • Dyddiad Dechrau: Heb ei ddarparu
  • Dyddiad Gorffen: Heb ei ddarparu
  • Math o gyflog : Heb ei Gyflenwi
  • Cyflog : Teacher's Core Pay Scale 1-8
  • Iaith: Unrhyw
  • Dyddiad Cau: 25 Tachwedd, 2026 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Athro/Athrawes Saesneg - Ysgol Gyfun Croesyceiliog

Torfaen Local Authority

Cyflog: Teacher's Core Pay Scale 1-8

Dros Dro (Cyfnod Mamolaeth)

Dyddiad cychwyn: 15 Chwefror 2027

Yn ein hadran Saesneg, mae gennym dîm ymroddgar o weithwyr proffesiynol brwdfrydig a'u nod yw gyrru ein hangerdd dros sgiliau cyfathrebu rhagorol ar draws yr ysgol. Cefnogir hyn gan gymuned ehangach yr ysgol sy'n canolbwyntio'n llwyr ar ddarparu pob cyfle i ddisgyblion berfformio ar eu gorau.

Caiff Saesneg ei haddysgu fel pwnc ar draws Cyfnod Allweddol 3. Rydym yn falch iawn o'n dull gweithredu newydd sy'n cael ei yrru gan gysyniadau wrth fynd ar drywydd y cwricwlwm. Yng Nghyfnod Allweddol 4 mae'r ysgol yn dilyn manyleb CBAC ar gyfer Saesneg Iaith a Saesneg Llenyddiaeth. Caiff pob gwers ei haddysgu mewn ystafelloedd dosbarth sydd ag adnoddau da. Mae gan yr adran ddisgwyliadau uchel iawn o'i disgyblion, ac mae hyn yn amlwg yn ei safonau rhagorol ar lefel TGAU, sy'n uwch na chyfartaledd Cymru, a'r AALl, dan arweiniad Cyfarwyddwr Iaith, Llythrennedd a Chyfathrebu talentog, a'u tîm.

O fewn ein tîm Maes Dysgu a Phrofiad Llythrennedd, Iaith a Chyfathrebu, mae yna gyfoeth o brofiad, arfer da ac ymrwymiad. Mae gennym un Arweinydd Cyfadran sy'n goruchwylio tri Phrif Ymarferydd ar gyfer Saesneg, Cymraeg ac Ieithoedd Tramor Modern. Mae aelodau'r gyfadran yn gweithio'n agos gyda'i gilydd, ac yn credu'n gryf mewn cydweithio a rhannu syniadau er mwyn datblygu arbenigedd proffesiynol, i wella profiad dysgu ein disgyblion.

Mae pob aelod newydd o staff yn dilyn rhaglen sefydlu gref iawn, sy'n cynnwys aelod o staff penodol i gefnogi gydag elfennau gweithredol ymuno ag ysgol newydd, yn ogystal â phecyn cymorth wedi'i deilwra i ddiwallu anghenion unigol. Mae pob aelod o staff addysgu hefyd yn cael dyfais liniadur 2-mewn-1 gan yr ysgol.

Disgwylir i'r ymgeisydd cywir gyfrannu at ddatblygu'r cwricwlwm yn unol â'r Cwricwlwm i Gymru, ac addysgu ar draws y ddau gyfnod allweddol. Ein nod yng Nghroesyceiliog yw trwytho ein disgyblion yn ein hethos o 'Ddysgu, Parch ac Uchelgais' i sicrhau y gall pob unigolyn ifanc gyflawni ei botensial llawn. I'n staff, rydym yn cynnig amgylchedd gwaith cadarnhaol, datblygiad personol a phroffesiynol, ethos tîm cryf, a chydnabyddiaeth am waith sy'n cael ei wneud yn dda.

Mae'n hanfodol eich bod yn dangos sut rydych yn bodloni'r meini prawf Hanfodol a restrir yn y Fanyleb Person atodol, er mwyn sicrhau cyfweliad: Sut i wneud cais Canllaw i ymgeiswyr Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen .

Mae'r swyddhon wedi' iheithrio o Ddeddf Adsefydlu Troseddwyr 1974. Bydd proses sgrinio gynhwysfawr yn cael ei chynnal ar gyfer pob ymgeisydd a fydd yn cynnwys gwiriad Manwl gyda'r Gwasanaeth Datgelua Gwahardd.

Mae angen cofrestru gyda Chyngor y Gweithlu Addysg ar gyfer y swydd hon.

Mae Cyngor Bwrdeistref Siriol Torfaen yn ymdrechu i fod yn gyflogwr teg, cefnogol ac effeithiol. Mae'r Cyngor wedi ymrwymo i ddiogelu a hyrwyddo llesiant plant, pobl ifanc ac oedolion sy'n agored i niwed. Mae'r Cyngor yn disgwyl i'w gyflogeion, boed yn gweithio am dâl neu'n ddi-dâl, i rannu'r ymrwymiad hwn. Rydym yn gwerthfawrogi'r ystod o brofiadau a ddaw yn sgil gweithlu amrywiol ac felly rydym yn croesawu ceisiadau gan bobl o bob cefndir a grwpiau sy'n cael eu tangynrychioli.

Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y rôl hon ond nid ydynt yn hanfodol.Mae croeso i chi gyflwyno eich ffurflen gais yn Gymraeg neu yn Saesneg. Bydd pob cais yn cael ei drin yn gyfartal.

Rydyn ni wedi cofrestru fel ArweinyddHyderus o ran Anabledd, ac ymrwymo i gyflogi a datblygu gyrfaoedd pobl anabl. Mae ein Cynllun Gwarantu Cyfweliad yn gwarantu y bydd pobl ag anableddau yn cael eu gwahodd i gyfweliad, ar yr amod eu bod yn bodloni'r gofynion hanfodol ar gyfer y rôl. Os oes gennych gyflwr iechyd, os ydych yn niwroamrywiol, neu'n defnyddio Iaith Arwyddion Prydain, a hoffech drafod addasiadau rhesymol, cysylltwch â'r rheolwr recriwtio. Gallwn weithio gyda chi i drefnu addasiadau os ydym yn gwybod pa ofynion sydd gennych, cyn i chi gyflwyno'ch cais, sefyll prawf neu ddod i gyfweliad.

Gwnewch yn siŵr mai drwy wefan swyddi gwag Cyngor Torfaen yn unig yr ydych chi'n gwneud cais am y swydd hon. Nid ydym yn derbyn CVs na cheisiadau sy'n cael eu cyflwyno ar unrhyw wefannau eraill.