MANYLION.
Ymgeisiwch Nawr (CY)
- Lleoliad: Heb ei ddarparu
- Pwnc: Heb ei ddarparu
- Oriau: Rhan amser
- Cytundeb : Heb ei ddarparu
- Dyddiad Dechrau: Heb ei ddarparu
- Dyddiad Gorffen: Heb ei ddarparu
- Math o gyflog : Fesul awr
- Cyflog : £13.70 per hour
- Iaith: Unrhyw
- Dyddiad Cau: 27 Tachwedd, 2026 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (EN)
Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.
Cyflog: £13.70 per hour
Dros Dro (Blwyddyn yn y lle cyntaf)Yn Ysgol Gymraeg Gwynllyw, rydym yn chwilio am lanhawr deinamig a dibynadwy i weithio'n rhan o'n tîm cyfeillgar i gyflawni amrywiaeth o dasgau a dyletswyddau glanhau rheolaidd ac un tro, yn unol â chyfarwyddyd eu rheolwr llinell.
YR HYN RYDYN NI'N EI GYNNIG
- Tîm o weithwyr proffesiynol ymroddgar a chyfeillgar.
- Parcio ar y safle.
- Cynllun Pensiwn.
- Buddion i weithwyr, fel talebau gofal plant a gostyngiadau mewn siopau.
- Cyfle i fod yn rhan o gymuned ehangach yr ysgol.
GOFYNION Y SWYDD:
- Glanhau ystafelloedd dosbarth a mannau a rennir bob dydd
- Sicrhau bod ystafelloedd ymolchi yn cael eu cadw'n lân
- Mopio lloriau caled a defnyddio peiriant sugno llwch ar garpedi
- Sychu pob eitem o ddodrefn, gosodiadau a ffitiadau gyda chlwt llaith, gwagio biniau
BYDD YR YMGEISYDD IAWN YN GALLU:
- Rheoli amser yn effeithiol i gwblhau tasgau i lefel uchel.
- Gweithio heb fawr o oruchwyliaeth.
- Parchu a gwerthfawrogi'r gwahanol brofiadau, syniadau a chefndiroedd y gall eraill eu cyflwyno i'r gwaith a'r timau.
- Dangos hyblygrwydd o ran oriau gwaith.
- Dangos ymrwymiad i hapusrwydd, llesiant, hunan-barch a chynnydd pawb yn yr ysgol.
Am drafodaeth anffurfiol ynglŷn â'r swydd wag hon, cysylltwch â Mrs Vicki Woodward ar 01495 750405 / Victoria.Woodward@Gwynllyw.Cymru
Mae'n hanfodol eich bod yn dangos sut rydych yn bodloni'r meini prawf Hanfodol a restrir yn y Fanyleb Person atodol, er mwyn sicrhau cyfweliad: Sut i wneud cais Canllaw i ymgeiswyr Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen .
Mae'r swyddhon wedi' iheithrio o Ddeddf Adsefydlu Troseddwyr 1974. Bydd proses sgrinio gynhwysfawr yn cael ei chynnal ar gyfer pob ymgeisydd a fydd yn cynnwys gwiriad Manwl gyda'r Gwasanaeth Datgelua Gwahardd.
Mae Cyngor Bwrdeistref Siriol Torfaen yn ymdrechu i fod yn gyflogwr teg, cefnogol ac effeithiol. Mae'r Cyngor wedi ymrwymo i ddiogelu a hyrwyddo llesiant plant, pobl ifanc ac oedolion sy'n agored i niwed. Mae'r Cyngor yn disgwyl i'w gyflogeion, boed yn gweithio am dâl neu'n ddi-dâl, i rannu'r ymrwymiad hwn. Rydym yn gwerthfawrogi'r ystod o brofiadau a ddaw yn sgil gweithlu amrywiol ac felly rydym yn croesawu ceisiadau gan bobl o bob cefndir a grwpiau sy'n cael eu tangynrychioli.
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y rôl hon ond nid ydynt yn hanfodol. Mae croeso i chi gyflwyno eich ffurflen gais yn Gymraeg neu yn Saesneg. Bydd pob cais yn cael ei drin yn gyfartal.
Rydyn ni wedi cofrestru fel ArweinyddHyderus o ran Anabledd, ac ymrwymo i gyflogi a datblygu gyrfaoedd pobl anabl. Mae ein Cynllun Gwarantu Cyfweliad yn gwarantu y bydd pobl ag anableddau yn cael eu gwahodd i gyfweliad, ar yr amod eu bod yn bodloni'r gofynion hanfodol ar gyfer y rôl. Os oes gennych gyflwr iechyd, os ydych yn niwroamrywiol, neu'n defnyddio Iaith Arwyddion Prydain, a hoffech drafod addasiadau rhesymol, cysylltwch â'r rheolwr recriwtio. Gallwn weithio gyda chi i drefnu addasiadau os ydym yn gwybod pa ofynion sydd gennych, cyn i chi gyflwyno'ch cais, sefyll prawf neu ddod i gyfweliad.
Gwnewch yn siŵr mai drwy wefan swyddi gwag Cyngor Torfaen yn unig yr ydych chi'n gwneud cais am y swydd hon. Nid ydym yn derbyn CVs na cheisiadau sy'n cael eu cyflwyno ar unrhyw wefannau eraill.