MANYLION.
Ymgeisiwch Nawr (CY)
- Lleoliad: Gwynedd,
- Pwnc: Heb ei ddarparu
- Oriau: Heb ei ddarparu
- Cytundeb : Dros dro
- Dyddiad Dechrau: Heb ei ddarparu
- Dyddiad Gorffen: Heb ei ddarparu
- Math o gyflog : Per annum
- Cyflog : £40,594 - £42,833 y flwyddyn
- Iaith: Unrhyw
- Dyddiad Cau: 26 Tachwedd, 2026 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (EN)
Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.
Cyflog: £40,594 - £42,833 y flwyddyn
ManylionHysbyseb Swydd
Hyd Cytundeb: Dros dro am flwyddyn yn y lle cyntaf
Ydych chi'n angerddol am sicrhau bod pob plentyn a pherson ifanc yn cael y cyfle gorau i lwyddo?
Mae Gwasanaeth Cynhwysiad Gwynedd yn chwilio am Swyddog EOTAS ymroddedig a brwdfrydig i ymuno â'n tîm. Bydd y rôl yn canolbwyntio ar gefnogi dysgwyr sydd angen darpariaeth addysgol heblaw yn yr ysgol, gan gydweithio'n agos ag ysgolion, teuluoedd a phartneriaid i sicrhau bod pob dysgwr yn cael mynediad at addysg briodol, gynhwysol o safon.
Mae gan Cyngor Gwynedd becyn cyflogaeth deniadol, am ragor o wybodaeth cliciwch ar y Pecyn Gwybodaeth
Mae Cyngor Gwynedd yn gweithredu'n fewnol trwy gyfrwng y Gymraeg ac yn cynnig ei holl wasanaethau yn ddwyieithog. Bydd angen i'r ymgeisydd gyrraedd y lefel ieithyddol sy'n cael ei nodi fel un o'r sgiliau hanfodol yn y Manylion Person.
Rydym yn annog pob ymgeisydd am swydd gyda'r Cyngor i gyflwyno ceisiadau yn Gymraeg neu yn ddwyieithog.
(Bydd ceisiadau sydd yn cael eu cyflwyno yn uniaith Gymraeg neu Saesneg yn cael eu trin yn gwbl gyfartal, ond gofynnir i'r ymgeisydd ystyried yn ofalus beth yw gofynion iaith y swydd a'r sefydliad ac a fyddai cyflwyno cais yn uniaith Gymraeg yn fwy addas.)
Am sgwrs anffurfiol neu manylion pellach gellir cysylltu â Ellen Rowlands ar 01286 679007 neu ellenrowlands@gwynedd.llyw.cymru
Ffurflenni cais ar gael gan , Gwasanaeth Cefnogol, Cyngor Gwynedd, Swyddfa'r Cyngor, Stryd y Jêl, Caernarfon, LL55 1SH
Ffôn: 01286 679076 eBost: Swyddi@gwynedd.llyw.cymru
DYDDIAD C AU: 26/11/2026
Bydd y Cyngor yn gofyn am ddadleniad gan y Swyddfa Cofnodion Troseddol ar gyfer yr ymgeisydd llwyddiannus.
Os yn llwyddiannus i fod ar y rhestr fer am gyfweliad, byddwn yn cysylltu a chwi drwy'r cyfeiriad E-BOST a gofnodwyd gennych ar eich ffurflen gais. Mae angen i chwi sicrhau eich bod yn gwirio eich E-BOST yn rheolaidd.
Manylion Person
Nodweddion personolHanfodol
Ymrwymiad i lesiant, cynhwysiant a hawliau plant a phobl ifanc.
Dibynadwyedd, uniondeb a chyfrinachedd.
Agwedd gadarnhaol a hyblyg at waith.
Sensitifrwydd a dealltwriaeth wrth weithio gyda theuluoedd mewn amgylchiadau heriol.
Y gallu i feithrin hyder gyda rhanddeiliaid.
Ymrwymiad i gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant.
Sgiliau cyfathrebu rhagorol ar lafar ac yn ysgrifenedig yn Gymraeg a Saesneg.
Sgiliau trefnu a blaenoriaethu cryf.
Gallu i adeiladu perthnasoedd gwaith cadarnhaol.
Gallu i ddadansoddi gwybodaeth a llunio argymhellion.
Sgiliau TG da.
Dymunol
-
Cymwysterau a hyfforddiant perthnasolHanfodol
Gradd neu gymhwyster proffesiynol perthnasol mewn addysg, cynhwysiad,
gwaith gyda phlant a phobl ifanc neu faes cysylltiedig.
Tystiolaeth o ddatblygiad proffesiynol parhaus.
Dymunol
-
Profiad perthnasolHanfodol
Profiad o weithio mewn addysg,
Profiad o weithio gyda phlant a phobl ifanc.
Profiad o gydweithio gydag ysgolion, teuluoedd neu asiantaethau partner.
Profiad o drefnu, cydlynu neu fonitro gwasanaeth neu brosiect.
Profiad o gynnal cofnodion, llunio adroddiadau a defnyddio systemau gwybodaeth.
Profiad o ddelio ag ystod eang o rhanddeiliaid mewn modd proffesiynol.
Dymunol
Profiad o weithio yn y maes cynhwysiad neu wasanaeth cymorth i ddysgwyr.
Profiad o weithio gyda dysgwyr ag ADY.
Profiad o fonitro darpariaeth allanol neu ddarparwyr gwasanaeth.
Profiad o gefnogi dysgwyr sydd mewn perygl o ddatgysylltu o addysg..
Sgiliau a gwybodaeth arbenigolHanfodol
Dealltwriaeth o rôl a diben Addysg Heblaw yn yr Ysgol (EOTAS).
Gwybodaeth am ddeddfwriaeth a chanllawiau addysg perthnasol yng Nghymru.
Dealltwriaeth o Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) a Chod ADY Cymru.
Dealltwriaeth o ddiogelu plant a phobl ifanc.
Gwybodaeth am rwystrau i ddysgu, cynhwysiant ac ymgysylltiad.
Dealltwriaeth o bwysigrwydd gwaith amlasiantaethol a gweithio mewn partneriaeth.
Sgiliau trefnu a chydlynu effeithiol.
Gallu blaenoriaethu llwyth gwaith a gweithio o fewn amserlenni tynn.
Gallu casglu, dadansoddi a chyflwyno gwybodaeth yn glir.
Gallu meithrin perthnasoedd gwaith cadarnhaol gyda dysgwyr, teuluoedd a gweithwyr proffesiynol.
Gallu gweithio'n annibynnol ac fel rhan o dîm.
Sgiliau datrys problemau a gwneud penderfyniadau.
Dymunol
Dealltwriaeth o ddarpariaethau amgen, profiad gwaith a llwybrau galwedigaethol.
Gwybodaeth am wasanaethau cymorth i blant a phobl ifanc yng Nghymru.
Anghenion ieithyddolGwrando a Siarad - Uwch
Gallu dilyn sgwrs neu drafodaeth drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg ar lefel broffesiynol a thrafod pynciau cyffredinol bob dydd yn y maes er mwyn cyflwyno gwybodaeth a mynegi barn.Gallu darparu cyflwyniad wedi'i baratoi o flaen llaw ac ymateb i unrhyw sylwadau a chwestiynau arno drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg.
Darllen a Deall - Uwch
Gallu deall Cymraeg a Saesneg ysgrifenedig safonol, ffurfiol ac anffurfiol.Medru casglu gwybodaeth o amrywiol ffynonellau megis llythyrau, adroddiadau, erthyglau, drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg er mwyn cyflawni'r swydd.
Ysgrifennu - Uwch
Cyflwyno gwybodaeth ysgrifenedig gyda hyder ar ffurf llythyr, adroddiad mwy manwl a thechnegol ac ymateb i geisiadau ysgrifenedig gan gyfleu gwybodaeth, syniadau a barn drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg. (Mae'n bosib cael cymorth i wirio'r iaith)
Swydd Ddisgrifiad
Pwrpas y swydd
• Sicrhau bod pobl Gwynedd yn ganolog i bopeth yr ydym yn ei wneud.
• Cefnogi'r Rheolwr Lles ac Addysg Gymuedol i gyflawni dyletswyddau statudol Cyngor Gwynedd mewn perthynas ag Addysg Heblaw yn yr Ysgol (EOTAS) drwy gydlynu, monitro ac adolygu darpariaethau addysgol i blant a phobl ifanc nad ydynt yn gallu cael mynediad at addysg briodol mewn ysgol brif ffrwd oherwydd salwch, gwaharddiad, anghenion cymhleth neu amgylchiadau eraill.
• Bydd deiliad y swydd yn gweithio'n agos gydag ysgolion, teuluoedd, darparwyr, cyflogwyr a gwasanaethau partner er mwyn sicrhau bod dysgwyr yn cael mynediad at ddarpariaeth addysgol briodol sy'n hyrwyddo cynnydd, llesiant, ymgysylltiad a phontio llwyddiannus i addysg, hyfforddiant neu gyflogaeth.
Cyfrifoldeb am adnoddau e.e. staff, cyllid, offer
• -
Prif ddyletswyddauCydlynu a Gweinyddu Darpariaeth EOTAS
• Cefnogi'r Rheolwr wrth gydlynu, trefnu a monitro darpariaethau EOTAS a darpariaethau amgen ar draws Gwynedd.
• Derbyn, coladu a phrosesu gwybodaeth sy'n ymwneud ag atgyfeiriadau, lleoliadau, adolygiadau a monitro cynnydd dysgwyr.
• Paratoi gwybodaeth ac adroddiadau ar gyfer paneli, cyfarfodydd adolygu a chyfarfodydd amlasiantaethol.
• Cynnal cofnodion manwl, cywir a chyfoes mewn perthynas â dysgwyr a darpariaethau EOTAS.
• Sicrhau bod gwybodaeth berthnasol yn cael ei rhannu'n briodol gydag ysgolion, teuluoedd a gwasanaethau partner.
Cefnogi Darpariaeth Addysgol
• Cefnogi trefniadau sy'n sicrhau bod dysgwyr sy'n derbyn EOTAS yn cael mynediad at ddarpariaeth addysgol briodol sy'n adlewyrchu eu hoedran, gallu, anghenion a'u dyheadau.
• Cydweithio ag ysgolion a darparwyr i gynllunio ac adolygu rhaglenni dysgu unigol.
• Monitro ymgysylltiad, cyrhaeddiad a chynnydd dysgwyr a nodi unrhyw rwystrau i ddysgu.
• Cefnogi mynediad dysgwyr at gymwysterau, achrediadau, profiadau galwedigaethol a chyfleoedd addas eraill.
• Cyfrannu at ddatblygu llwybrau dysgu hyblyg sy'n hyrwyddo cynnydd addysgol a datblygiad personol.
• Cefnogi gweithrediad egwyddorion Cwricwlwm i Gymru o fewn darpariaethau EOTAS.
Monitro ac Adolygu
• Monitro presenoldeb, ymgysylltiad, llesiant a chynnydd dysgwyr sy'n derbyn EOTAS.
• Casglu a dadansoddi gwybodaeth am ddeilliannau dysgwyr er mwyn llywio penderfyniadau ac adolygiadau.
• Cyfrannu at adolygiadau rheolaidd o ddarpariaeth EOTAS a chynlluniau pontio.
• Tynnu sylw'r Rheolwr Cynhwysiad at unrhyw bryderon ynghylch addasrwydd darpariaeth, diogelu neu gynnydd dysgwyr.
• Cefnogi trefniadau i ailintegreiddio dysgwyr i ysgolion neu ddarpariaethau addysgol eraill lle bo hynny'n briodol.
Darpariaeth Amgen, Profiad Gwaith a Phontio
• Cydlynu a monitro lleoliadau profiad gwaith estynedig, cyfleoedd galwedigaethol a rhaglenni dysgu amgen.
• Datblygu a chynnal perthnasoedd gwaith cadarnhaol gyda chyflogwyr lleol, colegau, darparwyr hyfforddiant, Gyrfa Cymru a sefydliadau partner eraill.
• Trefnu a chydlynu cyfweliadau gyrfaoedd a gweithgareddau cynllunio ôl-16.
• Cefnogi dysgwyr i bontio'n llwyddiannus i addysg bellach, hyfforddiant neu gyflogaeth.
• Monitro ac adolygu effaith lleoliadau galwedigaethol a phrofiad gwaith ar gynnydd a deilliannau dysgwyr.
Sicrhau Ansawdd Darpariaeth
• Cefnogi'r broses o fonitro ac adolygu ansawdd darparwyr EOTAS a darpariaethau amgen.
• Cynnal ymweliadau monitro lle bo angen a chynhyrchu adroddiadau perthnasol.
• Monitro cydymffurfiaeth â gofynion diogelu, iechyd a diogelwch, llywodraethu a safonau addysgol.
• Cyfrannu at weithredu polisïau, gweithdrefnau a mentrau gwasanaeth sy'n cefnogi gwelliant parhaus mewn darpariaeth EOTAS.
Gwaith Amlasiantaethol
• Gweithio'n effeithiol gydag ysgolion, gwasanaethau ADY, gwasanaethau iechyd, gwasanaethau plant a darparwyr allanol.
• Mynychu cyfarfodydd amlasiantaethol a chyfrannu at gynllunio cymorth i ddysgwyr.
• Sicrhau bod llais y dysgwr a'i deulu yn cael ei ystyried wrth gynllunio ac adolygu darpariaeth.
• Cefnogi gweithrediad unrhyw Gynllun Datblygu Unigol (CDU) lle bo hynny'n berthnasol.
Diogelu a Llesiant
• Cyflawni dyletswyddau diogelu yn unol â pholisïau a gweithdrefnau Cyngor Gwynedd.
• Nodi, cofnodi ac adrodd unrhyw bryderon diogelu neu lesiant mewn modd amserol.
• Hyrwyddo llesiant, presenoldeb ac ymgysylltiad dysgwyr ar draws pob agwedd o'r gwaith.
• Sicrhau bod pob ymweliad, lleoliad a gweithgaredd yn cael eu cynnal yn ddiogel ac yn unol â gweithdrefnau'r Cyngor
Cyfrifoldeb am hunan ddatblygiad
• Sicrhau cydymffurfiaeth â rheolau Iechyd a Diogelwch yn y gweithle yn unol â'r cyfrifoldebau a nodir yn Neddf Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle 1974 a Pholisi Iechyd a Diogelwch y Cyngor.
• Gweithredu o fewn polisïau'r Cyngor yng nghyswllt cyfle cyfartal a chydraddoldeb.
• Cyfrifoldeb am reoli gwybodaeth yn unol â safonau a chanllawiau rheoli gwybodaeth y Cyngor. Sicrhau bod gwybodaeth bersonol yn cael ei thrin mewn cydymffurfiaeth â deddfwriaeth Diogelu Data
• Ymrwymiad i leihau allyriadau carbon y Cyngor yn unol â'r Cynllun Argyfwng Hinsawdd a Natur Cyngor Gwynedd ac annog eraill i weithredu'n gadarnhaol tuag at leihau ôl-troed carbon y Cyngor.
• Ymgymryd ag unrhyw ddyletswydd arall cyfatebol a rhesymol sy'n cyd-fynd â lefel cyflog a lefel cyfrifoldeb y swydd.
• Cyfrifoldeb i adrodd am bryder neu amheuaeth bod plentyn neu oedolyn bregus yn cael ei gamdrin
Amgylchiadau arbennig
• -
- Ceisio ar lein - Sut?
- Rhestr Swyddi