MANYLION.
Ymgeisiwch Nawr (CY)
- Lleoliad: See Job Advertisement,
- Pwnc: Heb ei ddarparu
- Oriau: Heb ei ddarparu
- Cytundeb : Parhaol
- Dyddiad Dechrau: Heb ei ddarparu
- Dyddiad Gorffen: Heb ei ddarparu
- Math o gyflog : Per annum
- Cyflog : £5,967 y flwyddyn
- Iaith: Unrhyw
- Dyddiad Cau: 27 Tachwedd, 2026 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (EN)
Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.
Cymhorthydd Teithio - Cludiant Addysg - Bws Ysgol 442 - Ysgol Y Garnedd
Cyngor Gwynedd
Cyflog: £5,967 y flwyddyn
ManylionHysbyseb Swydd
Mae gan Cyngor Gwynedd becyn cyflogaeth deniadol, am ragor o wybodaeth cliciwch ar y Pecyn Gwybodaeth
Mae Cyngor Gwynedd yn gweithredu'n fewnol trwy gyfrwng y Gymraeg ac yn cynnig ei holl wasanaethau yn ddwyieithog. Bydd angen i'r ymgeisydd gyrraedd y lefel ieithyddol sy'n cael ei nodi fel un o'r sgiliau hanfodol yn y Manylion Person.
Rydym yn annog pob ymgeisydd am swydd gyda'r Cyngor i gyflwyno ceisiadau yn Gymraeg neu yn ddwyieithog.
(Bydd ceisiadau sydd yn cael eu cyflwyno yn uniaith Gymraeg neu Saesneg yn cael eu trin yn gwbl gyfartal, ond gofynnir i'r ymgeisydd ystyried yn ofalus beth yw gofynion iaith y swydd a'r sefydliad ac a fyddai cyflwyno cais yn uniaith Gymraeg yn fwy addas.)
Am sgwrs anffurfiol neu manylion pellach gellir cysylltu â Robert John Jones ar 07384 482101 neu dros ebost; RobertJohnJones@gwynedd.llyw.cymru
Rhagwelir cynnal cyfweliadau
Ffurflenni cais ar gael gan , Gwasanaeth Cefnogol, Cyngor Gwynedd, Swyddfa'r Cyngor, Stryd y Jêl, Caernarfon, LL55 1SH
Ffôn: 01286 679076 eBost: Swyddi@gwynedd.llyw.cymru
DYDDIAD C AU: 14 : 00 O'R GLOCH, 27/11/2026
Bydd y Cyngor yn gofyn am ddadleniad gan y Swyddfa Cofnodion Troseddol ar gyfer yr ymgeisydd llwyddiannus
Os yn llwyddiannus i fod ar y rhestr fer am gyfweliad, byddwn yn cysylltu a chwi drwy'r cyfeiriad E-BOST a gofnodwyd gennych ar eich ffurflen gais. Mae angen i chwi sicrhau eich bod yn gwirio eich E-BOST yn rheolaidd.
Manylion Person
Gofynion Hanfodol
- Gallu cael perthynas dda gyda phlant ac oedolion.
- Cyfranogi mewn cyfleoedd datblygu a hyfforddi
- Gallu asesu unrhyw sefyllfa a phenderfynu ar y canlyniad mwyaf addas.
- Mae gallu cyfathrebu yn Saesneg yn hanfodol, gyda Chymraeg yn fanteisiol hefyd.
- Byddwch yn cysylltu â rhieni / gwarcheidwaid, plant, athrawon a Chyngor Gwynedd.
- Gallu gwneud penderfyniadau yn y fan a'r lle am ddiogelwch a lles disgyblion ar gludiant ysgol.
- Argymell atebion i faterion a all godi ar y cludiant.
- Defnyddio unrhyw offer i gludo plant yn ddiogel.
Gofynion Dymunol
- Profiad o weithio gyda phlant.
- Profiad o weithio gyda phlant ag Anghenion Addysg Arbennig.
- Gwybodaeth addas am gymorth cyntaf sylfaenol.
- Ymwybyddiaeth o bolisïau a gweithdrefnau sy'n ymwneud ag amddiffyn plant, iechyd a diogelwch, cyfrinachedd a diogelu data.
Swydd Ddisgrifiad
Gofynion Y Swydd
- Darparu cymorth teithio ar fws ysgol 442 o Dalybont, Bangor i Ysgol Y Garnedd, Penrhosgarnedd.
- Goruchwylio a gofalu am ddisgyblion oed cynradd ar gludiant ysgol.
- Cynorthwyo disgyblion i fynd ar gerbydau cludiant, a mynd oddi arnynt, yn yr ysgol a'u cartrefi, neu mewn mannau casglu wedi'u cymeradwyo.
- Gwirio fod y dysgwyr yn defnyddio a gwisgo gwregys diogelwch yn gywir.
- Bydd yn angenrheidiol i ddeilydd y swydd gwneud trefniadau i fedru teithio i'r fan cychwyn y bws yn y bore yn Nhalybont ac o'r ysgol, ac yr un peth yn y prynhawn.
Dyletswyddau a Chyfrifoldebau
- Cefnogi disgyblion wrth deithio i'w sefydliad Addysgol ac oddi yno, mewn dull sy'n sensitif i'w hanghenion. Gweithio i gyfarwyddiadau a roddwyd cyn dechrau'r daith.
- Gweithio mewn cydweithrediad â'r gyrrwr, i sicrhau bod y gwasanaeth yn cael eu ddarparu'n broffesiynol ac yn effeithlon, ac i ymateb yn gadarnhaol i unrhyw gais rhesymol am newidiadau a ddaw i law gan y swyddogion Cludiant addysg.
- Bydd disgwyl i'r cymhorthydd teithio gadw unrhyw wybodaeth a rennir am amgylchiadau'r plentyn neu'r teulu'n gwbl gyfrinachol. Disgwylir i chwi weithredu gyda thact a diplomyddiaeth wrth siarad gyda rhieni / gwarcheidwaid a staff yr ysgol .
- Efallai y bydd yn rhaid i'r cymhorthydd gludo eitemau rhwng y cartref a'r ysgol. Gall y rhain gynnwys meddyginiaeth, offer, arian ac eitemau cyfathrebu. Dylid cadw eitemau'n ddiogel wrth deithio, a'u rhoi i'r aelod o staff sy'n gyfrifol ar ôl cyrraedd. Dylid cadw cofnod yn cofrestru'r holl eitemau a drosglwyddwyd rhwng y cymhorthydd a'r person y gwnaethant drosglwyddo'r eitemau iddynt, a rhaid cael llofnod.
- Bydd rhaid i'r cymhorthydd roi gwybod am unrhyw ddamwain neu ddigwyddiad sy'n codi wrth wneud eu dyletswyddau i'r Rheolwr Cludiant Addysg, a lle gwneir cais, rhaid llenwi a dychwelyd ffurflen sy'n rhoi gwybod am y digwyddiad. Bydd disgwyl i'r cymhorthydd ymateb yn briodol hefyd i unrhyw gamymddwyn gan ddysgwyr.
- I fynd ar gyrsiau hyfforddi perthnasol yn ôl y gofyn, gan gynnal gwybodaeth a dealltwriaeth drylwyr o dechnegau trin penodol, wrth gludo teithwyr gydag anghenion arbennig.
- Ceisio ar lein - Sut?
- Rhestr Swyddi