MANYLION.
  • Lleoliad: Llangors,
  • Pwnc: Heb ei ddarparu
  • Oriau: Rhan amser
  • Cytundeb : Dros dro
  • Dyddiad Dechrau: Heb ei ddarparu
  • Dyddiad Gorffen: Heb ei ddarparu
  • Math o gyflog : Per annum
  • Cyflog : Graddfa 3 Pwynt 3 i Bwynt 4 £25,614 i £26,016 y flwyddyn ar gyfartaledd £13.27 i £13.48 yr awr
  • Iaith: Unrhyw
  • Dyddiad Cau: 30 Tachwedd, 2026 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Goruchwyliwr Canol Dydd (Cynradd) (Ysgol Eglwys yng Nghymru Llangors)

Cyngor Sir Powys

Cyflog: Graddfa 3 Pwynt 3 i Bwynt 4 £25,614 i £26,016 y flwyddyn ar gyfartaledd £13.27 i £13.48 yr awr

Goruchwyliwr Canol Dydd (Cynradd) (Ysgol Eglwys yng Nghymru Llangors)
Swydd-ddisgrifiad
Ar hyn o bryd mae gan Gyngor Sir Powys dâl atodol Cyflog Byw Gwirioneddol yn ôl disgresiwn i weithwyr sy'n ennill llai na £13.45 yr awr.

Rydym yn chwilio am Oruchwyliwr Canol Dydd gofalgar a dibynadwy i ymuno â'n tîm cyfeillgar a chefnogol o fis Ionawr 2027 neu'n gynharach!

Oriau: 1.25 awr y dydd

Dyddiau: Dydd Llun i ddydd Gwener (yn ystod y tymor yn unig)

Lleoliad: Ysgol yr Eglwys yng Nghymru Llangors

Trosolwg o'r Rôl:

Byddwch yn gyfrifol am oruchwylio a chefnogi disgyblion yn ystod eu hamser cinio, tra byddant yn bwyta ac yn ystod chwarae ar yr iard a'r cae. Mae hon yn rôl allweddol wrth sicrhau amgylchedd diogel, hapus a chynhwysol i bob plentyn.

Rydym yn cynnig:

Tîm croesawgar a chefnogol

Cymuned ysgol gadarnhaol sy'n teimlo fel teulu

Cyfle gwerth chweil i wneud gwahaniaeth ym mhrofiad bob dydd plentyn yn yr ysgol

Os ydych chi'n mwynhau gweithio gyda phlant a bod yn rhan o amgylchedd gofalgar ysgol, byddem wrth ein bodd yn clywed oddi wrthych! E-bostiwch neu cysylltwch â swyddfa'r ysgol - 01874 658663 office@llangorse.powys.sch.uk

Mae gan y swydd hon ofyniad am Wiriad Manylach y DBS