MANYLION
  • Lleoliad: Deeside, Flintshire, CH5 4BR
  • Testun: Darlithydd
  • Oriau: Rhan amser
  • Cytundeb: Parhaol
  • Math o gyflog: Blynyddol
  • Salary Range: £21,911 - £41,598
  • Iaith: Saesneg
  • Dyddiad Cau: 09 Gorffennaf, 2021 11:45 y.p

This job application date has now expired.

Darlithydd mewn Mathemateg a Gwyddoniaeth Uwch

Darlithydd mewn Mathemateg a Gwyddoniaeth Uwch

Coleg Cambria
Rhagori ar ddisgwyliadau drwy addysg, arloesedd ac ysbrydoliaeth...

Teitl y Swydd: Darlithydd mewn Mathemateg a Gwyddoniaeth Uwch

Lleoliad: Glannau Dyfrdwy

Y Math o Gontract: Rhan-amser - Parhaol (22.2 awr yr wythnos - 3 diwrnod yr wythnos)

Cyflog: £21,911 - £41,598 - Cyflog pro rata yw hwn i adlewyrchu oriau rhan amser a bydd yn seiliedig ar asesiad cyflog a phrofiad.



Mae Coleg Cambria yn chwilio am Ddarlithydd mewn Mathemateg a Gwyddoniaeth Uwch i ymuno â’r tîm Peirianneg Uwch ar ein safle yng Nglannau Dyfrdwy. Eich cyfrifoldeb fel Darlithydd mewn Mathemateg a Gwyddoniaeth Uwch fydd cyflwyno o L2 i L6. Gyda hyn mewn cof rydym yn chwilio am brofiad helaeth yn y diwydiant Peirianneg, yn benodol o fewn cyd-destun mathemateg dechnegol.



Gofynion Hanfodol

Gyda gradd neu gyfwerth (cymhwyster Lefel 6) mewn Mathemateg Uwch neu egwyddorion Gwyddonol neu gymhwyster proffesiynol perthnasol arall.

Gyda chymhwyster TAR neu’n fodlon cyflawni’r cymhwyster.

Profiad profedig o weithio yn y diwydiant Peirianneg.

Profiad o weithio mewn cyd-destun mathemategol lefel uchel.



Mae Coleg Cambria wedi ymrwymo i hyrwyddo proffil y Gymraeg.

Mae sgiliau Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon.

Mae Coleg Cambria yn gyflogwr ‘Hyderus o ran Anableddau’.

Mae hyrwyddo Cydraddoldeb ac Amrywiaeth yn rhan hanfodol o’n gwaith, ac mae’r coleg wedi ymrwymo i gael grŵp staff amrywiol fel rhan o hynny.

Mae diogelwch plant, pobl ifanc ac oedolion y nodwyd eu bod yn ‘agored i niwed’ yn hollbwysig ac mae Coleg Cambria wedi ymrwymo’n llwyr i ddiogelu a hyrwyddo lles yr unigolion hyn ac i weithredu gweithdrefnau a threfniadau’r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) yn drwyadl. Byddwn yn gofyn am wiriad DBS gan yr ymgeisydd llwyddiannus a fydd yn cael cynnig y swydd. Yn dibynnu ar y swydd y byddwch yn gwneud cais amdani ac os ydych yn llwyddiannus, efallai bydd gofyn i chi gofrestru gyda Chyngor y Gweithlu Addysg.

Sylwer fod Coleg Cambria yn cadw’r hawl i gau’r rhestr ymgeiswyr yn gynnar ar gyfer unrhyw swydd pe byddwn yn derbyn nifer fawr o geisiadau. Byddwn yn argymell eich bod yn cwblhau eich cais cyn gynted â phosibl os hoffech gael eich ystyried ar gyfer y swydd hon.

Dyddiad cau i wneud cais: 09/07/21
JOB REQUIREMENTS
Gofynion Hanfodol

Gyda gradd neu gyfwerth (cymhwyster Lefel 6) mewn Mathemateg Uwch neu egwyddorion Gwyddonol neu gymhwyster proffesiynol perthnasol arall.

Gyda chymhwyster TAR neu’n fodlon cyflawni’r cymhwyster.

Profiad profedig o weithio yn y diwydiant Peirianneg.

Profiad o weithio mewn cyd-destun mathemategol lefel uchel.