MANYLION.
Ymgeisiwch Nawr (CY)
- Lleoliad: Schools,
- Pwnc: Heb ei ddarparu
- Oriau: Heb ei ddarparu
- Cytundeb : Parhaol
- Dyddiad Dechrau: Heb ei ddarparu
- Dyddiad Gorffen: Heb ei ddarparu
- Math o gyflog : Per annum
- Cyflog : Grŵp 2 L9 - L15 £66,421- £ 76,988 y flwyddyn
- Iaith: Unrhyw
- Dyddiad Cau: 23 Tachwedd, 2026 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (EN)
Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.
Cyflog: Grŵp 2 L9 - L15 £66,421- £ 76,988 y flwyddyn
Ysgol Morfa RhianeddFfordd Cwm, Llandudno LL30 1EG
Pennaeth mewn gofal: Miss Ffion Owen
Ffôn: 01492 577150
ebost: pennaeth@mrhianedd.conwy.sch.uk
Nifer ar y gofrestr: 134 + 29 meithrin
Yn eisiau erbyn Ebrill 2027 neu cyn gynted â phosib
PENNAETH
Cyflog: Grŵp 2 L9 - L15 £66,421- £ 76,988 y flwyddyn
Mae'r Llywodraethwyr am benodi pennaeth rhagorol, arloesol ac ymroddedig sy'n rhoi'r plentyn yn gyntaf. Mae angen arweinydd gyda dychymyg a gweledigaeth i barhau i ddatblygu'r ysgol uchel ei pharch hon. Gwahoddir ceisiadau gan benaethiaid presennol neu ymgeiswyr gyda'r cymhwyster CPCP.
Byddai'r Llywodraethwyr yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr sydd â'r canlynol:
• gweledigaeth glir am ragoriaeth addysgol ac yn angerddol ynglŷn â gwella cyflawniadau disgyblion
• sgiliau cadarn o ran arwain, trefnu a chyfathrebu
• yn medru gweithio'n llwyddiannus mewn partneriaeth â'r plant, staff, llywodraethwyr, rhieni a'r gymuned
• disgwylir i'r ymgeisydd llwyddiannus fod ag ymroddiad cadarn a brwdfrydig tuag at yr iaith Gymraeg a'i diwylliant, gan ystyried hanes, naws ac ethos yr ysgol.
Mae'r gallu i gyfathrebu trwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg yn hanfodol ar gyfer y swydd yma.
Oherwydd natur y swydd byddwn yn gofyn am ddatgeliad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd ar gyfer yr ymgeisydd llwyddiannus. Mae'n ofynnol bod yr ymgeisydd llwyddiannus yn cofrestru gyda'r Cyngor Gweithlu Addysg cyn cychwyn gweithio yn y swydd hon
Am ragor o fanylion ynglŷn â'r swydd cysylltwch gyda John Paul Jones yn yr awdurdod (01492) 574604
Dyddiad cau: Hanner nos, dydd Llun, Tachwedd 16eg 2026
Rhagwelir cynnal cyfweliadau yn yr wythnos yn cychwyn wythnos gyntaf Rhagfyr 2027
Rydym wedi ymrwymo i ddiogelu. Bydd cymwysterau a geirdaon yn cael eu dilysu. Rydym wedi ymrwymo i'n Safonau'r Gymraeg. Croesawir ceisiadau yn y Gymraeg a'r Saesneg fel ei gilydd ac ni fydd ffurflenni cais a dderbynnir yn y naill iaith na'r llall yn cael eu trin yn llai ffafriol na'i gilydd.
Wrth fynd ati i hyrwyddo Cyfle Cyfartal, rydym yn croesawu ymgeiswyr o bob rhan o'r gymuned. Bydd pob ymgeisydd anabl sy'n diwallu gofynion hanfodol y swydd yn cael cyfweliad. Byddwn yn darparu cyfleusterau gwaith addas ychwanegol ar gyfer ymgeiswyr gydag anabledd. Gall pobl anabl ddewis gwneud cais mewn gwahanol fformatau.
This form is also available in English