MANYLION.
Ymgeisiwch Nawr (CY)
- Lleoliad: Schools,
- Pwnc: Heb ei ddarparu
- Oriau: Heb ei ddarparu
- Cytundeb : Parhaol
- Dyddiad Dechrau: Heb ei ddarparu
- Dyddiad Gorffen: Heb ei ddarparu
- Math o gyflog : Per annum
- Cyflog : L8- L14 (£64,804 - £75,120 y flwyddyn)
- Iaith: Unrhyw
- Dyddiad Cau: 19 Tachwedd, 2026 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (EN)
Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.
Cyflog: L8- L14 (£64,804 - £75,120 y flwyddyn)
Ysgol CapeluloFfordd Treforus, Dwygyfylchi, Penmaenmawr, Conwy, LL34 6RA
01492 622693
Nifer y disgyblion: 96 (gyda 12 meithrin)
Mae'r ysgol yn darparu addysg ar gyfer disgyblion o 3 hyd 11 oed.
Yn eisiau ar gyfer mis Ebrill 2027
PENNAETH
Cyflog: L8- L14 (£64,804 - £75,120 y flwyddyn).
Y mae Llywodraethwyr Ysgol Capelulo yn awyddus penodi unigolyn ysbrydoledig ac ymroddedig i'r swydd hon.
Bydd gan yr ymgeisydd llwyddiannus:
• nodweddion rheoli ac arweinyddiaeth rhagorol
• ymroddiad i'r safonau uchaf o addysgu a dysgu, a chynnal y disgwyliadau gorau o ran ymdrech ac ymddygiad
• ymroddiad at lefelau uchel o reolaeth gweinyddol, ariannol ac adnoddau
• y gallu i gydweithio â staff yr ysgol, llywodraethwyr, rhieni ac asiantaethau eraill sy'n ymwneud â'r ysgol
• y gallu i hyrwyddo yr iaith Gymraeg a'i diwylliant.
Mae'r gallu i arwain a rheoli yn rhugl trwy'r Gymraeg a'r Saesneg yn hanfodol ar gyfer y swydd hon.
Mae croeso i ymgeiswyr gysylltu â Mr Sean Kennedy, Cadeirydd y Llywodraethwyr neu y pennaeth mewn gofal trwy ebost pennaeth@capelulo.conwy.sch.uk am fwy o fanylion ynglŷn â'r swydd hon.
Oherwydd natur y swydd byddwn yn gofyn am ddatgeliad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd ar gyfer yr ymgeisydd llwyddiannus. Mae'n ofynnol bod yr ymgeisydd llwyddiannus yn cofrestru gyda'r Cyngor Gweithlu Addysg cyn cychwyn gweithio yn y swydd hon.
Dyddiad cau: Hanner nos, Dydd Iau, Tachwedd 19eg
Dyddiad y cyfweliad: Yr wythnos yn cychwyn Tachwedd 30ain
Rydym wedi ymrwymo i ddiogelu. Bydd cymwysterau a geirdaon yn cael eu dilysu. Rydym wedi ymrwymo i'n Safonau'r Gymraeg. Croesawir ceisiadau yn y Gymraeg a'r Saesneg fel ei gilydd ac ni fydd ffurflenni cais a dderbynnir yn y naill iaith na'r llall yn cael eu trin yn llai ffafriol na'i gilydd.
Wrth fynd ati i hyrwyddo Cyfle Cyfartal, rydym yn croesawu ymgeiswyr o bob rhan o'r gymuned. Bydd pob ymgeisydd anabl sy'n diwallu gofynion hanfodol y swydd yn cael cyfweliad. Byddwn yn darparu cyfleusterau gwaith addas ychwanegol ar gyfer ymgeiswyr gydag anabledd. Gall pobl anabl ddewis gwneud cais mewn gwahanol fformatau.
This form is also available in English