MANYLION.
  • Lleoliad: Heb ei ddarparu
  • Pwnc: Heb ei ddarparu
  • Oriau: Rhan amser
  • Cytundeb : Heb ei ddarparu
  • Dyddiad Dechrau: Heb ei ddarparu
  • Dyddiad Gorffen: Heb ei ddarparu
  • Math o gyflog : Fesul awr
  • Cyflog : Hourly rate: £14.14 | Grade 3
  • Iaith: Unrhyw
  • Dyddiad Cau: 06 Rhagfyr, 2026 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Goruchwyliwr Arholiadau Achlysurol – Ysgol Uwchradd Croesyceiliog

Torfaen Local Authority

Cyflog: Hourly rate: £14.14 | Grade 3

Prif rôl Goruchwyliwr yw sicrhau uniondeb, diogelwch a thegwch yn yr arholiadau trwy oruchwylio disgyblion, cadw at reoliadau'r arholiadau, a chefnogi gweithdrefnau arholi cyn arholiadau, yn ystod arholiadau ac ar ôl arholiadau.

Rydym yn dymuno penodi unigolyn sy'n hyderus, yn ddibynadwy, yn hyblyg ac yn frwdfrydig i ymuno â'n tîm o Oruchwylwyr Arholiadau.

Bydd y cyfrifoldebau yn cynnwys:
  • Gweithio o dan gyfarwyddyd yr Uwch Oruchwyliwr a'r Tîm Arholiadau a Data, gan ddilyn holl weithdrefnau a chyfarwyddiadau'r arholiadau, er mwyn sicrhau bod arholiadau yn mynd rhagddynt yn llyfn ac yn effeithiol.
  • Paratoi lleoliadau'r arholiadau a pharatoi deunyddiau ar gyfer yr arholiadau.
  • Dosbarthu a chasglu papurau arholiad ac offer.
  • Goruchwylio disgyblion yn ystod arholiadau a sicrhau bod rheoliadau'r arholiadau yn cael eu dilyn.

Mae hon yn rôl achlysurol, dymhorol ac mae'r oriau gwaith yn hyblyg. Bydd nifer y diwrnodau a'r oriau yn amrywio yn ôl y galw trwy gydol y flwyddyn academaidd, ac nid oes gofyniad i fod ar gael ar gyfer pob cyfres o arholiadau.

Y cyfnod prysuraf yw rhwng mis Mai a mis Mehefin, pan fydd disgyblion yn sefyll y rhan fwyaf o'u harholiadau cyhoeddus. Mae cyfleoedd goruchwylio ychwanegol ar gael yn ystod y cyfnod arholiadau a gynhelir ym mis Ionawr, Mawrth, Ebrill a Thachwedd.

Bydd hyfforddiant llawn yn cael ei ddarparu cyn ymgymryd ag unrhyw ddyletswyddau goruchwylio, felly dyma gyfle gwych i unigolion sy'n chwilio am waith hyblyg mewn amgylchedd ysgol.

Mae'n hanfodol eich bod yn dangos sut rydych yn bodloni'r meini prawf Hanfodol a restrir yn y Fanyleb Person atodol, er mwyn sicrhau cyfweliad: Sut i wneud cais Canllaw i ymgeiswyr Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen .

Mae'r swyddhon wedi' iheithrio o Ddeddf Adsefydlu Troseddwyr 1974. Bydd proses sgrinio gynhwysfawr yn cael ei chynnal ar gyfer pob ymgeisydd a fydd yn cynnwys gwiriad Manwl gyda'r Gwasanaeth Datgelua Gwahardd.

Mae Cyngor Bwrdeistref Siriol Torfaen yn ymdrechu i fod yn gyflogwr teg, cefnogol ac effeithiol. Mae'r Cyngor wedi ymrwymo i ddiogelu a hyrwyddo llesiant plant, pobl ifanc ac oedolion sy'n agored i niwed. Mae'r Cyngor yn disgwyl i'w gyflogeion, boed yn gweithio am dâl neu'n ddi-dâl, i rannu'r ymrwymiad hwn. Rydym yn gwerthfawrogi'r ystod o brofiadau a ddaw yn sgil gweithlu amrywiol ac felly rydym yn croesawu ceisiadau gan bobl o bob cefndir a grwpiau sy'n cael eu tangynrychioli.

Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y rôl hon ond nid ydynt yn hanfodol. Mae croeso i chi gyflwyno eich ffurflen gais yn Gymraeg neu yn Saesneg. Bydd pob cais yn cael ei drin yn gyfartal.

Rydyn ni wedi cofrestru fel ArweinyddHyderus o ran Anabledd, ac ymrwymo i gyflogi a datblygu gyrfaoedd pobl anabl. Mae ein Cynllun Gwarantu Cyfweliad yn gwarantu y bydd pobl ag anableddau yn cael eu gwahodd i gyfweliad, ar yr amod eu bod yn bodloni'r gofynion hanfodol ar gyfer y rôl. Os oes gennych gyflwr iechyd, os ydych yn niwroamrywiol, neu'n defnyddio Iaith Arwyddion Prydain, a hoffech drafod addasiadau rhesymol, cysylltwch â'r rheolwr recriwtio. Gallwn weithio gyda chi i drefnu addasiadau os ydym yn gwybod pa ofynion sydd gennych, cyn i chi gyflwyno'ch cais, sefyll prawf neu ddod i gyfweliad.

Gwnewch yn siŵr mai drwy wefan swyddi gwag Cyngor Torfaen yn unig yr ydych chi'n gwneud cais am y swydd hon. Nid ydym yn derbyn CVs na cheisiadau sy'n cael eu cyflwyno ar unrhyw wefannau eraill.