MANYLION.
  • Lleoliad: Welshpool,
  • Pwnc: Heb ei ddarparu
  • Oriau: Llawn amser
  • Cytundeb : Parhaol
  • Dyddiad Dechrau: Heb ei ddarparu
  • Dyddiad Gorffen: Heb ei ddarparu
  • Math o gyflog : Per annum
  • Cyflog : Graddfa 4 Pwynt 5 i Bwynt 6 £26,427 i £26,847 y flwyddyn ar gyfartaledd £13.69 i £13.91 yr awr
  • Iaith: Unrhyw
  • Dyddiad Cau: 15 Tachwedd, 2026 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Cynorthwyydd Addysgu (Generig Lefel 2) (Ysgol Gymraeg Y Trallwng)

Cyngor Sir Powys

Cyflog: Graddfa 4 Pwynt 5 i Bwynt 6 £26,427 i £26,847 y flwyddyn ar gyfartaledd £13.69 i £13.91 yr awr

Cynorthwyydd Addysgu (Generig Lefel 2) (Ysgol Gymraeg Y Trallwng)
Swydd-ddisgrifiad

Mae'r gallu i ddefnyddio'r Gymraeg yn gymhwyster hanfodol ar gyfer y swydd hon

Cynorthwy-ydd Addysgu
Generig Lefel 2 (27.5 awr)
Angen ar gyfer Tachwedd, 2026
(Neu cyn gynted a phosib)
Mae llywodraethwyr Ysgol Gymraeg y Trallwng yn awyddus i benodi Cynorthwy-ydd Addysgeg ysbrydoledig, brwdfrydig ac ymroddedig ar gyfer yr ysgol flaengar a chynhwysol hon.
Ysgol Gymraeg Y Trallwng, ysgol gynradd sy'n ysgogi a chefnogi pawb sy'n ynghlwm â'r ysgol mewn modd creadigol, torfol a byrlymus. Mae'r ysgol yn cynnig profiadau newydd, gwerthfawr ac unigryw sy'n sicrhau profiadau dysgu arloesol a difyr. Mae'r staff yn gofalu'n gydwybodol a theyrngar am eu disgyblion ac mae'r disgyblion yn teimlo'n ddiogel
ym mhob achos. Mae'r ysgol yn canolbwyntio ar ysgogi pob disgybl i fod yn fedrus a deallus, yn ogystal â datblygu'r staff yn broffesiynol. Mae ffocws angerddol ar yr iaith a'r ymdeimlad o berthyn wrth hybu a ffynnu'r Iaith Gymraeg yn y Trallwng. Yn dilyn adroddiad Estyn llwyddiannus ac adeilad newydd anghredadwy, mae dyfodol disglair
iawn o'n blaenau. Bydd ein cynorthwy-ydd newydd yn uchelgeisiol ac yn meddu ar ddisgwyliadau uchel, yn ffynnu ar her, yn gweithio'n galed, yn arddangos sgiliau pobl rhagorol a bydd ef/hi yn benderfynol o ddarparu'r profiadau dysgu gorau i bob plentyn.
Mae'r gallu i ddysgu trwy gyfrwng y Gymraeg yn hanfodol.
Mae'r ysgol yn ymroddedig i ddiogelu a hyrwyddo lles pawb. Mae'r swydd yn destun cyfeiriadau boddhaol, DBS manylach a phob cliriad perthnasol arall.
Dylid cyflwyno cais erbyn 2il o Dachwedd, 2026
Dyddiad Cau: 15/11/2026
Rhestr Fer: 16/11/2026
Cyfweliadau: 23/11/2026