MANYLION.
Ymgeisiwch Nawr (CY)
- Lleoliad: Heb ei ddarparu
- Pwnc: Heb ei ddarparu
- Oriau: Llawn amser
- Cytundeb : Heb ei ddarparu
- Dyddiad Dechrau: Heb ei ddarparu
- Dyddiad Gorffen: Heb ei ddarparu
- Math o gyflog : Heb ei Gyflenwi
- Cyflog : Core Pay Scale 1 - 8
- Iaith: Unrhyw
- Dyddiad Cau: 29 Tachwedd, 2026 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (EN)
Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.
Swydd Arweinydd Dylunio a Thechnoleg - Ysgol Gymraeg Gwynllyw
Torfaen Local Authority
Cyflog: Core Pay Scale 1 - 8
Contract ParhaolAr gyfer Medi 2027
Cyflog: Graddfa gyflog athrawon + TLR 2
Dyddiad cau: 29ain o Dachwedd
A hoffech chi weithio mewn ysgol gyfeillgar a chefnogol sy'n hyrwyddo arloesedd i'r dyfodol?
Mae Ysgol Gymraeg Gwynllyw yn hyrwyddo ethos o un tîm, un teulu wrth i ni weithredu cwricwlwm i Gymru, tyfu fel ysgol 3-19 ac arloesi gyda systemau newydd i gefnogi hunanwerthuso a gwelliant, datblygiad medrau a safonau dysgwyr.
Ni yw'r unig ysgol cyfrwng Cymraeg 3-19 yn y rhanbarth a'r unig ysgol 3-19 yn sir Torfaen.
Agorodd Gwynllyw fel ysgol gyfun Gymraeg gyntaf hen sir Gwent yn 1988. Lleolir yr ysgol ar gyrion tref hanesyddol Pont-y-pŵl, ac yn gyfleus iawn i'r trefi mawrion, Caerdydd (tua hanner awr), Casnewydd (tua chwarter awr), yn ganolog iawn i draffyrdd yr M4 a'r M5 a phriffordd Pennau'r Cymoedd sy'n arwain at Ferthyr, Y Fenni a Henffordd. Rydym yn gweithio'n agos gydag ysgolion uwchradd Cymraeg eraill wrth ddatblygu ein cwricwlwm newydd ac rydym yn llwyr ymrwymedig i sicrhau hawl ddysgu proffesiynol, datblygu'r gweithlu ac arloesi.
Mae gennym dîm brwdfrydig o staff yma yng Ngwynllyw, sydd yn ymroi i gynnal y safonau uchaf o ddysgu ac addysgu a chyflawniad dysgwyr.
Chwiliwn am athro ymroddgar ac egnïol er mwyn arwain Dylunio & Thechnoleg a chyfrannu tuag at y datblygiadau o fewn y maes dysgu a phrofiad Gwyddoniaeth a Thechnoleg drwy addysgu ar draws yr ystod oedran uwchradd, gan gynnwys cyflwyno cyrsiau addas (yn ôl arbenigedd a diddordebau'r unigolyn) yn CA4 a CA5.
Wrth i ni dyfu fel ysgol bob oed rydym yn croesawu datblygiadau arloesol i'n strwythurau ysgol gyfan wrth i ni edrych tua'r dyfodol. Yn sgil hyn, cynigir ystod o gyfleodd i ddatblygu gyrfa a chymryd rhan flaenllaw yn natblygiad yr ysgol gyfan wrth i ni barhau ar ein taith datblygu.
O ran y swydd, bydd y prif gyfrifoldebau'n cynnwys:
- Arwain datblygiad yr adran o fewn yr ysgol
- Hyrwyddo dysgu ac addysgu effeithiol a chefnogi staff o fewn yr adran
- Arwain datblygiadau cwricwlaidd o fewn yr adran
- Paratoi ac addysgu gwersi yn y maes dylunio technoleg i ddysgwyr 11-18 oed
- Monitro, tracio a gwerthuso cynnydd dysgwyr o fewn y dosbarthiadau a addysgir a chynllunio ymyraethau perthnasol i ymateb i unrhyw bryderon dan oruchwyliaeth yr arweinydd y maes dysgu a phrofiad
- Gweithio gydag arweinwyr eraill o fewn y maes i ddatblygu'r maes dysgu a phrofiad gwyddoniaeth a thechnoleg a phlethu'r agweddau i hyn i fodloni'r hyn sy'n bwysig yn y maes a gweledigaeth gyffredinol yr ysgol
- Cyfrannu at waith datblygu medrau o fewn y maes pwnc, e.e. cymhwysedd digidol, datrys problemau, llythrennedd, rhifedd a chreadigrwydd
- Ymrwymo i ddatblygu cyfleoedd allgyrsiol i'n dysgwyr
Disgwylir i berson sy'n ymgeisio ar gyfer y swydd fodloni'r gofynion isod:
- Athro / athrawes cymwysedig gyda gradd berthnasol
- Brwdfrydedd ac angerdd dros addysgu a dysgu
- Gwybodaeth a dealltwriaeth o ddatblygiadau diweddar o fewn y maes
- Dealltwriaeth dda o addysgu effeithiol, gan gynnwys materion iechyd a diogelwch perthnasol
- Y gallu i ysbrydoli a chymell disgyblion i gyflawni eu potensial
- Medrau rhyngbersonol a chyfathrebu ardderchog
- Y gallu i drefnu, cynllunio a blaenoriaethu gwaith yn effeithiol
- Ymrwymiad i gyfrannu at fywyd ehangach yr ysgol
- Y gallu i weithio'n effeithiol gyda chydweithwyr i godi safonau dysgwyr
Os hoffech ymuno â ni yn Ysgol Gymraeg Gwynllyw, cwblhewch y ffurflen gais. Os ydych am sgwrs anffurfiol i drafod y weledigaeth a syniadau ar gyfer datblygu'r maes, cysylltwch â'r ysgol i siarad â'r Pennaeth, Catherine Evans dros y ffôn neu trwy ebost.
Mae'n hanfodol eich bod yn dangos sut rydych yn bodloni'r meini prawf Hanfodol a restrir yn y Fanyleb Person atodol, er mwyn sicrhau cyfweliad: Sut i wneud cais Canllaw i ymgeiswyr Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen .
Mae'r swyddhon wedi' iheithrio o Ddeddf Adsefydlu Troseddwyr 1974. Bydd proses sgrinio gynhwysfawr yn cael ei chynnal ar gyfer pob ymgeisydd a fydd yn cynnwys gwiriad Manwl gyda'r Gwasanaeth Datgelua Gwahardd.
Mae angen cofrestru gyda Chyngor y Gweithlu Addysg ar gyfer y swydd hon.
Mae'r Gymraeg yn hanfodol ar gyfer y rôl hon.
Mae Cyngor Bwrdeistref Siriol Torfaen yn ymdrechu i fod yn gyflogwr teg, cefnogol ac effeithiol. Mae'r Cyngor wedi ymrwymo i ddiogelu a hyrwyddo llesiant plant, pobl ifanc ac oedolion sy'n agored i niwed. Mae'r Cyngor yn disgwyl i'w gyflogeion, boed yn gweithio am dâl neu'n ddi-dâl, i rannu'r ymrwymiad hwn. Rydym yn gwerthfawrogi'r ystod o brofiadau a ddaw yn sgil gweithlu amrywiol ac felly rydym yn croesawu ceisiadau gan bobl o bob cefndir a grwpiau sy'n cael eu tangynrychioli.
Rydyn ni wedi cofrestru fel ArweinyddHyderus o ran Anabledd, ac ymrwymo i gyflogi a datblygu gyrfaoedd pobl anabl. Mae ein Cynllun Gwarantu Cyfweliad yn gwarantu y bydd pobl ag anableddau yn cael eu gwahodd i gyfweliad, ar yr amod eu bod yn bodloni'r gofynion hanfodol ar gyfer y rôl. Os oes gennych gyflwr iechyd, os ydych yn niwroamrywiol, neu'n defnyddio Iaith Arwyddion Prydain, a hoffech drafod addasiadau rhesymol, cysylltwch â'r rheolwr recriwtio. Gallwn weithio gyda chi i drefnu addasiadau os ydym yn gwybod pa ofynion sydd gennych, cyn i chi gyflwyno'ch cais, sefyll prawf neu ddod i gyfweliad.
Gwnewch yn siŵr mai drwy wefan swyddi gwag Cyngor Torfaen yn unig yr ydych chi'n gwneud cais am y swydd hon. Nid ydym yn derbyn CVs na cheisiadau sy'n cael eu cyflwyno ar unrhyw wefannau eraill.