MANYLION.
  • Lleoliad: Ysgol Ardudwy, Harlech,
  • Pwnc: Heb ei ddarparu
  • Oriau: Heb ei ddarparu
  • Cytundeb : Parhaol
  • Dyddiad Dechrau: Heb ei ddarparu
  • Dyddiad Gorffen: Heb ei ddarparu
  • Math o gyflog : Per annum
  • Cyflog : £26,584 - £29,052 y flwyddyn
  • Iaith: Unrhyw
  • Dyddiad Cau: 16 Tachwedd, 2026 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Anogwr Dysgu Safonau a Lles Disgylblion - Ysgol Ardudwy

Cyngor Gwynedd

Cyflog: £26,584 - £29,052 y flwyddyn

Manylion
Hysbyseb Swydd

ADDYSG

YSGOLION UWCHRADD

YSGOL ARDUDWY

(Ysgol Gyfun 11 - 16: 330 o ddisgyblion)

ANOGWR DYSGU

Dyddiad cychwyn 1af Rhagfyr, 2026 neu Cyn Gynted a fod Phosib yn dilyn y dyddiad yma

Swydd Parhaol

Gwahoddir ceisiadau oddi wrth unigolion profiadol a brwdfrydig i weithio gyda thîm ymroddgar ac egnïol ac yn meddu ar y cymwysterau priodol a'r sgiliau addas.

Oriau gwaith: 34 awr yr wythnos

(40 wythnos waith mewn blwyddyn ysgol sef 38 wythnos tymor ysgol, 5 diwrnod mewn hyfforddiant yn ogystal â bod ar gael i weithio cyfwerth a 5 diwrnod yn ystod gwyliau ysgol).

Graddfa Gyflog: Telir cyflog yn unol ag Amodau Gwaith ar gyfer Gweithwyr Llywodraeth Leol, Graddfa S2 pwyntiau 18-22 (£26,584 - £29,052 y flwyddyn) yn ôl profiad a chymhwyster.

Mae'r gallu i gyfathrebu drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg yn hanfodol ar gyfer y swydd hon. Mae'r ysgol yn gweithredu'n unol a'i Bolisi Iaith. Bydd angen i'r ymgeisydd gyrraedd y lefel ieithyddol sy'n cael ei nodi yn y Manylion Person.

Rydym yn annog pob ymgeisydd am swydd gyda'r Cyngor i gyflwyno ceisiadau yn Gymraeg neu yn ddwyieithog. (Bydd ceisiadau sydd yn cael eu cyflwyno yn uniaith Gymraeg neu Saesneg yn cael eu trin yn gwbl gyfartal, ond gofynnir i'r ymgeisydd ystyried yn ofalus beth yw gofynion iaith y swydd a'r sefydliad ac a fyddai cyflwyno cais yn uniaith Gymraeg yn fwy addas).

Gwahoddir unrhyw un sydd â diddordeb neu sydd angen mwy o wybodaeth i gysylltu i drafod yn anffurfiol a'r Pennaeth, Mr. Aled Williams B.Sc. (Rhif Ffôn 01766 780331 neu pennaeth@ardudwy.ysgoliongwynedd.cymru

Gellir cyflwyno cais am y swydd yma ar-lein ar wefan Cyngor Gwynedd neu mae pecyn cais i'w cael gan Mrs Angela Walters, Rheolwr Busnes, Ysgol Ardudwy, Harlech, LL46 2UH Rhif ffôn 01766 780331 e-bost: sg@ardudwy.ysgoliongwynedd.cymru . Os dymunir dychwelyd y cais drwy'r post, dylid ei ddychwelyd i'r cyfeiriad uchod erbyn y dyddiad cau.

DYDDIAD CAU HANNER DYDD, DDYDD LLUN, 16 TACHWEDD, 2026

Bydd y Cyngor yn gofyn am gopi o'r dadleniad gan Wasanaeth Datgelu a Gwahardd a chadarnhad o gofrestriad gyda'r Cyngor Gweithlu Addysg gan yr ymgeisydd llwyddiannus cyn y gallent gychwyn yn yr Ysgol.

Mae'r awdurdod hwn wedi ymrwymo i ddiogelu a hyrwyddo lles plant a phobl ifanc ac mae'n disgwyl y bydd pob un o'i staff a'i wirfoddolwr yn rhannu'r ymrwymiad hwn.

Manylion Person

.

Swydd Ddisgrifiad

Pwrpas y Swydd
  • Sicrhau bod plant a phobl dalgylch Ardudwy yn ganolog i bopeth yr ydym yn ei wneud.
  • Ysgwyddo rôl arweiniol i weithredu gweledigaeth gynhwysol Ysgol Ardudwy.
  • Cynnal a gwella ymgysylltiad ac agweddau at ddysgu grwpiau o ddisgyblion neu unigolion.
  • Sicrhau fod disgyblion sydd yn derbyn cefnogaeth ac ymyraethau yn cyflawni y gofynion o ran chymwysterau a trefnu amserlenni amgen.
  • Gan weithio dan arweiniad: Ysgwyddo cyfrifoldeb am rhoi cefnogaeth i ddelio ag anghenion disgyblion sydd angen help penodol i oresgyn rhwystrau i ddysgu.

PRIF DDYLETSWYDDAU

Prif Gyfrifoldebau

Arwain Staff
  • Cyd -arwain a chyd-reoli Uned Cynhwysiant Ysgol .
  • Mynychu cyfarfodydd Tîm Rheoli (TRh) yr ysgol yn ôl y gofyn, gan gyfrannu i :
    • drafodaethau yn ymwneud â lles, gofal a datblygiad pob disgybl
    • gyd-lunio a gweithredu polisïau ysgol
    • datblygu, llunio a gweithredu strategaethau ysgol gyfan
  • Ymateb i, a chynorthwyo eraill am alwadau am wybodaeth
  • Sicrhau cyfathrebu cyson am ddisgyblion gyda cymorthyddion, uwch oruchwylwyr a goruchwylwyr amser cinio.
  • Presenoldeb:
    • Cysylltu gyda rhieni drwy alwad ffôn unigolion o fewn eu grwpiau targed ac ymyrraeth
    • Derbyn gwybodaeth am absenoldebau disgyblion o fewn eu grwpiau targed ac ymyrraeth
    • Cynnal cyfarfodydd gyda rhieni ac asiantaethau allanol am unigolion o fewn eu grwpiau ymyrraeth / targed.
    • Adrodd yn ôl i'r UDRh ar faterion perthnasol.
  • Sicrhau cyfathrebu effeithiol a throsglwyddo gwybodaeth rhwng disgyblion, athrawon, tiwtoriaid dosbarth yr UDRh ac asiantaethau allanol er lles, gofal a datblygiad addysgol y disgyblion.
  • Cynorthwyo gyda threfniadau Amddiffyn Plant.
  • Cynorthwyo gyda Chyngor yr Ysgol yn ôl y gofyn.
  • Cynorthwyo a chydweithio i ddatblygu trefniadau ymyraethau o fewn yr ysgol.

Dysgu ac Addysgu:
  • Drwy gydweithio gyda'r arweinwyr cynnydd monitro ac adolygu'n rheolaidd ddatblygiad a chynnydd disgyblion Blynyddoedd 7 - 11. Trefnu a sicrhau cyfranogiad disgyblion targed mewn rhaglenni anogaeth / ymyrraeth.
  • Cydgynllunio rhaglen addysg briodol i ddisgyblion Uned Cynhwysiant yr ysgol ar y cyd gyda chydlynydd ADY yr ysgol.
  • Cymryd grŵp targed o ddisgyblion i ddatblygu rhaglenni ymyrraeth.

Safonau a Sicrhau Ansawdd:
  • Cefnogi amcanion ac ethos yr ysgol
  • Sicrhau adnabyddiaeth dda o bob disgybl, gan fod yn ymwybodol o gefndir teuluol, diddordebau, problemau, gofynion meddygol a gobeithion pob disgybl
  • Arddel y safonau uchel o ran:
  • safonau academaidd a chymdeithasol
  • gwisg Ysgol
  • ymddygiad

gan sicrhau bod disgyblion yn cydymffurfio a rheolau a chanllawiau'r Ysgol
  • Bod yn gadarn, yn bendant ac yn deg wrth ymdrin â disgyblion, gan arddel yr egwyddor o gyfle cyfartal
  • Cynorthwyo gyda gweithredu'r Cylch Gwella Ysgol

Cefnogi Disgyblion:
  • Goruchwylio a darparu cefnogaeth ychwanegol i ddisgyblion yn Uned Cynhwysiant yr Ysgol.
  • Hybu cynnwys a derbyn pob disgybl
  • Annog a chynorthwyo disgyblion i ryngweithio gydag eraill ac i gymryd rhan lawn mewn gweithgareddau addysgol
  • Gosod disgwyliadau heriol ac ymestynnol i ddisgyblion gan hybu hunan-barch ac annibyniaeth
  • Cynorthwyo a chefnogi disgyblion gyda materion personol a chymdeithasol
  • Cysylltu / cyfathrebu'n sensitif gyda rhieni / gwarcheidwaid yn ôl y gofyn ac ar gais Cydlynydd ADY / aelodau'r UDRh


Cefnogi'r Dysgu ac Addysgu:
  • Cydweithio gyda staff addysgu i gynorthwyo gyda dysgu a datblygiad personol pob disgybl (unai o fewn grwpiau dysgu neu mewn cyfnodau un i un)
  • Cynorthwyo gyda gweithrediad:
    • Cynlluniau Addysg Unigol
    • Cynlluniau Ymddygiad Unigol
    • Rhaglenni Gofal Personol
  • Cynorthwyo staff addysgu i ddarparu adborth i ddisgyblion mewn perthynas â chynnydd a chyflawniad
  • Rhoi pwyslais ar ddatblygu medrau allweddol disgyblion, megis:
  • llythrennedd (gan gynnwys llafar, gwrando, ysgrifennu, darllen)
  • rhifedd
  • TGCh
  • Darparu adborth rheolaidd i staff addysgu ar gyflawniad, cynnydd a phroblemau dysgu
  • Cynorthwyo staff addysgu i reoli disgyblion o fewn a thu allan i'r dosbarth

Cynnydd Disgyblion:
  • Gofalu am les, gofal, ymddygiad a chynnydd addysgol disgyblion Blynyddoedd 9-11
  • Monitro presenoldeb a phrydlondeb disgyblion Blynyddoedd 9-11.
  • Cyfweld disgyblion Blynyddoedd 9-11 yn ôl y gofyn
  • Cyd-lynu trefniadau adrodd i rieni (adroddiadau llawn, adroddiadau interim a nosweithiau rhieni disgyblion sydd gyda rhaglenni ymyrraeth)
  • Cysylltu â rhieni disgyblion Blynyddoedd 9-11 i drafod ymddygiad a chynnydd addysgol yn ôl y gofyn
  • Llunio / paratoi adroddiadau ar ddisgyblion Blynyddoedd 9-11 yn ôl y gofyn
  • Monitro cofnodion canmoliaeth / disgyblaeth / academaidd disgyblion Blynyddoedd 9-11 gan:
  • awdurdodi dathlu llwyddiant yn unol â'r polisi ymddygiad canmoliaeth a disgyblaeth yr ysgol
  • gweithredu'r drefn ddisgyblu yn unol â'r polisi ymddygiad canmoliaeth a disgyblaeth yr Ysgol
  • sicrhau bod ffeiliau a gwybodaeth am ddisgyblion yn gyfredol

Cefnogi'r Cwricwlwm
  • Darparu gweithgareddau dysgu/rhaglenni addysgu a gytunwyd, addasu gweithgareddau yn ôl ymatebion/anghenion disgyblion
  • Bod yn ymwybodol o a gwerthfawrogi ystod o weithgareddau, cyrsiau, cyrff ac unigolion i roddi cefnogaeth i ddisgyblion er mwyn ehangu a chyfoethogi eu haddysg
  • Canfod yr angen am, paratoi a defnyddio offer arbenigol, cynlluniau ac adnoddau i gefnogi disgyblion

Cefnogi'r Ysgol
  • Bod yn ymwybodol o a chydymffurfio gyda pholisïau a threfniadau sy'n ymwneud ag amddiffyn plant, iechyd, diogelwch, cyfrinachedd a diogelu data, adrodd am unrhyw bryderon i'r person priodol
  • Bod yn ymwybodol o a chefnogi gwahaniaeth a sicrhau bod yr holl ddisgyblion yn cael yr un cyfle i ddysgu a datblygu
  • Cyfrannu tuag at ethos/waith/amcanion cyffredinol yr Ysgol
  • Sefydlu perthynas adeiladol a chyfathrebu gydag asiantaethau/weithwyr proffesiynol eraill, mewn cysylltiad â'r athro, i gefnogi cyrhaeddiad a chynnydd disgyblion
  • Mynychu a chymryd rhan mewn cyfarfodydd rheolaidd
  • Cymryd rhan mewn hyfforddiant a gweithgareddau dysgu eraill fel y bo gofyn
  • Cydnabod eich cryfderau a'ch meysydd o arbenigedd a defnyddio'r rhain i gynghori a chefnogi eraill
  • Cynorthwyo gyda goruchwylio, hyfforddi a datblygu staff
  • Goruchwylio disgyblion y tu allan i oriau ysgol
  • Goruchwylio disgyblion ar ymweliadau, teithiau ac mewn gweithgareddau y tu allan i'r ysgol fel y bo gofyn

Materion Amddiffyn Plant
  • Cyfrifol am adrodd ar bryder neu amheuaeth bod plentyn neu oedolyn bregus yn cael ei gam-drin.

Materion eraill.
  • Arolygu gwersi yn achlysurol mewn cyfod o absenoldebau dirybudd a chynlluniedig athrawon gan gynnwys :
  • Arolygu arholiadau mewnol ac allanol fel aelod o dîm gan sicrhau trefn briodol a darparu cymorth disgwyliedig o fewn yr arholiadau, gan ddilyn unrhyw gyfarwyddiadau gan y swyddog arholiadau.
  • Cyfrifoldeb am hunan ddatblygiad proffesiynol.
  • Sicrhau cydymffurfiaeth â rheolau iechyd a diogelwch yn y gweithle yn unol â`r cyfrifoldebau a nodir yn Neddf Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle.
  • Gweithredu o fewn polisïau`r ysgol yng nghyswllt Cyfle Cyfartal a Chydraddoldeb.
  • Cyfrifoldeb am reoli gwybodaeth yn unol â safonau a chanllawiau yr ysgol. Sicrhau fod gwybodaeth bersonol yn cael ei thrin mewn cydymffurfiaeth â Deddfwriaeth Diogelu Data.
  • Gofrestru Dosbarthiadau pan fydd athrawon yn absennol.
  • Arolygu gwaith sydd wedi'i osod ar gyfer dosbarthiadau.
  • Ymateb i gwestiynau gan ddisgyblion ynglŷn â sut i gwblhau'r gwaith.
  • Casglu gwaith a gwblhawyd yn ystod y wers a'i ddychwelyd i'r athro/athrawes priodol.
  • Delio ag unrhyw broblemau neu ar gyfyngiadau sydd yn codi yn ystod yr arolygu gan ddefnyddio polisïau'r ysgol i ymateb iddynt yn briodol.
  • Rheoli ymddygiad plant wrth iddynt gwblhau'r gwaith er mwyn sicrhau awyrgylch priodol.
  • Adrodd ar unrhyw gamymddwyn gan ddisgyblion yn ystod y cyfnod arolygu gan ddefnyddio cyfundrefn gyfeirio'r ysgol fel sy'n briodol.

Amlinelliad yn unig o ddyletswyddau'r swydd a ddangosir uchod, a hynny er mwyn rhoi syniad o'r lefel cyfrifoldeb sydd ynghlwm â hi. Nid yw'r swydd ddisgrifiad hon yn fanwl gynhwysfawr, ac fe all dyletswyddau'r swydd newid o bryd i'w gilydd heb newid ei natur sylfaenol na'r lefel cyfrifoldeb.

  • Ceisio ar lein - Sut?
  • Rhestr Swyddi