MANYLION.
  • Lleoliad: Mynydd Cynffig Primary,
  • Pwnc: Heb ei ddarparu
  • Oriau: Llawn amser
  • Cytundeb : Parhaol
  • Dyddiad Dechrau: Heb ei ddarparu
  • Dyddiad Gorffen: Heb ei ddarparu
  • Math o gyflog : Per annum
  • Cyflog : £27,274 y flwyddyn
  • Iaith: Unrhyw
  • Dyddiad Cau: 18 Tachwedd, 2026 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Uwch Swyddog Safle - Ysgol Gynradd Mynydd Cynffig

Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr

Cyflog: £27,274 y flwyddyn

37 awr yr wythnos

Ymunwch â'n Cymuned Ysgol

Mae Corff Llywodraethu Ysgol Gynradd Mynydd Cynffig yn chwilio am Uwch-swyddog Safle ymroddedig, dibynadwy a rhagweithiol i chwarae rhan hanfodol wrth gynnal ein hamgylchedd dysgu diogel, sicr a chroesawgar i ddisgyblion, staff ac ymwelwyr wrth i ni aros am ein hadeilad ysgol newydd.

Mae hwn yn gyfle cyffrous i weithiwr proffesiynol profiadol ym maes eiddo, gofalu neu reoli safle sy'n ymfalchïo mewn cynnal safonau uchel ac yn mwynhau gweithio fel rhan o dîm ysgol cefnogol. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn helpu i sicrhau bod ein hadeiladau, ein tiroedd a'n cyfleusterau yn ddiogel, yn cael eu cynnal a'u cadw'n dda ac yn barod i gefnogi profiadau dysgu rhagorol bob dydd.

Y Rôl

Gan adrodd i'r Pennaeth, byddwch yn gyfrifol am reoli eiddo'r ysgol o ddydd i ddydd, sydd wedi'i rannu rhwng dau safle, gan sicrhau bod y safleoedd yn parhau i fod yn ddiogel, yn saff, yn lân ac yn addas i'r diben. Byddwch yn gwneud gwaith cynnal a chadw, yn goruchwylio contractwyr, yn cefnogi cydymffurfiaeth â gofynion iechyd a diogelwch, ac yn helpu i gynnal y safonau uchaf ar draws amgylchedd yr ysgol. Bydd disgwyl i'r ymgeisydd llwyddiannus chwarae rhan lawn fel aelod o'r tîm staff cymorth a chefnogi pob agwedd ar waith sy'n ymwneud â'r safle yn unol â'r disgrifiad swydd. Cyn cyflwyno cais, anogir ymgeiswyr i drefnu ymweliad i gael gwybod rhagor am y rôl a'n hysgol.

Diogelu

Mae Ysgol Gynradd Mynydd Cynffig wedi ymrwymo i ddiogelu a hyrwyddo lles plant a phobl ifanc. Disgwylir i'r holl staff rannu'r ymrwymiad hwn. Mae'r swydd hon yn amodol ar wiriad manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS).

Pam ymuno ag Ysgol Gynradd Mynydd Cynffig?

Byddwch yn rhan o gymuned ysgol groesawgar a chefnogol.

Chwaraewch rôl allweddol wrth ddarparu amgylchedd dysgu diogel ac ysbrydoledig.

Gweithiwch mewn tîm ymroddedig sy'n ymrwymedig i wella deilliannau i blant.

Manteisiwch ar gyfleoedd hyfforddi a datblygu proffesiynol.

Gwnewch Gais Nawr

Os ydych yn weithiwr proffesiynol medrus a brwdfrydig ym maes safleoedd sy'n awyddus i wneud cyfraniad cadarnhaol at ein cymuned ysgol, byddem wrth ein bodd yn clywed gennych.

Ysgol Gynradd Mynydd Cynffig

Gyda'n gilydd rydym yn creu amgylchedd diogel, gofalgar a llwyddiannus lle gall pob plentyn ffynnu.

Mae amddiffyn plant, pobl ifanc neu oedolion mewn perygl yn un o gyfrifoldebau craidd pob un o gyflogeion y cyngor.

Mae gwiriad cofnodion troseddol Manwl gyda Rhestr Waharddedig Plant gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) yn un o'r gofynion ar gyfer y swydd hon.

Ymateb Brys yn un o ofynion y swydd hon

Dyddiad Cau: 18 Tachwedd 2026

Dyddiad Llunio'r Rhestr Fer: 20 Tachwedd 2026

Dyddiad y Cyfweliad: 30 Tachwedd 2026

Manteision gweithio yng Nghyngor Pen-y-bont ar Ogwr

Disgrifiad Swydd a Manyleb y Person