MANYLION.
  • Lleoliad: Bangor, Gwynedd, LL57 2JA
  • Pwnc: Heb ei ddarparu
  • Oriau: Rhan amser
  • Cytundeb : Cyfnod penodol
  • Dyddiad Dechrau: 01 December, 2026
  • Dyddiad Gorffen: 31 July, 2027
  • Math o gyflog : Blynyddol
  • Cyflog : Heb ei ddarparu
  • Iaith: Heb ei ddarparu
  • Dyddiad Cau: 09 Tachwedd, 2026 12:00 y.p
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Gweinyddwr Cymorth Rhanbarthol

Addysg Oedolion Cymru | Adult Learning Wales
Gweinyddwr Cymorth Rhanbarthol

Cytundeb Penodol hyd at diwedd Gorffennaf 2027

Cyflog: £24,648 - £29,324 pro rata, y flwyddyn
Gan gynnwys pecyn buddion hael

Mae gennym gyfle gwych i Weinyddwr Cymorth Rhanbarthol i gefnogi ein tim rhanbarth yn Y Gogledd. Mae rôl Gweinyddwr Cymorth Rhanbarthol yn rôl amrywiol ac allweddol o fewn y sefydliad, byddwch yn cefnogi ac ategu gwaith y tîm cyflenwi trwy ymgymryd ag amrywiaeth o ddyletswyddau gweinyddol, gan gynnwys cofrestru cyrsiau ar y Systemau Gwybodaeth Reoli (MIS), casglu a chyflwyno ffioedd dosbarthiadau, monitro arian traul, prosesu hawliadau tiwtoriaid am dâl, a chofnodi holl fanylion a gofynion cymorth dysgwyr.

Mae hon yn rôl ymarferol lle byddwch chi'n gweithredu'n gyflym, yn annibynnol a gyda chefnogaeth gan dîm sefydledig.

Byddwch yn gyfrifol am (ond nid yn gyflawn):
• Paratoi a dosbarthu pecynnau tiwtoriaid, gan gynnwys llyfrau gwaith asesu a gwybodaeth, fel y bo’n briodol i’r ddarpariaeth a gyflenwir.
• Cwblhau tasgau prosesu data, gan gynnwys defnyddio cronfeydd data MIS y sefydliad i gofnodi manylion cyrsiau, prosesu cofrestriadau a gwerthusiadau dysgwyr, prosesu gofynion cymorth a/neu geisiadau dysgwyr, a gwybodaeth arall fel y bo’r angen.
• Prosesu a monitro’r holl hawliadau am dâl gan diwtoriaid gan ddefnyddio’r gronfa ddata MIS ar gyfer tiwtoriaid.
• Ymateb i ymholiadau cyffredin gan ddysgwyr, aelodau, rhanddeiliaid, y cyhoedd, a staff mewnol.
• Gweithio fel rhan o’r tîm cyflenwi i hyrwyddo’r rhaglen gyflenwi, gan gynnwys unrhyw brosiectau, a allai gynnwys cynhyrchu posteri, anfon deunydd hyrwyddo a chyflwyno data ar amrywiaeth eang o gyfryngau cymdeithasol.

Os hoffech sgwrs anffurfiol neu i gael mwy o wybodaeth am y rôl, cysylltwch a Sarah O’connell Jones, Rheolwr Rhanbartho Y Gogledd, Sarah.O’ConnellJones@adultlearning.wales

Bydd cyfweliadau yn cael eu cynnal yn swyddfa Addysg Oedolion Cymru ym Mangor, wythnos cychwyn 16eg Dachwedd, gellir ystyried trefniadau eraill – os nad ydych ar gael unrhyw ddyddiad ystod yr wythnos hon, sicrhewch eich bod yn nodi hyn ar eich cais ag yn cadarnhau eich argaeledd.

Mae Addysg Oedolion Cymru yn cydnabod pwysigrwydd datblygu a thyfu ei weithlu dwyieithog. Gellir cyflwyno ceisiadau am unrhyw swydd yn Gymraeg neu Saesneg. Bydd ceisiadau a gyflwynir yn y naill neu’r llall yn cael eu trin yn gyfartal.

Os oes angen i chi gyflwyno'ch cais mewn dull arall, mae croeso i chi gysylltu gyda ni.






JOB REQUIREMENTS
Os ydych yn mwynhau amgylchedd gwaith cyflym, amrywiol a gwerth chweil a bod gennych y sgiliau gofynnol, dyma'r cyfle perffaith i ymuno â ni.