MANYLION.
Ymgeisiwch Nawr (CY)
- Lleoliad: Aberystwyth,
- Pwnc: Heb ei ddarparu
- Oriau: Rhan amser
- Cytundeb : Cyfnod penodol
- Dyddiad Dechrau: Heb ei ddarparu
- Dyddiad Gorffen: Heb ei ddarparu
- Math o gyflog : Per annum
- Cyflog : 26,016 *
- Iaith: Unrhyw
- Dyddiad Cau: 08 Tachwedd, 2026 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (EN)
Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.
Cynorthwyydd Addysgu Lefel 2 x 2 - Ysgol Gynradd Talybont
Cyngor Sir Ceredigion
Cyflog: 26,016 *
Ynglŷn â'r rôlMae Ysgol Gymunedol Tal-y-bont yn chwilio am ddau Gynorthwyydd Addysgu Lefel 2 gofalgar, amyneddgar a brwdfrydig i gefnogi dysgwyr yn ein Dosbarth Dysgu Sylfaen. Bydd yr ymgeiswyr llwyddiannus yn gweithio'n agos gyda'r athro dosbarth i ddarparu cefnogaeth o safon uchel i ddisgyblion unigol a grwpiau bach, gan eu helpu i gael mynediad at y cwricwlwm, datblygu annibyniaeth, a chyflawni eu llawn botensial mewn amgylchedd meithringar a chynhwysol.
Mae dwy swydd cyfnod penodol ar gael tan 31 Awst 2028. Bydd un swydd yn dechrau ar 30 Tachwedd 2026 a'r llall ar 4 Ionawr 2027. Hoffem i'r ymgeiswyr llwyddiannus ddechrau mor agos â phosibl at y dyddiadau hyn.
Fel Cynorthwyydd Addysgu Lefel 2, byddwch yn:
- Darparu cefnogaeth wedi'i deilwra i ddisgyblion, gan gynnwys y rhai ag anghenion addysgu ychwanegol, gan sicrhau eu diogelwch a'u mynediad at ddysgu.
- Defnyddio sgiliau arbenigol a phrofiad i ddarparu cefnogaeth allgymorth ac i gynorthwyo gyda Chynlluniau Addysg Unigol.
- Hyrwyddo cynhwysiant, annibyniaeth ac ymddygiad cadarnhaol.
- Cefnogi gweithgareddau dysgu, monitro cynnydd disgyblion, a rhoi adborth i athrawon.
- Helpu i greu amgylchedd dysgu pwrpasol a chefnogol.
- Meithrin perthnasoedd cryf gyda disgyblion, staff a theuluoedd, a chyfrannu at fywyd ehangach yr ysgol gan gynnwys teithiau a gweithgareddau.
Rydym yn chwilio am rywun sydd:
- Yn gallu cyfathrebu yn rhugl yn Gymraeg a Saesneg.
- Wedi gweithio gyda neu ofalu am blant o oedran perthnasol.
- Yn meddu ar NVQ Lefel 3 ar gyfer Cynorthwywyr Addysgu neu gymwysterau/profiad cyfatebol.
- Yn meddu ar sgiliau llythrennedd a rhifedd da ac yn hyderus wrth ddefnyddio TG i gefnogi dysgu.
- Yn deall datblygiad plant, strategaethau dysgu, a pholisïau perthnasol.
- Yn hyblyg, rhagweithiol, ac yn gallu gweithio'n annibynnol ac fel rhan o dîm.
- Yn meddu ar hyfforddiant cymorth cyntaf neu'n barod i'w gwblhau.
Pam Ymuno â Ni?
Ymunwch â chymuned ysgol ofalgar ac ymroddedig lle mae eich sgiliau a'ch profiad yn cael eu gwerthfawrogi. Rydym yn cynnig cyfleoedd ar gyfer datblygiad proffesiynol a hyfforddiant, gan eich helpu i dyfu yn eich rôl tra'n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i ddysgu a lles disgyblion.
Os ydych chi'n angerddol am helpu plant i lwyddo ac eisiau chwarae rhan allweddol yn eu haddysg, byddem wrth ein bodd yn clywed gennych.
Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â'r Pennaeth, Sioned Morris drwy ffonio 01970832276 neu e-bostio prif@talybont.ceredigion.sch.uk
Noder: Cedwir yr hawl i ymestyn y dyddiad cau.
Rydym wedi ymrwymoi ddiogelu ac amddiffynplant ac oedolion sydd mewn perygl Fel rhan o'r ymrwymiadhwn,maerhai rolau o fewn ein sefydliad yn gofyn am wiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) i asesu addasrwydd ymgeiswyr. Bydd y rôl hon yn gofyn am wiriad DBS Uwch.Sylwchna fydd presenoldeb euogfarnau blaenorol o reidrwydd yn anghymhwyso ymgeisydd rhag ystyriaeth ar gyfer y swydd hon. Rydym yn asesu pob ymgeisydd fesul achos, ac yn ystyried natur a pherthnasedd unrhyw euogfarnau mewn perthynas â chyfrifoldebau'r rôl. Ein nod yw creu amgylchedd gwaith cynhwysol a chefnogol lle caiff pob unigolyn ei drin yn deg a chyda pharch. Os oes gennych unrhyw bryderon neu gwestiynau am y broses hon, mae croeso i chi gysylltu â ni am eglurhad. Mae eich preifatrwydd a'ch urddas yn hollbwysig i ni drwy gydol y broses recriwtio.
Yr hyn a gynigwn
Cydbwysedd bywyd a gwaith
Cynllun cynilo ffordd o fyw
Cynllun pensiwn cyflogwr hael
Cynllun beicio i'r gwaith
Dysgu a datblygu
Lle byddwch yn gweithio
Gwasanaeth Ysgolion a Diwylliant
Rydym yn cynnig her a chefnogaeth briodol i'n hysgolion, i'w helpu i gyflwyno addysg o'r radd flaenaf i bob disgybl, ar draws yr ystod oedran a gallu. Mae ein prif swyddogaethau yn cynnwys:
- Gwella Ysgolion: Arweinyddiaeth; Cefnogaeth a Her, Addysgu a Dysgu; Llythrennedd Digidol; Llythrennedd a Rhifedd; Cymraeg mewn Addysg
- Anghenion Dysgu Ychwanegol: Darpariaeth ar gyfer disgyblion ag Anghenion Dysgu Ychwanegol, Cynhwysiant; Presenoldeb; Seicoleg Addysg
- Lles Disgyblion: Cwnsela; Lles; Gwrth-fwlio, Llais Disgyblion
- Llywodraethu Addysg: Data; Cefnogaeth Llywodraethwyr, Cefnogaeth polisi
- Derbyniadau Ysgol
- Diwylliant: Gwasanaeth Cerdd; Cered; Theatr Felinfach; Amgueddfa
- Seilwaith ac Adnoddau: cynllunio lleoedd ysgol, moderneiddio a rhaglen ysgolion yr Unfed Ganrif ar Hugain, Adeiladau; Grantiau
- Arlwyo: Canolfannau Dydd; Ysgolion cynradd; Cartrefi preswyl
- Uned Gofal Plant: Asesiad Digonolrwydd Gofal Plant; Grant Gofal Plant a Chwarae; Cynnig Gofal Plant Cymorth busnes a hyfforddiant staff ar gyfer Darpariaeth Ôl Ysgol (Clybiau ar ôl Ysgol a Chlybiau Gwyliau); Meithrinfeydd Dydd, Cylchoedd Meithrin/Chwarae a Gwarchodwyr Plant