MANYLION.
  • Lleoliad: Ysgol Eifionydd, Porthmadog,
  • Pwnc: Heb ei ddarparu
  • Oriau: Heb ei ddarparu
  • Cytundeb : Parhaol
  • Dyddiad Dechrau: Heb ei ddarparu
  • Dyddiad Gorffen: Heb ei ddarparu
  • Math o gyflog : Heb ei Gyflenwi
  • Cyflog : £23,042 - £24,995 y flwyddyn
  • Iaith: Unrhyw
  • Dyddiad Cau: 03 Tachwedd, 2026 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Technegydd Gwyddoniaeth a Thechnoleg - Ysgol Eifionydd

Cyngor Gwynedd

Cyflog: £23,042 - £24,995 y flwyddyn

Manylion
Hysbyseb Swydd

ADDYSG

YSGOLION UWCHRADD

YSGOL EIFIONYDD, PORTHMADOG

(Ysgol Gyfun 11 - 16 oed, 369 o ddisgyblion)

Yn eisiau: 30 Tachwedd, 2026

(Neu cyn gynted a phosib wedi hynny)

TECHNEGYDD GWYDDONIAETH A THECHNOLEG - Parhaol

Mae Llywodraethwyr yr ysgol yn awyddus i apwyntio person brwdfrydig ac egnïol ar gyfer y swydd uchod sydd yn meddu ar y cymwysterau priodol a'r sgiliau addas.

Oriau gwaith: 32.5 awr yr wythnos

(40 wythnos waith mewn blwyddyn ysgol sef 38 wythnos tymor ysgol, 5 diwrnod mewn hyfforddiant yn ogystal â bod ar gael i weithio cyfwerth a'ch oriau wythnosol yn ychwanegol tu hwnt i'r oriau arferol).

Graddfa Gyflog: Telir cyflog yn unol ag Amodau Gwaith ar gyfer Gweithwyr Llywodraeth Leol, Graddfa S1 pwyntiau 12-17 (£23,042 - £24,995 y flwyddyn) yn ôl profiad a chymhwyster.

Mae'r gallu i gyfathrebu drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg yn hanfodol ar gyfer y swydd hon. Mae'r ysgol yn gweithredu'n unol a'i Bolisi Iaith. Bydd angen i'r ymgeisydd gyrraedd y lefel ieithyddol sy'n cael ei nodi yn y Manylion Person.

Rydym yn annog pob ymgeisydd am swydd gyda'r Cyngor i gyflwyno ceisiadau yn Gymraeg neu yn ddwyieithog. (Bydd ceisiadau sydd yn cael eu cyflwyno yn uniaith Gymraeg neu Saesneg yn cael eu trin yn gwbl gyfartal, ond gofynnir i'r ymgeisydd ystyried yn ofalus beth yw gofynion iaith y swydd a'r sefydliad ac a fyddai cyflwyno cais yn uniaith Gymraeg yn fwy addas).

Gwahoddir unrhyw un sydd â diddordeb a/neu angen mwy o wybodaeth i drafod yn anffurfiol â'r Pennaeth, Mr. Dewi Bowen B.Sc.

Gellir gyflwyno cais am y swydd yma ar-lein ar wefan Cyngor Gwynedd neu mae pecyn cais i'w cael gan Mrs. Marian Crowe, Rheolwr Busnes a Chyllid, Ysgol Eifionydd, Stryd Fawr, Porthmadog, Gwynedd, LL49 9HS (Rhif ffôn: 01766 512114, Ffacs 01766 514785); e-bost: sg@eifionydd.ysgoliongwynedd.cymru . Os dymunir ddychwelyd y cais drwy'r post, dylid ei ddychwelyd i'r cyfeiriad uchod erbyn y dyddiad cau.

DYDDIAD CAU: 10:00 Y.B, DDYDD MAWRTH, 3 O TACHWEDD, 2026.

Bydd y Cyngor yn gofyn am gopi o'r dadleniad gan Wasanaeth Datgelu a Gwahardd a chadarnhad o gofrestriad gyda'r Cyngor Gweithlu Addysg gan yr ymgeisydd llwyddiannus cyn y gallent gychwyn yn yr Ysgol.

Mae'r awdurdod hwn wedi ymrwymo i ddiogelu a hyrwyddo lles plant a phobl ifanc ac mae'n disgwyl y bydd pob un o'i staff a'i wirfoddolwyr yn rhannu'r ymrwymiad hwn.

Manylion Person

Hanfodol
  • Sgiliau trefnu da a'r gallu i reoli amser yn effeithiol.
  • Agwedd gadarnhaol a pharodrwydd i ddysgu.
  • Sgiliau cyfathrebu da a'r gallu i weithio'n dda mewn tîm.
  • Ymwybyddiaeth dda o iechyd a diogelwch.
  • Gallu gweithio'n annibynnol a defnyddio menter, gan ofyn am gymorth pan fo angen.

Swydd Ddisgrifiad

Diben y rôl

Cefnogi addysgu a dysgu yn i-Ddarganfod (Gwyddoniaeth, Dylunio a Thechnoleg a Chyfrifiadureg) drwy baratoi a chynnal a chadw offer ac adnoddau.
Bydd deiliad y swydd yn gweithio gyda'r athrawon ac yn dilyn y cyfarwyddiadau a'r hyfforddiant a ddarperir gan yr ysgol a Digidol Gwynedd (Gwasanaeth Technoleg Gwybodaeth Addysg y Sir).
Bydd deiliad y swydd yn atebol i Bennaeth i-Ddarganfod ac, yn y pen draw, i'r Pennaeth.

Prif ddyletswyddau

Cefnogi addysgu a dysgu
  • Paratoi offer, deunyddiau ac adnoddau ar gyfer gwersi ymarferol.
  • Casglu, clirio a storio offer ar ôl gwersi.
  • Cynorthwyo athrawon a disgyblion yn ystod gweithgareddau ymarferol pan fo angen.
  • Helpu i baratoi deunyddiau a chyfrifiaduron ar gyfer arholiadau ac asesiadau.

Gwyddoniaeth
  • Paratoi cemegion ac offer gan ddilyn cyfarwyddiadau athrawon a gweithdrefnau iechyd a diogelwch.
  • Cadw stoc o gemegion ac offer labordy.
  • Glanhau a gwirio offer labordy a gwneud gwaith cynnal a chadw sylfaenol.
  • Helpu i sicrhau bod offer yn cael eu defnyddio'n ddiogel a bod y labordai'n drefnus ac yn ddiogel.

Dylunio a Thechnoleg
  • Paratoi deunyddiau fel pren, metelau, plastigion a thecstilau ar gyfer gwersi.
  • Gwirio offer llaw ac offer peirianyddol sylfaenol a gwneud gwaith cynnal a chadw arnynt yn unol â'r hyfforddiant a dderbynnir.
  • Helpu i sicrhau bod peiriannau a chyfarpar yn cael eu defnyddio'n ddiogel.
  • Helpu i gadw'r gweithdai'n lân, yn drefnus ac yn ddiogel.

Iechyd a diogelwch
  • Sicrhau bod offer a deunyddiau'n cael eu defnyddio a'u storio'n ddiogel.
  • Gwirio offer ac adnoddau'n rheolaidd.
  • Helpu athrawon i gwblhau a diweddaru asesiadau risg.
  • Rhoi gwybod i arweinwyr adrannau am ddiffygion neu unrhyw waith atgyweirio sydd ei angen.

Technoleg gwybodaeth
  • Cadw cofnod cywir o ddyfeisiau'r ysgol, gan gynnwys gliniaduron, ac o'u lleoliadau.
  • Datrys problemau sylfaenol â meddalwedd neu galedwedd gyda chymorth ac arweiniad Digidol Gwynedd.
  • Trefnu bod cyfrifiaduron diffygiol yn cael eu hanfon at Digidol Gwynedd i'w hatgyweirio, a chadw cofnod o hyn.
  • Cefnogi tiwtoriaid dosbarth i sicrhau bod disgyblion yn gwefru eu gliniaduron ac yn eu cadw'n drefnus.
  • Cysylltu â Digidol Gwynedd i drefnu bod sgriniau rhyngweithiol y staff yn cael eu hatgyweirio.
  • Symud sgriniau rhyngweithiol symudol yn ddiogel pan fo angen.
  • Gweithredu fel cyswllt Hwb Digidol yr ysgol ar y cyd â'r Pennaeth.
  • Cydweithio â Digidol Gwynedd i sicrhau bod cyfrifiaduron, iPads a system ffôn yr ysgol wedi'u cysylltu'n briodol.
  • Sicrhau bod cyfrifiaduron wedi'u cysylltu â'r llungopïwyr, gyda chymorth Digidol Gwynedd.
  • Cynorthwyo staff cegin yr ysgol i gysylltu â systemau electronig allanol, gyda chymorth Digidol Gwynedd.
  • Sicrhau bod adnoddau digidol ar gael ar gyfer arholiadau allanol, ar y cyd â Digidol Gwynedd a'r Swyddog Arholiadau.

Rheoli stoc
  • Monitro lefelau stoc o ddeunyddiau ac offer.
  • Archebu deunyddiau ac offer ar y cyd ag arweinwyr adrannau.
  • Cadw cofnodion cywir o offer ac adnoddau.

Dyletswyddau eraill
  • Cefnogi prosiectau a digwyddiadau'r ysgol a pharatoi adnoddau pan fo angen.
  • Ymgymryd â hyfforddiant perthnasol.
  • Dilyn polisïau'r ysgol ar ddiogelu plant, cyfrinachedd a diogelu data, a rhoi gwybod am unrhyw bryderon.
  • Cyflawni dyletswyddau rhesymol eraill sy'n gysylltiedig â'r swydd ar gais y Pennaeth.

Nid yw'r swydd-ddisgrifiad hon yn rhestr gyflawn o bob dyletswydd. Caiff ei hadolygu'n flynyddol a'i diwygio yn ôl anghenion yr ysgol, ar ôl ymgynghori â deiliad y swydd.

  • Ceisio ar lein - Sut?
  • Rhestr Swyddi