MANYLION.
Ymgeisiwch Nawr (CY)
- Lleoliad: Rhyl,
- Pwnc: Heb ei ddarparu
- Oriau: Rhan amser
- Cytundeb : gweithio hyblyg
- Dyddiad Dechrau: Heb ei ddarparu
- Dyddiad Gorffen: Heb ei ddarparu
- Math o gyflog : Fesul awr
- Cyflog : £20.66 - £22.05 yr awr sy'n cynnwys hawl gwyliau
- Iaith: Unrhyw
- Dyddiad Cau: 13 Tachwedd, 2026 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (EN)
Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.
Goruchwylydd Sgiliau Ymarferol - Cerbydau Modor (Gwasanaethu, Cynnal a Chadw neu Atgyweirio’r Corff neu Baentio Cerbydau) Tymor yn Unig
Grwp Llandrillo Menai
Cyflog: £20.66 - £22.05 yr awr sy'n cynnwys hawl gwyliau
O dan arweiniad gan staff darlithio fe fydd y Goruchwylydd Sgiliau Ymarferol yn darparu hyfforddiant a chyfarwyddyd i ddysgwyr yn gwneud gweithgareddau ymarferol mewn gweithdy ymarferol, cegin neu amgylchedd salon a byddant yn cynorthwyo a chefnogi darlithwyr i tracio ac asesu cynnydd dysgwyr gan gynnig arweiniad a chefnogaeth os yn briodol.Bydd y goruchwyliwr yn sicrhau safonau priodol o ddisgyblaeth, iechyd, diogelwch a llesiant, gan gynnal cydymffurfiaeth ag arferion iechyd a diogelwch ac amgylcheddol. Bydd y cyfrifoldebau hefyd yn cynnwys paratoi deunyddiau, offer, cyfarpar, a gweithfannau ar gyfer sesiynau ymarferol, cynnal amgylchedd y gweithdy, offer, a pheiriannau yn ystod sesiynau pan nad oes addysgu yn digwydd, a chyfrannu at weithgareddau marchnata a recriwtio, a datblygiad proffesiynol yn ôl yr angen.
Manylion Swydd
Cyfeirnod y Swydd
CL/072/26
Cyflog
£20.66 - £22.05 yr awr sy'n cynnwys hawl gwyliau
Lleoliad Gwaith
- Y Rhyl
Hawl gwyliau
- 28 diwrnod y flwyddyn, yn codi i 32 diwrnod ar ôl pum mlynedd lawn o wasanaeth di-dor (01 Medi i 31 Awst).
- Yr holl wyliau cyhoeddus arferol, i'w pennu'n flynyddol.
- Hyd at 5 diwrnod effeithlonrwydd / diwrnod y trefnwyd i'r safle fod ar gau bob blwyddyn, i'w pennu'n flynyddol.
- Bydd gan y rhai ar gontractau Rhan-amser hawl pro rata i'r hyn a nodir uchod.
- Bydd gan y rhai ar gontractau Amser Tymor hawl pro rata i'r hyn a nodir uchod a delir fel rhan o'r cyflog blynyddol.
Patrwm gweithio
Hyd at 16 awr yr wythnos (I'w gytuno a'r ymgeisydd llwyddiannus)
35 wythnos y flwyddyn
Hawliau Pensiwn
Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol
Math o gytundeb
Rhan Amser a Delir wrth yr Awr
Dyddiad cau
13 Tach 2026
12:00 YH(Ganol dydd)