MANYLION.
Ymgeisiwch Nawr (CY)
- Lleoliad: Rhyl,
- Pwnc: Heb ei ddarparu
- Oriau: Rhan amser
- Cytundeb : gweithio hyblyg
- Dyddiad Dechrau: Heb ei ddarparu
- Dyddiad Gorffen: Heb ei ddarparu
- Math o gyflog : Fesul awr
- Cyflog : £22.58 - £34.91 yr awr sy'n cynnwys hawl gwyliau
- Iaith: Unrhyw
- Dyddiad Cau: 13 Tachwedd, 2026 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (EN)
Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.
Darlithydd mewn Peirianneg Cerbydau Modor (Gwasanaethu, Cynnal a Chadw new Atgyweirio’r Corff new Baentio Cerbydau), tymor yn Unig
Grwp Llandrillo Menai
Cyflog: £22.58 - £34.91 yr awr sy'n cynnwys hawl gwyliau
Addysgu i safon uchel, creu cyfleoedd dysgu effeithiol a galluogi'r holl ddysgwyr i gyflawni hyd eithaf eu gallu.Fel Darlithydd Cerbydau Modur, byddwch yn asesu ac yn cynghori darpar ddysgwyr, yn cynnal cyfweliadau, yn cynnal asesiadau cychwynnol, ac yn adnabod anghenion dysgu tra'n sicrhau eu bod wedi cofrestru gyda'r coleg a chyda cyrff dyfarnu. Byddwch yn cynllunio ac yn cyflwyno Cynlluniau Gwaith a Chynlluniau Gwers diddorol sy'n ymgorffori sgiliau hanfodol, anghenion ieithyddol, a dulliau addysgu amrywiol i fodloni gofynion y dysgwyr. Gan gynnal amgylchedd dysgu diogel ac effeithiol, byddwch yn defnyddio technegau addysgu amrywiol, yn gosod nodau heriol, ac yn meithrin cyfathrebu effeithiol gyda dysgwyr a chydweithwyr. Byddwch yn cefnogi dysgwyr trwy'r cyfnod cynefino, yn cynnig arweiniad academaidd a bugeiliol, ac yn eu helpu i gael mynediad at wasanaethau priodol. Byddwch hefyd yn cynllunio ac yn cyflwyno asesiadau teg, yn darparu adborth adeiladol, ac yn cynnal cofnodion cywir. Gan fyfyrio ar eich ymarfer a'i wella, byddwch yn cymryd rhan mewn datblygiad proffesiynol ac yn cael y wybodaeth ddiweddaraf am ddatblygiadau yn y diwydiant.
Manylion Swydd
Cyfeirnod y Swydd
CL/071/26
Cyflog
£22.58 - £34.91 yr awr sy'n cynnwys hawl gwyliau
Lleoliad Gwaith
- Y Rhyl
Hawl gwyliau
Bydd hawl i wyliau â thâl pro rata ym mhob blwyddyn academaidd (1 Medi i 31 Awst), sy'n cynnwys hawl pro-rata i 8 Gŵyl Banc a Gwyliau Cyhoeddus a welir fel arfer yng Nghymru a hawl pro-rata o hyd at 5 o wyliau effeithlonrwydd (sylwer y gall hyn newid yn flynyddol). Mae gwyliau blynyddol yn deillio o hawl pro rata cyfwerth ag amser llawn o 46 diwrnod sydd wedi'i gynnwys yn y gyfradd fesul awr a delir.
Patrwm gweithio
Hyd at 16 awr yr wythnos ( I'w gytuno a'r ymgeisydd llwyddiannus)
35 wythnos y flwyddyn
Bydd canran ychwanegol o rhwng 10% - 63.33% (yn amodol ar feini prawf) yn cael ei gymhwyso i'r oriau cytundebol a weithiwyd i adlewyrchu paratoi a marcio.
Hawliau Pensiwn
Cynllun Pensiwn Athrawon
Math o gytundeb
Rhan Amser a Delir wrth yr Awr
Dyddiad cau
13 Tach 2026
12:00 YH(Ganol dydd)