MANYLION.
  • Lleoliad: Wrexham,
  • Pwnc: Heb ei ddarparu
  • Oriau: Heb ei ddarparu
  • Cytundeb : Cyfnod penodol
  • Dyddiad Dechrau: Heb ei ddarparu
  • Dyddiad Gorffen: Heb ei ddarparu
  • Math o gyflog : Heb ei Gyflenwi
  • Cyflog : PRC-URC / MPR - UPR
  • Iaith: Unrhyw
  • Dyddiad Cau: 06 Tachwedd, 2026 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Athro / Athrawes dros gyfnod mamolaeth (Bl 2/3) - Ysgol Bro Alun

Cyngor Wrecsam

Cyflog: PRC-URC / MPR - UPR

Ynglŷn â'r Rôl
Dyddiad cychwyn: Ionawr 4ydd 2027.
Dros dro tan 10/12/2027.

Mae'r Corff Llywodraethu yn dymuno penodi athro / athrawes brwdfrydig i lenwi swydd dros Gyfnod Mamolaeth yn addysgu ym Mlwyddyn 2/3

Ysgol benodol Gymraeg yw Ysgol Bro Alun wedi'i lleoli ym mhentref Gwersyllt ar gyrion tref Wrecsam.

Gallwn gynnig awyrgylch ac ethos hyfryd ymysg y staff a'r plant sy'n cyfrannu'n helaeth at lwyddiant yr ysgol.

Gwahoddir ceisiadau gan ymgeiswyr rhugl eu Cymraeg.

I gael rhagor o wybodaeth am y swydd neu os am ymweld efo'r ysgol, cysylltwch â'r Pennaeth dros dro, Osian Jones ar [email protected] neu drwy ffonio 01978 269580.

Dyddiad cau ceisiadau: Dydd Gwener, Tachwedd 6ed
Dyddiad cyfweliadau: I'w gadarnhau

Mae angen gwiriad manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd a chofrestriad Cyngor y Gweithlu Addysg ar gyfer y swydd hon.

Mae'r Cyngor yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr â chymwysterau addas heb ystyried hil, rhyw, anabledd, rhywioldeb, cred grefyddol nac oed.

Mae'r Cyngor yn ymrwymedig i ddatblygu ei weithlu dwyieithog ac mae'n croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr sy'n dangos eu gallu i weithio yn Gymraeg ac yn Saesneg. Ni fydd ceisiadau a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn y Saesneg.
Amdanom Ni
Amdanom ni - Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam yn gweinyddu gwasanaethau amrywiol sy'n helpu i wella bywydau trigolion Wrecsam a'r cymunedau o'n cwmpas. Rydym yn ymrwymedig i ddarparu gwasanaethau o safon uchel drwy gydweithredu gyda phartneriaid lleol a chenedlaethol. Gyda phwyslais ar ddatblygiad cynaliadwy, lles y gymuned a chyfleoedd cyfartal i bawb, mae Wrecsam yn lle gwych i weithio, byw a dysgu.

Yn y Cyngor, rydym yn gwerthfawrogi amrywiaeth, cefnogi twf personol a phroffesiynol, ac yn darparu amgylchedd gwaith hyblyg a chefnogol. Ymunwch â ni i wneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau pobl Wrecsam a thros y rhanbarth ehangach.

About Us - Wrexham County Borough Council

Wrexham County Borough Council delivers a wide range of services aimed at improving the lives of Wrexham residents and surrounding communities. We are committed to providing high-quality services through collaboration with local and national partners. With a focus on sustainable development, community wellbeing, and equal opportunities for all, Wrexham is a fantastic place to work, live, and learn.

At the Council, we value diversity, support personal and professional growth, and offer a flexible and supportive working environment. Join us to make a real difference in the lives of people in Wrexham and the wider region.