MANYLION.
Ymgeisiwch Nawr (CY)
- Lleoliad: Colwyn Bay,
- Pwnc: Heb ei ddarparu
- Oriau: Heb ei ddarparu
- Cytundeb : Parhaol
- Dyddiad Dechrau: Heb ei ddarparu
- Dyddiad Gorffen: Heb ei ddarparu
- Math o gyflog : Heb ei Gyflenwi
- Cyflog : Soulbury A 2-7 yn ogystal â 3 SPA
- Iaith: Unrhyw
- Dyddiad Cau: 12 Tachwedd, 2026 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (EN)
Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.
Cyflog: Soulbury A 2-7 yn ogystal â 3 SPA
Lleoliad gwaith: Coed Pella - ac mewn ysgolion ledled ConwyAnogir Seicolegwyr Addysg Dan Hyfforddiant ym Mlynyddoedd 2 a 3 i wneud cais.
Ydych chi'n chwilio am eich swydd Seicolegydd Addysg gyntaf mewn gwasanaeth lle cewch eich cefnogi, eich gwerthfawrogi a'ch annog i ddatblygu?
Mae Gwasanaeth Seicoleg Addysg Conwy yn un cyfeillgar, sefydledig a hynod gefnogol yma yn un o ardaloedd harddaf gogledd Cymru. Rydym ni'n chwilio am Seicolegwyr Addysg brwdfrydig a Seicolegwyr Addysg Dan Hyfforddiant ym mlynyddoedd 2 neu 3 sydd eisiau datblygu eu hymarfer mewn gwasanaeth sydd wedi ymrwymo i gydraddoldeb mewn addysg, cydweithio a thwf proffesiynol parhaus.
Rydym ni'n falch iawn o ddiwylliant cefnogol ein tîm lle mae seicolegwyr yn cydweithio, yn rhannu arbenigedd ac yn cefnogi ei gilydd. Pa un ai ydych chi ar fin cymhwyso neu wedi cymhwyso'n barod, byddwch yn derbyn goruchwyliaeth o'r radd flaenaf a chyfleoedd i ddatblygu eich hyder, sgiliau a'ch diddordebau proffesiynol.
Beth all Conwy ei gynnig i chi?
• Tîm croesawgar, profiadol a chefnogol o fewn gwasanaeth addysg ehangach sy'n uchelgeisiol, ymroddedig ac wedi'i integreiddio'n dda
• Rhaglen fentora a gorchwylio o ansawdd uchel a flaenoriaethir, yn cynnwys goruchwyliaeth grŵp bob pythefnos
• Cyfleoedd i weithio ochr yn ochr ag ymarferwyr profiadol ac uwch-seicolegwyr
• Trefniadau gweithio hyblyg
• Rôl amrywiol ar draws lleoliadau prif ffrwd ac arbennig
• Cyfleoedd i gyfrannu at ymarfer arloesol a datblygiad y gwasanaeth
• Ymrwymiad cryf i ddatblygiad proffesiynol parhaus
• Gwaith amlasiantaeth agos gydag ysgolion, iechyd a phartneriaid gofal cymdeithasol
• Cyfle i fyw a gweithio mewn ardal arfordirol a gwledig hyfryd, gyda Pharc Cenedlaethol Eryri ar garreg eich drws
Mae seicoleg addysg yn chwarae rôl ganolog yng ngwasanaethau ADY Conwy. Fel gwasanaeth eithaf bach, mae gan ein seicolegwyr gyfle go iawn i gyfrannu at ddatblygiad y gwasanaeth, i siapio ymarfer lleol ac i leisio eu barn.
Dyma gyfle cyffrous i ymuno â gwasanaeth a arweinir gan werthoedd sy'n defnyddio seicoleg addysg ar lefel unigol, grŵp a systemig, ac sydd wedi ymrwymo i wella canlyniadau plant a phobl ifanc.
Rydym ni'n croesawu ceisiadau gan seicolegwyr gydag amrywiaeth o sgiliau, diddordebau a phrofiadau. Yn fwy na dim, rydym ni'n chwilio am gydweithwyr sy'n frwdfrydig dros ddefnyddio seicoleg, datblygu cydraddoldeb mewn addysg a gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i blant, pobl ifanc a'u teuluoedd.
Mae'r gallu i siarad gyda defnyddwyr gwasanaeth yn Gymraeg yn ddymunol, ac fe groesawir ceisiadau gan ddysgwyr Cymraeg.
Oherwydd natur y swydd bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn cael archwiliad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Os ydych chi'n chwilio am wasanaeth lle fedrwch chi dyfu, cyfrannu a ffynnu, yna byddem wrth ein bodd yn clywed gennych chi.
Mae'r rôl hon yn cynnig opsiynau gweithio hyblyg ar gyfer cydbwysedd bywyd a gwaith. Gall hyn gynnwys addasu eich diwrnod gwaith a gweithio hybrid, hy cydbwysedd rhwng gweithio yn y swyddfa a gweithio gartref.
I gael sgwrs am y swydd cysylltwch â:
Dr Kate Swindon
Prif Seicolegydd Addysg
01492 575173
Dr Eleri Bevan
Uwch Seicolegydd Addysg
01492 574287
Gofynion y Gymraeg: Mae'r gallu i gyfarthrebu yn y Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon. Rydym ni wedi ymrwymo i'r Gymraeg ac yn falch iawn o'n diwylliant Cymreig. Rydym yn croesawu ceisiadau yn y Gymraeg a'r Saesneg fel ei gilydd ac ni fydd ffurflenni cais a dderbynnir yn y naill iaith na'r llall yn cael eu trin yn llai ffafriol na'i gilydd. Rydym yn frwdfrydig dros eich cefnogi a'ch annog i ddefnyddio'ch Cymraeg, beth bynnag eich lefel; ac mae gennym ni ddosbarthiadau am ddim ar gyfer pob lefel, wyneb yn wyneb ac ar-lein, i'ch cefnogi chi ymhellach.
Mae Conwy wedi ymrwymo i ddiogelu. Bydd cymwysterau a geirdaon yn cael eu dilysu.
Cliciwch yma i ddysgu am y manteision o ymuno â Thîm Conwy.
Dysgwch fwy am ein proses recriwtio drwy fynd i'n Tudalen Proses Recriwtio.
Rydym wedi ymrwymo i ddatblygu gweithlu amrywiol a thimoedd cynhwysol sy'n croesawu ystod eang o leisiau, profiadau, safbwyntiau a chefndiroedd. Mae creu gweithle sy'n groesawgar a lle mae pawb yn teimlo eu bod yn perthyn yn sicrhau y gallwn ddarparu gwasanaethau rhagorol.
Croesawn ac anogwn ymgeiswyr o bob cefndir a phrofiadau.
Rydym yn Gyflogwr Hyderus o ran Anabledd. Os oes gennych anabledd wedi'i ddatgan yn eich cais, gallwn sicrhau cyfweliad os ydych yn profi eich bod yn bodloni meini prawf hanfodol y swydd yn eich cais (gofynion a nodir gyda 'H' ar y Manylion am yr Unigolyn). Angen rhywfaint o gymorth gyda'ch cais? Mae gennym awgrymiadau, canllawiau a gwasanaethau cymorth i'ch helpu chi drwyddo.
Rydym yn fodlon darparu addasiadau rhesymol trwy gydol y broses recriwtio (ac mewn cyflogaeth) lle bynnag bosibl. Anogwn i chi wneud cais am addasiadau. Er mwyn gwneud hyn, cysylltwch â'r rheolwr a enwir uchod er mwyn trafod eich anghenion a chymorth posibl. Mae dewisiadau i wneud cais trwy ffurfiau gwahanol, cysylltwch â'r Tîm AD ar 01492 576129 er mwyn trafod sut y gallwn eich cefnogi chi. Ni fydd y ceisiadau hyn yn eich rhoi dan unrhyw anfantais.
This form is also available in English.