MANYLION
  • Lleoliad: Deeside, Flintshire, CH5 4BR
  • Testun: Cynorthwyydd Cymorth Dysgu Ychwanegol
  • Oriau: Rhan amser
  • Cytundeb: Cyfnod penodol
  • Dyddiad Dechrau: 10 June, 2021
  • Dyddiad Gorffen: 31 August, 2022
  • Math o gyflog: Blynyddol
  • Salary Range: £18,709 - £19,184
  • Iaith: Saesneg
  • Dyddiad Cau: 09 Gorffennaf, 2021 11:45 y.p

This job application date has now expired.

Cymhorthydd Dysgu

Cymhorthydd Dysgu

Coleg Cambria
Rhagori ar ddisgwyliadau trwy addysg, arloesedd ac ysbrydoliaeth...

Teitl y Swydd: Cymhorthydd Dysgu

Lleoliad: Glannau Dyfrdwy

Math o Gontract: Cyfnod Penodol tan mis Awst 2022– Rhan-Amser (25 awr yr wythnos - 36 wythnos y flwyddyn)

Cyflog: £18,709 - £19,184 – Bydd y cyflog hwn yn un pro rata ac yn seiliedig ar brofiad ac asesiad cyflog.

Mae Coleg Cambria yn chwilio am Gymhorthydd Dysgu i ymuno â'n tîm yng Nglannau Dyfrdwy sy'n cefnogi ein dysgwyr ag Anghenion Dysgu Ychwanegol. Yn ddelfrydol, rydym yn chwilio am unigolion sydd â phrofiad blaenorol o gefnogi dysgwyr mewn lleoliad addysgol. Rydym yn awyddus i recriwtio pobl sy'n credu'n angerddol y bydd grymuso a galluogi pobl ifanc ag ystod o alluoedd mewn lleoliad addysg bellach yn eu helpu i gyflawni eu huchelgeisiau bywyd a gwaith.

Gofynion Hanfodol

Mae'n hanfodol bod gennych sgiliau cyfathrebu rhagorol a'r gallu i addasu eich arddull gyfathrebu pan fo angen i ddiwallu anghenion pobl ifanc ac oedolion.

Mae'n hanfodol bod gennych sgiliau llythrennedd a rhifedd cryf Lefel 2 neu uwch.

Rydym yn chwilio am unigolion sy'n gallu dangos empathi a dealltwriaeth o amrywiaeth o anawsterau/anableddau dysgu yn ogystal â gwytnwch, hyblygrwydd, amynedd a synnwyr digrifwch.

Yn ddelfrydol, bydd gennych brofiad blaenorol o gefnogi dysgwyr ag anghenion dysgu ychwanegol yn yr ystafell ddosbarth neu brofiad personol perthnasol sylweddol.

Bydd disgwyl i chi ddangos brwdfrydedd dros rymuso a galluogi pobl ifanc.

Byddwch yn gallu meithrin perthynas waith dda gyda dysgwyr a staff a’r gallu i reoli grwpiau o ddysgwyr a bod ag agwedd gadarnhaol tuag at ymddygiad heriol.



Mae Coleg Cambria wedi ymrwymo i wella proffil y Gymraeg.

Mae sgiliau Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon.

Mae Coleg Cambria yn gyflogwr ‘Hyderus o ran Anableddau’.

Mae hyrwyddo Cydraddoldeb ac Amrywiaeth yn rhan hanfodol o’n gwaith, ac mae’r coleg wedi ymrwymo i gael grŵp staff amrywiol fel rhan o hynny.

Mae diogelwch plant, pobl ifanc ac oedolion, y nodwyd eu bod yn ‘agored i niwed’, yn hollbwysig ac mae Coleg Cambria wedi ymrwymo’n llwyr i ddiogelu a hyrwyddo llesiant yr unigolion hyn ac i weithredu gweithdrefnau a threfniadau’r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) yn drwyadl. Byddwn yn gofyn am wiriad DBS gan yr ymgeisydd llwyddiannus a fydd yn cael cynnig y swydd. Os byddwch yn llwyddiannus, efallai y bydd yn ofynnol i chi gofrestru gyda Chyngor y Gweithlu Addysg, yn ddibynnol ar y swydd yr ydych yn ymgeisio amdani.

Sylwer bod Coleg Cambria yn cadw’r hawl i gau ein swyddi gwag yn gynharach na’r dyddiad a nodwyd petaem yn derbyn nifer fawr o geisiadau. Byddem yn argymell eich bod yn cwblhau eich cais cyn gynted ag y bo modd os ydych yn dymuno cael eich ystyried ar gyfer y swydd.

Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: 09/07/21
JOB REQUIREMENTS
Gofynion Hanfodol

Mae'n hanfodol bod gennych sgiliau cyfathrebu rhagorol a'r gallu i addasu eich arddull gyfathrebu pan fo angen i ddiwallu anghenion pobl ifanc ac oedolion.

Mae'n hanfodol bod gennych sgiliau llythrennedd a rhifedd cryf Lefel 2 neu uwch.