MANYLION.
  • Lleoliad: Newtown,
  • Pwnc: Heb ei ddarparu
  • Oriau: Rhan amser
  • Cytundeb: Dros dro
  • Math o gyflog: Per annum
  • Cyflog: Soulbury A 3 – 8 + 3SPA; cydnabyddir pwyntiau SPA £50,987 - £61,963 y flwyddyn pro rata
  • Iaith: Unrhyw
  • Dyddiad Cau: 01 Tachwedd, 2026 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Seicolegydd Addysgol Ardal

Cyngor Sir Powys

Cyflog: Soulbury A 3 – 8 + 3SPA; cydnabyddir pwyntiau SPA £50,987 - £61,963 y flwyddyn pro rata

Seicolegydd Addysgol Ardal
Swydd-ddisgrifiad
Am y rôl:

Darparu gwasanaeth Seicoleg Addysgol cynhwysfawr, sy'n canolbwyntio ar y person ac ar ganlyniadau ar gyfer plant a phobl ifanc rhwng 0 a 25 oed ac i glystyrau cytunedig o leoliadau Blynyddoedd Cynnar, ysgolion a theuluoedd.

Amdanoch chi:

Bydd gennych gymhwyster ôl-raddedig mewn Seicoleg Addysg ac mae gennych brofiad fel Seicolegydd Addysg sy'n ymarfer, neu fe fyddwch ym mlwyddyn 2/3 o'r cwrs Hyfforddi. Byddwch yn gallu gweithio'n dda fel rhan o dîm ond hefyd yn annibynnol.

Eich dyletswyddau:

Gweithio gyda lleoliadau, ysgolion, colegau ac asiantaethau eraill i ddarparu gwasanaeth seicoleg addysg i blant, pobl ifanc a staff. Bydd hyn yn cynnwys, yn ôl yr angen, gwaith uniongyrchol gyda phlant a theuluoedd, darparu cyngor, ymgynghori, a chefnogaeth wrth gymhwyso seicoleg yn gyffredinol i arferion a systemau da sy'n seiliedig ar dystiolaeth.

Am ragor o wybodaeth am y swydd hon, gallwch gysylltu â: Dewi Hughes - Prif Seicolegydd Addysg dewi.hughes@powys.gov.uk

Mae angen Gwiriad Manylach y DBS i'r swydd hon