MANYLION.
Ymgeisiwch Nawr (CY)
- Lleoliad: Heb ei ddarparu
- Pwnc: Heb ei ddarparu
- Oriau: Llawn amser
- Cytundeb: Heb ei ddarparu
- Math o gyflog: Per annum
- Cyflog: Graddfa Gyflog: L02 £53,997 - L06 £59,597\n
- Iaith: Unrhyw
- Dyddiad Cau: 12 Hydref, 2026 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (EN)
Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.
Cyflog: Graddfa Gyflog: L02 £53,997 - L06 £59,597\n
Dirprwy BennaethLlawn Amser | Ysgol Bro Penfro
Mae Llywodraethwyr Ysgol Bro Penfro yn falch o wahodd ceisiadau ar gyfer swydd Dirprwy Bennaeth.
Mae hwn yn gyfle cyffrous i ymuno â'n tîm ymroddedig a chwarae rhan allweddol wrth lunio pennod nesaf taith ein hysgol.
Mae Ysgol Bro Penfro yn ysgol gynradd Gymraeg, hapus a chynhwysol sydd wedi'i lleoli yn nhref hanesyddol Penfro. Mae ein disgyblion wrth galon popeth a wnawn, ac rydym yn falch o'r gymuned gynnes a chefnogol rydym wedi'i meithrin gyda'n teuluoedd, ein staff a'n llywodraethwyr.
Fel Dirprwy, byddwch yn aelod annatod o'n Tîm Arweinyddiaeth, gan weithio ochr yn ochr â'r Pennaeth Gweithredol a thîm o staff profiadol i wireddu gweledigaeth glir o sicrhau'r deilliannau gorau posibl i bob dysgwr. Byddwch yn cael y cyfle i ddylanwadu ar welliant ysgol gyfan, datblygu a gwreiddio arferion arloesol a chwarae rhan allweddol wrth lunio cyfeiriad strategol yr ysgol.
Mae gennym ddiddordeb arbennig mewn clywed gan ymgeiswyr sydd â disgwyliadau uchel ohonynt eu hunain ac eraill, profiad ag angerdd dros ddatblygu arweinyddiaeth ar bob lefel, profiad a thystiolaeth o ddysgu ac addysgu rhagorol sydd yn cael effaith gadarnhaol ar ddeilliannau disgyblion gan mai'r rhain yw rhai o flaenoriaethau allweddol ein Cynllun Datblygu'r Ysgol.
Bydd y rôl yn cynnwys:
- Arwain a datblygu addysgu, dysgu a datblygiad y cwricwlwm o ansawdd uchel ar draws yr ysgol.
- Arwain pobl drwy fodelu arfer dda er mwyn ysbrydoli a datblygu cyd-weithwyr, gosod safonau uchel a meithrin diwylliant o welliant parhaus er mwyn sicrhau deilliannau rhagorol i bob disgybl.
- Bod yn ymarferydd dosbarth ysbrydoledig sy'n modelu arferion dysgu ac addysgu rhagorol.
- Arwain yr ysgol yn absenoldeb y Pennaeth, gan ddarparu arweinyddiaeth strategol, hyderus a chadarn sy'n ysgogi ac yn grymuso staff, disgyblion a rhanddeiliaid i weithio'n gydweithredol tuag at gyflawni'r deilliannau gorau posibl.
- Hyrwyddo lles disgyblion a staff wrth feithrin partneriaethau cadarn â rhieni, gofalwyr a'r gymuned ehangach.
- Cyfathrebu'n effeithiol gyda rhanddeiliaid, gan feithrin perthnasoedd proffesiynol cryf sy'n seiliedig ar ymddiriedaeth, parch a chydweithio. Dangos lefel uchel o ddeallusrwydd emosiynol, er mwyn cefnogi lles, ymgysylltiad a llwyddiant pob aelod o gymuned yr ysgol.
- Cefnogi gyda rheoli newid yn effeithiol a darparu cyfleoedd parhaus ar gyfer datblygiad proffesiynol staff, gan feithrin diwylliant o ddysgu, myfyrio a gwelliant parhaus.
- Yn arweinydd ysbrydoledig, arloesol a gofalgar sy'n cymell, grymuso a chefnogi eraill.
- A phrofiad o ddatblygu'r cwricwlwm, gyda hanes profedig o godi safonau a gwella deilliannau disgyblion.
- Ag angerdd gwirioneddol dros wella deilliannau i bob plentyn trwy weithio mewn partneriaeth a rhanddeiliaid.
- Yn greadigol, yn flaengar ac wedi ymrwymo i welliant parhaus.
- A phrofiad arwain profedig, gweledigaeth, gwydnwch a'r brwdfrydedd i helpu i arwain ein hysgol i'r dyfodol.
- Ag egni ac ymrwymiad i wireddu gweledigaeth yr ysgol.
Byddwch yn ymuno â chymuned ysgol gefnogol a chroesawgar lle mae cydweithio, dysgu proffesiynol a lles staff yn cael eu gwerthfawrogi'n fawr. Mae hon yn rôl ardderchog i arweinydd profiadol sy'n barod i'r cam nesaf er mwyn gwneud gwahaniaeth parhaol wrth barhau i ddatblygu'n broffesiynol.
I gael blas ar fywyd yn Ysgol Bro Penfro, rydym yn eich annog i ymweld â'n tudalen Facebook.
Mae croeso cynnes i chi ymweld â'r ysgol, ac rydym yn eich annog yn gryf i wneud hynny. I drefnu ymweliad, cysylltwch â'n Pennaeth, Mrs Sasha Edwards, drwy e-bost ar Edwardss217@hwbcymru.net .
Dyddiadau Allweddol
- Dyddiad Cau: Dydd Llun Hydref 12fed 2026
- Rhestru Byr: Dydd Mercher Hydref 14eg 2026
- Cyfweliadau: Dydd Gwener Hydref 23ain 2026
Buddion i Weithwyr
Mae ein buddion i weithwyr wedi'u cynllunio i helpu i fuddsoddi yn eich dyfodol ac maent yn ychwanegol at fyw a gweithio yn Sir Benfro, un o'r siroedd mwyaf prydferth a dymunol yn y DU.
Mae gwefan Ymweld â Sir Benfro https://www.visitpembrokeshire.com/cy-gb yn ffynhonnell wybodaeth ardderchog, ac mae'n arddangos yr amrywiaeth eang o weithgareddau, amwynderau ac anturiaethau sy'n aros amdanoch.
Cyfeiriwch at y disgrifiad swydd uchod am ragor o fanylion am y swydd wag hon a manyleb y person.
Gwiriadau Cyflogaeth
Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i wiriad datgelu gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Caiff yr wybodaeth bersonol rydym wedi'i chasglu gennych ei rhannu â Cifas pan fydd yn briodol ar gyfer eich rôl a'ch cyfrifoldeb, a bydd Cifas yn ei defnyddio i atal twyll, ymddygiad anghyfreithlon neu anonest arall, camymddwyn, ac ymddygiad arall sy'n ddifrifol amhriodol. Os caiff unrhyw un o'r rhain eu canfod, gellir gwrthod darparu rhai gwasanaethau neu gyflogaeth i chi. Bydd eich gwybodaeth bersonol hefyd yn cael ei defnyddio i wirio pwy ydych chi. Gallwch weld rhagor o fanylion am sut y caiff eich gwybodaeth ei defnyddio gennym ni a Cifas, a'ch hawliau diogelu data, yma: https://www.cifas.org.uk/fpn.
Dylai ymgeiswyr sicrhau bod ganddynt yr hawl i weithio yn y Deyrnas Unedig cyn gwneud cais am swydd wag.
Sylwch nad yw Cyngor Sir Penfro ar hyn o bryd yn derbyn ymgeiswyr sydd angen fisa Gweithiwr Medrus fel rhagofyniad i hawl i weithio yn y DU. Dylai ymgeiswyr sicrhau bod ganddynt yr hawl i weithio yn y DU cyn gwneud cais am swydd wag.
Nodyn Canllaw: Defnyddio Deallusrwydd Artiffisial a Chywirdeb Gwybodaeth:
- Rydym yn deall y gall ymgeiswyr ddewis defnyddio offer fel Deallusrwydd Artiffisial cynhyrchiol i gefnogi paratoi eu cais. Er bod defnyddio offer o'r fath yn cael ei ganiatáu, mae'n parhau i fod yn gyfrifoldeb llawn yr ymgeisydd i sicrhau bod yr holl wybodaeth a gyflwynir yn ffeithiol gywir, yn wir, ac yn gynrychioliadol o'u sgiliau, profiadau a chymwysterau eu hunain.
- Gall darparu gwybodaeth sy'n ffug, yn gamarweiniol, neu'n orliwiedig, p'un a gafodd ei chynhyrchu gan Deallusrwydd Artiffisial ai peidio, arwain at anghymhwyso o'r broses recriwtio neu ddiswyddo os caiff ei ddarganfod ar ôl penodi.
- Drwy gyflwyno'r cais hwn, rydych yn cadarnhau bod yr holl gynnwys a ddarperir yn gywir ac wedi'i gyflwyno'n ddidwyll.
Diogelu
Mae diogelu ac amddiffyn plant ac oedolion mewn perygl yn flaenoriaeth uchel i Gyngor Sir Penfro. Ein nod yw cefnogi plant sy'n agored i niwed ac oedolion mewn perygl er mwyn sicrhau eu bod mor ddiogel â phosibl. Rydym yn ymrwymedig i sicrhau eu diogelwch a byddwn yn gweithredu i ddiogelu eu llesiant. Mae Polisi Diogelu Corfforaethol y Cyngor yn darparu fframwaith i bob aelod o staff a gwasanaeth yn y Cyngor, gan amlinellu cyfrifoldebau mewn perthynas â diogelu ac amddiffyn plant ac oedolion mewn perygl yn ogystal â'r dulliau a ddefnyddir gan y Cyngor i sicrhau ei fod yn cyflawni ei ddyletswyddau.
Mae'r polisi hwn yn berthnasol i holl weithwyr a gweithlu'r Cyngor, yn ogystal â chynghorwyr, gwirfoddolwyr a darparwyr gwasanaethau a gomisiynir gan y Cyngor. Busnes pawb yw diogelu, p'un a ydynt yn gweithio i'r Cyngor neu'n gweithio ar ran y Cyngor.
Cymorth a Gwybodaeth Ychwanegol
- Cysylltwch â'r Tîm Systemau AD cyn gynted â phosibl os na allwch wneud cais ar-lein drwy anfon e-bost at hrsystemsteam@pembrokeshire.gov.uk .
- Cysylltwch â'r Tîm Recriwtio os oes gennych unrhyw ymholiadau yn ymwneud â'r swydd wag hon drwy anfon e-bost at recriwtio@sir-benfro.gov.uk
- Mae gweithwyr llywodraeth leol ar delerau'r Cyd-gyngor Cenedlaethol yn destun bargeinio cyflog cenedlaethol; mae'r holl gyflogau a nodir yn ein hysbysebion ar hyn o bryd ar sail cyflogau 1/4/2025.
Mae sgiliau Cymraeg yn hanfodol. Gellir cyflwyno ceisiadau yn Gymraeg ac ni chânt eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau a gyflwynir yn Saesneg.