MANYLION.
Ymgeisiwch Nawr (CY)
- Lleoliad: Rhondda Cynon Taf,
- Pwnc: Heb ei ddarparu
- Oriau: Llawn amser
- Cytundeb: Parhaol
- Math o gyflog: Per annum
- Cyflog: Graddfa Gyflog Soulbury 2 - 5 £38,607 - £43,115
- Iaith: Unrhyw
- Dyddiad Cau: 16 Hydref, 2026 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (EN)
Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.
Cyflog: Graddfa Gyflog Soulbury 2 - 5 £38,607 - £43,115
Proffil swyddMae gofynion y swydd wedi'u nodi isod. Mae cymwysterau, sgiliau a phrofiad hanfodol wedi'u rhestru yn y Disgrifiad Swydd/Manyleb y Person. Mae'r rhain i'w gweld yn yr adran atodiadau isod.
Manylion y swydd
Manylion y swydd
Cyfeirnod swydd REQ002702 Dyddiad postio 02/10/2026 Dyddiad cau ceisiadau 16/10/2026 Cyflog Graddfa Gyflog Soulbury 2 - 5 £38,607 - £43,115 Oriau gwaith 37 Ar sail Amser Llawn Categori/math o swydd Addysg - Heb fod yn Addysgu Atodiadau Ffeil Temporary Assistant Educational Psychologist.pdf Seicolegydd Addysg Cynorthwyol Dros Dro.pdf
Seicolegydd Addysg Cynorthwyol Dros Dro
Disgrifiad Swydd
ADDYSG A DYSGU GYDOL OES RHONDDA CYNON TAF
GWASANAETH MYNEDIAD A CHYNHWYSIANT
Seicolegydd Addysg Cynorthwyol 1.0 - 3 swydd
(Dros dro o Dachwedd 2026 tan Awst 2027)
Graddfa Soulbury i Seicolegwyr Addysg Cynorthwyol 2-5
Mae Gwasanaeth Mynediad a Chynhwysiant Rhondda Cynon Taf eisiau penodi Seicolegydd Addysg Cynorthwyol llawn amser i weithio ochr yn ochr â Seicolegydd Addysg cymwys i gefnogi dysgu, datblygiad a lles emosiynol plant a phobl ifainc (0-25).
Bydd gyda chi gyfle i weithio ar y cyd ag ystod o weithwyr proffesiynol i ddatblygu strategaethau fydd yn gwella ansawdd bywydau, dysgu a lles plant, pobl ifainc a theuluoedd. Bydd y swydd, o bosibl, yn cynnwys gwaith prosiect, ymchwil sy'n seiliedig ar weithredu, hyfforddiant, yn ogystal â gwaith uniongyrchol gydag ysgolion.
Bydd Gwasanaeth Seicoleg Addysg Rhondda Cynon Taf yn darparu goruchwyliaeth unigol a grŵp reolaidd, yn ogystal ag amrywiaeth o gyfleoedd DPP.
Dyma swydd dros dro hyd at fis Awst 2027. Bydd y swyddi ar gael o fis Tachwedd 2026.
Mae modd cael sgwrs anffurfiol gyda Dr Rob Kempson, Pennaeth y Gwasanaeth Seicoleg Addysg ar (01443) 744333.
Mae diogelu plant ac oedolion agored i niwed yn gyfrifoldeb craidd pob un o'r gweithwyr sy'n cael eu penodi gan y Cyngor.
Yn ogystal â'r cyfrifoldeb yma mewn perthynas â diogelu, bydd y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd hefyd yn ymchwilio'n fanwl i gefndir yr ymgeisydd llwyddiannus.
Mae'r Cyngor yn cydnabod gwerth amrywiaeth yn ei weithlu. Rydyn ni wedi ymrwymo i sicrhau nad yw unrhyw ymgeisydd yn destun gwahaniaethu yn ystod y broses denu a dethol ar sail ei oedran, rhyw, hil, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth rhywedd, gan gynnwys y rheiny a chanddyn nhw hunaniaeth anneuaidd, crefydd neu gred neu feichiogrwydd neu famolaeth. Mae gyda ni nifer o rwydweithiau staff gan gynnwys Rhwydwaith y Cynghreiriaid, Rhwydwaith Anabledd a Chynhalwyr, a 'Perthyn', ein rhwydwaith LHDTC+.
Fydd ceisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Gymraeg ddim yn cael eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Saesneg.
Yn rhan o amcanion hirdymor y Cyngor mewn perthynas â'r Gymraeg a'i Strategaeth Cynllunio'r Gweithlu, mae wedi ymrwymo i gynllun cyfweliad gwarantedig ar gyfer siaradwyr Cymraeg Lefel 3 ac uwch. Os ydych chi'n bodloni'r meini prawf hanfodol sydd wedi'u nodi yn y fanyleb person ar gyfer y swydd ac yn siaradwr Cymraeg Lefel 3 ac uwch, fe'ch gwahoddir i gyfweliad os byddwch chi'n dewis cymryd rhan yn y cynllun.
Oherwydd y nifer sylweddol o Ffurflenni Cais sy'n cael eu cyflwyno ar hyn o bryd, does dim modd cydnabod ceisiadau unigol. Felly, os dydych chi ddim wedi clywed wrthon ni cyn pen pedair wythnos o'r dyddiad cau, cymerwch fod eich cais wedi bod yn aflwyddiannus y tro hwn. Diolch am eich diddordeb ac am gyflwyno cais am swydd gyda'r Cyngor.
Er mwyn cefnogi addewid gwirfoddol y Cyngor i gefnogi'r Lluoedd Arfog, rhaid i'r sawl sy'n penodi sicrhau bod ymgeiswyr sydd wedi datgan eu bod nhw'n aelodau o'r Lluoedd Arfog, gan gynnwys y rheiny sydd wedi gadael y lluoedd, cyn-filwyr neu filwyr wrth gefn sy'n cwrdd â'r meini prawf hanfodol yn y fanyleb person, yn cael cynnig cyfweliad.
Unigolion â Phrofiad o fod mewn Gofal - Cynllun Gwarantu Cyfweliad
Yn rhan o rôl rhianta corfforaethol y Cyngor, mae wedi ymrwymo i gefnogi unigolion â phrofiad o fod mewn gofal. Dyma unigolion sydd wedi treulio amser yn y system ofal ar unrhyw adeg yn ystod eu bywyd. Rydyn ni'n annog ceisiadau gan unigolion â phrofiad o fod mewn gofal i'w galluogi nhw i gael mynediad at gyflogaeth, addysg, profiadau a chyfleoedd gwirfoddoli.
Bydd y Cyngor yn gwarantu cyfweliad ar gyfer unigolion â phrofiad o fod mewn gofal sy'n dymuno cymryd rhan yn y cynllun ac sy'n bodloni meini prawf hanfodol y swydd.