MANYLION.
Ymgeisiwch Nawr (CY)
- Lleoliad: Anglesey,
- Pwnc: Heb ei ddarparu
- Oriau: Llawn amser
- Cytundeb: Cyfnod penodol
- Math o gyflog: Per annum
- Cyflog: 62439.00 - 71339.00 GBP Fesul Blwyddyn
- Iaith: Unrhyw
- Dyddiad Cau: 12 Hydref, 2026 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (EN)
Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.
Cyflog: 62439.00 - 71339.00 GBP Fesul Blwyddyn
Gweithio i Gyngor Sir Ynys MônMae Ynys Môn yn lle braf i fyw ac i weithio. Mae'n ymwneud â gwella bywydau'r bobl sy'n byw ac yn gweithio ar yr ynys. Er mwyn ein cynorthwyo i gyflawni ein blaenoriaethau rydym angen gweithwyr sydd yr un mor uchelgeisiol â ninnau, sy'n cymryd balchder yn eu gwaith, sydd â meddylfryd byd busnes, sy'n barod i weithio mewn partneriaeth ac sydd bob amser yn darparu'r safonau uchaf posibl. Ein nod yw creu Ynys Môn sy'n iach a llewyrchus, lle gall teuluoedd ffynnu.
Mae ein llwyddiant yn dibynnu ar y bobl rydyn ni'n eu cyflogi, ac rydym wedi ymrwymo i werthfawrogi ein tîm. Rydym yn cynnig mwy na chyflog yn unig, felly edrychwch ar rai o'r buddion y gallwn eu cynnig i'n staff: Buddion o weithio i Gyngor Sir Ynys Môn
Pwrpas cyffredinol y swydd
Mae'r Swyddog Cefnogi Ysgolion (Y Gymraeg a Llythrennedd) yn gweithio mewn partneriaeth ag uwch dîm arweinyddiaeth y Gwasanaeth Dysgu i ddarparu arweiniad ar draws y sectorau cynradd ac uwchradd ar Ynys Môn.
Yn atebol yn uniongyrchol i Uwch Reolwr (y CSGA), mae deilydd y swydd yn gweithredu fel Swyddog Addysgeg Llythrennedd a Chefnogi Ysgolion ynghyd â bod yn arbenigwr pwnc y Gymraeg. Pwrpas craidd y rôl yw arwain gwelliant addysgol, codi safonau yn y Gymraeg a llythrennedd trawsgwricwlaidd o fewn Maes Dysgu a Phrofiad Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu.
Bydd disgwyl iddynt hefyd feithrin diwylliant o ysgolion sy'n hunan-wella a chydweithio ar draws pob lleoliad. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gyfrifol am arwain deilliannau penodol o'r Cynllun Strategol y Gymraeg mewn Addysg 2022-2032.
Yn ychwanegol, mae'r rôl yn gyfrifol am sefydlu systemau casglu data, monitro cynnydd, ac adrodd yn ffurfiol ar safonau'r Gymraeg, gan gwmpasu sgiliau darllen, ysgrifennu, a llafar ar draws holl ysgolion yr awdurdod lleol.
Mae hefyd yn gyfrifol am arwain a chefnogi prosesau a gweithdrefnau hunan-wella ysgolion a'r canolfannau iaith yn unol â chyfrifoldebau am y Gymraeg a llythrennedd.
Cydweithio gyda rhanddeiliaid i wireddu a chefnogi cynlluniau datblygu ysgolion unigol yn unol â chyfrifoldebau am y Gymraeg a llythrennedd, gan gynnwys adrodd ar ansawdd addysgu a chyflawniad disgyblion a sicrhau cyfle cyfartal i bawb.
Cefnogi ac arwain yr ysgolion i wireddu'r cynllun trochi a chaffael iaith i ddisgyblion Ynys Môn, a chefnogi addysgeg drochi ar gyfer Dysgu Sylfaen, Cam Cynnydd 1 hyd at Gam 4 ar draws ysgolion cynradd ac uwchradd Môn.
Amlinellir dyletswyddau a chyfrifoldebau proffesiynol athrawon yn y Ddogfen Cyflog ac Amodau Athrawon Ysgol (Cymru).
Mwy o wybodaeth
Penodiad yn ddibynnol ar wiriad GDG (DBS) lefel uwch boddhaol
Gwelwch y swydd disgrifiad am mwy o gwybodaeth a gofynion sgiliau iaith Gymraeg ar gyfer y swydd hon.
Mae croeso i chi gyflwyno cais yn eich dewis iaith. Bydd ceisiadau a gyflwynir yn Gymraeg neu'n Saesneg bob amser yn cael eu trin yn gyfartal.
Atodir isod y disgrifiad swydd/manyleb person.
Rydym yn eich cynghori i arbed y swydd ddisgrifiad a'r fanyleb person i'ch cyfrifiadur neu ar gof bach gan y bydd y dogfennau yn diflannu unwaith y bydd y swydd yn cau.
Manylion cyswllt
Enw: Owen Davies
Rhif ffôn: 07595176103
Cyfeiriad e-bost: OwenDavies@ynysmon.llyw.cymru