MANYLION.
  • Lleoliad: Rhondda Cynon Taf,
  • Pwnc: Heb ei ddarparu
  • Oriau: Llawn amser
  • Cytundeb: Parhaol
  • Math o gyflog: Heb ei Gyflenwi
  • Cyflog: £37,563
  • Iaith: Unrhyw
  • Dyddiad Cau: 15 Hydref, 2026 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Swyddog Cyswllt â Theuluoedd

Rhondda Cynon Taf

Cyflog: £37,563

Proffil swydd
Mae gofynion y swydd wedi'u nodi isod. Mae cymwysterau, sgiliau a phrofiad hanfodol wedi'u rhestru yn y Disgrifiad Swydd/Manyleb y Person. Mae'r rhain i'w gweld yn yr adran atodiadau isod.
Manylion y swydd

Manylion y swydd

Cyfeirnod swydd REQ002658 Dyddiad postio 01/10/2026 Dyddiad cau ceisiadau 15/10/2026 Cyflog £37,563 Oriau gwaith 37 Ar sail Amser Llawn Categori/math o swydd Addysg - Heb fod yn Addysgu Atodiadau Ffeil Swyddog Cyswllt â Theuluoedd.pdf Family Liaison Officer.pdf

Swyddog Cyswllt â Theuluoedd

Disgrifiad Swydd
Dyma gyfle cyffrous i weithiwr proffesiynol profiadol a brwdfrydig ymuno â Gwasanaeth Mynediad a Chynhwysiant Rhondda Cynon Taf gan gynorthwyo â gwaith darparu gwasanaethau statudol o ansawdd uchel i blant a phobl ifainc ag Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY).

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gweithio'n agos â'r Rheolwr Achosion Cymhleth a Phaneli er mwyn cynorthwyo â phrosesau panel arbenigol, gweithrediadau Tribiwnlys Addysg Cymru, datblygu gwasanaethau a monitro cyflawniad, gan sicrhau cydymffurfiaeth â Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a Thribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 a Chod Anghenion Dysgu Ychwanegol Cymru. Mae'r swydd hefyd yn cynnwys gweithio gyda theuluoedd, ysgolion ac asiantaethau partner i ddatrys pryderon, rhoi cyngor ac arweiniad, a chynorthwyo â'r broses llunio penderfyniadau effeithiol.

Rydyn ni'n chwilio am unigolyn sydd â sgiliau cyfathrebu a threfnu rhagorol, profiad o brosesau addysg statudol, ac ymrwymiad cryf i wella canlyniadau i blant a phobl ifainc.

Dyma swydd am gyfnod penodol tan 31 Mawrth 2027 yn yr achos gyntaf, gyda'r potensial i'w hymestyn yn amodol ar ofynion y gwasanaeth a chyllid.

Os ydych chi wedi ymrwymo i sicrhau cynhwysiant a gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i blant, pobl ifainc a'u teuluoedd, bydden ni'n croesawu eich cais.

Mae diogelu plant ac oedolion agored i niwed yn gyfrifoldeb craidd pob un o'r gweithwyr sy'n cael eu penodi gan y Cyngor.

Yn ogystal â'r cyfrifoldeb yma mewn perthynas â diogelu, bydd y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd hefyd yn ymchwilio'n fanwl i gefndir yr ymgeisydd llwyddiannus.

Mae'r Cyngor yn cydnabod gwerth amrywiaeth yn ei weithlu. Rydyn ni wedi ymrwymo i sicrhau nad yw unrhyw ymgeisydd yn destun gwahaniaethu yn ystod y broses denu a dethol ar sail ei oedran, rhyw, hil, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth rhywedd, gan gynnwys y rheiny a chanddyn nhw hunaniaeth anneuaidd, crefydd neu gred neu feichiogrwydd neu famolaeth. Mae gyda ni nifer o rwydweithiau staff gan gynnwys Rhwydwaith y Cynghreiriaid, Rhwydwaith Anabledd a Chynhalwyr, a 'Perthyn', ein rhwydwaith LHDTC+.

Fydd ceisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Gymraeg ddim yn cael eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Saesneg.

Yn rhan o'i amcanion hirdymor mewn perthynas â'r Gymraeg a Strategaeth Cynllunio'r Gweithlu, mae'r Cyngor wedi ymrwymo i gynllun gwarantu cyfweliad ar gyfer siaradwyr Cymraeg Lefel 3 ac uwch. Os ydych chi'n bodloni'r meini prawf hanfodol sydd wedi'u nodi yn y fanyleb person ar gyfer y swydd ac yn siaradwr Cymraeg Lefel 3 ac uwch, bydd gwahoddiad i gyfweliad i chi os byddwch chi'n dewis cymryd rhan yn y cynllun.

Oherwydd y nifer sylweddol o Ffurflenni Cais sy'n cael eu cyflwyno ar hyn o bryd, does dim modd cydnabod ceisiadau unigol. Felly, os dydych chi ddim wedi clywed wrthon ni cyn pen pedair wythnos o'r dyddiad cau, cymerwch fod eich cais wedi bod yn aflwyddiannus y tro yma. Diolch am eich diddordeb ac am gyflwyno cais am swydd gyda'r Cyngor.

Er mwyn cefnogi addewid gwirfoddol y Cyngor i gefnogi'r Lluoedd Arfog, rhaid i'r sawl sy'n penodi sicrhau bod ymgeiswyr sydd wedi datgan eu bod nhw'n aelodau o'r Lluoedd Arfog, gan gynnwys y rheiny sydd wedi gadael y lluoedd, cyn-filwyr neu filwyr wrth gefn sy'n cwrdd â'r meini prawf hanfodol yn y fanyleb person, yn cael cynnig cyfweliad.

Unigolion â Phrofiad o fod mewn Gofal - Cynllun Gwarantu Cyfweliad

Yn rhan o rôl rhianta corfforaethol y Cyngor, mae wedi ymrwymo i gefnogi unigolion â phrofiad o fod mewn gofal. Dyma unigolion sydd wedi treulio amser yn y system ofal ar unrhyw adeg yn ystod eu bywyd. Rydyn ni'n annog ceisiadau gan unigolion â phrofiad o fod mewn gofal i'w galluogi nhw i gael mynediad at gyflogaeth, addysg, profiadau a chyfleoedd gwirfoddoli.

Bydd y Cyngor yn gwarantu cyfweliad ar gyfer unigolion â phrofiad o fod mewn gofal sy'n dymuno cymryd rhan yn y cynllun ac sy'n bodloni meini prawf hanfodol y swydd.