MANYLION.
Ymgeisiwch Nawr (CY)
- Lleoliad: Rhondda Cynon Taf,
- Pwnc: Heb ei ddarparu
- Oriau: Llawn amser
- Cytundeb: Parhaol
- Math o gyflog: Heb ei Gyflenwi
- Cyflog: £44,428 - £54,661 Soulbury 2 - 4+ 3 SPA
- Iaith: Unrhyw
- Dyddiad Cau: 14 Hydref, 2026 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (EN)
Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.
Cyflog: £44,428 - £54,661 Soulbury 2 - 4+ 3 SPA
Proffil swyddMae gofynion y swydd wedi'u nodi isod. Mae cymwysterau, sgiliau a phrofiad hanfodol wedi'u rhestru yn y Disgrifiad Swydd/Manyleb y Person. Mae'r rhain i'w gweld yn yr adran atodiadau isod.
Manylion y swydd
Manylion y swydd
Cyfeirnod swydd REQ002663 Dyddiad postio 30/09/2026 Dyddiad cau ceisiadau 14/10/2026 Cyflog £44,428 - £54,661 Soulbury 2 - 4+ 3 SPA Oriau gwaith 37 Ar sail Amser Llawn Categori/math o swydd Addysg - Heb fod yn Addysgu Atodiadau Ffeil Cydlynydd Cynlluniau Datblygu Unigol.pdf IDP Coord_.docx
Cydlynydd Cynlluniau Datblygu Unigol
Disgrifiad Swydd
Cydlynwyr Dros-dro (2 Swydd)
Mae Gwasanaeth Mynediad a Chynhwysiant Rhondda Cynon Taf yn chwilio am unigolyn uchel ei gymhelliant a phrofiadol i gyfrannu at ddatblygiad strategol y Gwasanaeth ac i gefnogi gweithrediad effeithiol Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a'r Tribiwnlys Addysg (ALNET) Cymru 2018 a Chod Anghenion Dysgu Ychwanegol Cymru (2021).
Mae'r swydd yma'n cael ei chynnig ar sail tymor penodol tan 31 Mawrth 2027 yn y lle cyntaf.
Mae'r swydd yn cyfuno datblygu strategol a darpariaeth weithredol, gan gynnig cyfle cyffrous i ddylanwadu ar bolisi, arferion a deilliannau ar gyfer plant a phobl ifainc ag Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) ledled Rhondda Cynon Taf.
Bydd deiliad y swydd yn rhan o wasanaeth amlddisgyblaethol ac yn gwneud cyfraniad pwysig i ddiwylliant o wneud gwaith cadarnhaol gyda chydweithwyr yn y Gwasanaeth Mynediad a Chynhwysiant. Mae'r rhain yn cynnwys Seicoleg Addysg, Gwasanaeth Cynnal Dysgu, y garfan Plant sy'n Derbyn Gofal a'r Gwasanaeth Gweinyddu Anghenion Dysgu Ychwanegol.
Yn ddelfrydol, bydd gan yr ymgeisydd llwyddiannus brofiad diweddar o gefnogi plant a phobl ifainc ag anghenion dysgu ychwanegol. Bydd angen iddo ddangos hanes profedig o addysgu ardderchog ac ymarfer dysgu, gan gynnwys cefnogi amryw o ddulliau addysgu. Bydd angen gwybodaeth gyfredol am gyflwyno'r Cwricwlwm i Gymru arno, ynghyd â dealltwriaeth o arferion addysgol cynhwysol.
Rhaid i ymgeiswyr fod â dealltwriaeth drylwyr o ofynion y Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a'r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 (ALNET) (Cymru) 2018 a Chod Anghenion Dysgu Ychwanegol Cymru (2021), ynghyd â dealltwriaeth glir o'u cymhwyso'n ymarferol mewn lleoliadau addysgol.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn hyderus wrth gydweithio ag ysgolion, teuluoedd a gweithwyr iechyd proffesiynol, gwasanaethau i blant a phartneriaid eraill i sicrhau bod disgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol yn cael mynediad at ddarpariaeth dysgu ychwanegol o ansawdd uchel.
Mae brwdfrydedd, ymrwymiad ac ysgogiad i gefnogi gweithrediad parhaus y Rhaglen Trawsnewid System Anghenion Dysgu Ychwanegol ledled Rhondda Cynon Taf yn hanfodol.
Cyfrifoldebau Allweddol:
Chwarae rhan strategol allweddol wrth ddatblygu polisïau, prosesau ac arferion cynhwysol i gefnogi gweithredu Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a'r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018.
Cefnogi datblygiad a chyflwyniad continwwm parhaus o ddarpariaeth ddysgu ychwanegol ar gyfer plant a phobl ifainc ag Anawsterau Dysgu ychwanegol.
Darparu cyngor, cefnogaeth ac arweiniad i ysgolion ynghylch materion cymhleth o ran darpariaeth ddysgu ychwanegol.
Cyfrannu at effeithiolrwydd y Gwasanaeth Mynediad a Chynhwysiant a'r Awdurdod Lleol wrth weithredu cynlluniau a pholisïau strategol sy'n ceisio sicrhau deilliannau cadarnhaol ar gyfer disgyblion ag Anghenion Dysgu Ychwanegol.
Cyfrannu'n sylweddol at brif nod yr Awdurdod Lleol o sicrhau bod ein holl ddisgyblion yn cyflawni eu potensial yn llawn.
Am ragor o wybodaeth neu sgwrs anffurfiol mewn perthynas â'r swydd, cysylltwch â:
Suzanne Davidson
Swyddog Arweiniol Darpariaeth Ddysgu Ychwanegol ac Anghenion Dysgu Ychwanegol y Blynyddoedd Cynnar
E-bost: Suzanne.Davidson@rctcbc.gov.uk
Mae diogelu plant ac oedolion agored i niwed yn gyfrifoldeb craidd i bob un o'r gweithwyr sy'n cael eu penodi gan y Cyngor.
Yn ogystal â'r cyfrifoldeb yma mewn perthynas â diogelu, bydd y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd hefyd yn ymchwilio'n fanwl i gefndir yr ymgeisydd llwyddiannus.
Mae'r Cyngor yn cydnabod gwerth amrywiaeth yn y gweithlu. Rydyn ni wedi ymrwymo i sicrhau nad yw unrhyw ymgeisydd yn destun gwahaniaethu yn ystod y broses denu a dethol ar sail ei oedran, rhyw, hil, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth rhywedd, gan gynnwys y rheiny a chanddyn nhw hunaniaeth anneuaidd, crefydd neu gred neu feichiogrwydd neu famolaeth. Mae gyda ni nifer o rwydweithiau staff gan gynnwys Rhwydwaith y Cynghreiriaid, Rhwydwaith Anabledd a Chynhalwyr, a 'Perthyn', ein rhwydwaith LHDTC+.
Fydd ceisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Gymraeg ddim yn cael eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Saesneg.
Yn rhan o'i amcanion hirdymor mewn perthynas â'r Gymraeg a Strategaeth Cynllunio'r Gweithlu, mae'r Cyngor wedi ymrwymo i gynllun gwarantu cyfweliad ar gyfer siaradwyr Cymraeg Lefel 3 ac uwch. Os ydych chi'n bodloni'r meini prawf hanfodol sydd wedi'u nodi yn y fanyleb person ar gyfer y swydd ac yn siaradwr Cymraeg Lefel 3 ac uwch, bydd gwahoddiad i gyfweliad i chi os byddwch chi'n dewis cymryd rhan yn y cynllun.
Oherwydd y nifer sylweddol o Ffurflenni Cais sy'n cael eu cyflwyno ar hyn o bryd, does dim modd cydnabod ceisiadau unigol. Felly, os dydych chi ddim wedi clywed wrthon ni cyn pen pedair wythnos o'r dyddiad cau, cymerwch fod eich cais wedi bod yn aflwyddiannus y tro yma. Diolch am eich diddordeb ac am gyflwyno cais am swydd gyda'r Cyngor.
Er mwyn cefnogi addewid gwirfoddol y Cyngor i gefnogi'r Lluoedd Arfog, rhaid i'r sawl sy'n penodi sicrhau bod ymgeiswyr sydd wedi datgan eu bod nhw'n aelodau o'r Lluoedd Arfog, gan gynnwys y rheiny sydd wedi gadael y lluoedd, cyn-filwyr neu filwyr wrth gefn sy'n diwallu'r meini prawf hanfodol yn y fanyleb person, yn cael cynnig cyfweliad.
Unigolion â Phrofiad o fod mewn Gofal - Cynllun Gwarantu Cyfweliad
Yn rhan o rôl rhianta corfforaethol y Cyngor, mae wedi ymrwymo i gefnogi unigolion â phrofiad o fod mewn gofal. Dyma unigolion sydd wedi treulio amser yn y system ofal ar unrhyw adeg yn ystod eu bywyd. Rydyn ni'n annog ceisiadau gan unigolion â phrofiad o fod mewn gofal i'w galluogi nhw i gael mynediad at gyflogaeth, addysg, profiadau a chyfleoedd gwirfoddoli.
Bydd y Cyngor yn gwarantu cyfweliad ar gyfer unigolion â phrofiad o fod mewn gofal sy'n dymuno cymryd rhan yn y cynllun ac sy'n bodloni meini prawf hanfodol y swydd.