MANYLION.
  • Lleoliad: Schools,
  • Pwnc: Heb ei ddarparu
  • Oriau: Heb ei ddarparu
  • Cytundeb: gweithio hyblyg
  • Math o gyflog: Fesul awr
  • Cyflog: NJC G01 pwynt 3 £14.88 yr awr
  • Iaith: Unrhyw
  • Dyddiad Cau: 13 Hydref, 2026 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Goruchwyliwr\/wraig Amser Cinio Achlysurol - Ysgol Talhaiarn

Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy

Cyflog: NJC G01 pwynt 3 £14.88 yr awr

GWASANAETHAU ADDYSG

YSGOL GYNRADD TALHAIARN

Stryd yr Eglwys, Llanfairtalhaiarn, Abergele, Conwy, LL22 8SD

Ffôn: (01745) 720242

Pennaeth: Mrs Llinos Mevel

Yn eisiau mor fuan â phosib

Goruchwyliwr/wraig Amser Cinio Achlysurol

Cyflog: Graddfa G01 pwynt 3 £14.88 yr awr

Mae Llywodraethwyr Ysgol Talhaiarn yn dymuno penodi Goruchwyliwr/wraig Amser Cinio ar sail llanw. Mae'r gallu i gyfathrebu trwy gyfrwng y Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon gan fod Ysgol Talhaiarn yn ysgol wledig gyda chysylltiadau cymunedol cryf.

Oherwydd natur y swydd byddwn yn gofyn am ddatgeliad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd ar gyfer yr ymgeisydd llwyddiannus.

Am ragor o fanylion ynglŷn â'r swydd cysylltwch â'r Pennaeth ar 01745-720242

Noder nid yw'r awdurdod yn cyhoeddi ffurflenni cais ac nid yw'n derbyn CV.

Mae Conwy wedi ymrwymo i ddiogelu - bydd cymwysterau a geirdaon yn cael eu gwirio. Os nad ydych wedi derbyn ymateb o fewn 3 wythnos i'r dyddiad cau, rhaid i'r ymgeiswyr tybio nad ydynt wedi cael eu cynnwys yn y rhestr fer ac felly ni fyddent yn cael eu hysbysu mewn ysgrifen. Wrth fynd ati i hyrwyddo cyfle cyfartal, mae Conwy yn croesawu ymgeiswyr o bob rhan o'r gymuned. Bydd pob ymgeisydd anabl sy'n diwallu gofynion hanfodol swydd yn cael cyfweliad.