MANYLION.
  • Lleoliad: Schools,
  • Pwnc: Heb ei ddarparu
  • Oriau: Heb ei ddarparu
  • Cytundeb: Dros dro
  • Math o gyflog: Per annum
  • Cyflog: Graddfa G04, NJC pwynt 8 - 11 £18,722 - £19,642 y flwyddyn
  • Iaith: Unrhyw
  • Dyddiad Cau: 13 Hydref, 2026 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Rheolwr Safle - Ysgol Y Gogarth

Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy

Cyflog: Graddfa G04, NJC pwynt 8 - 11 £18,722 - £19,642 y flwyddyn

GWASNAETHAU ADDYSG

YSGOL Y GOGARTH

Ysgol Ddydd/Breswyl Arbennig i ddisgyblion ag Anghenion Addysgol Arbennig

(275 ar y gofrestr, ystod oedran 3 i 19)

Ffordd Nant y Gamar, Llandudno, LL30 1YE

Ffôn: 0300 456 9521

Pennaeth : Mrs Lisa Kovacs

Yn eisiau mor fuan â phosib

RHEOLWR SAFLE

Oriau: 25 awr yr wythnos (Amser gwaith = 12:00 - 17:00) 52 wythnos

Cyflog: Graddfa G04, NJC pwynt 8 - 11 £18,722 - £19,642 y flwyddyn

Gwahoddir ceisiadau am y swydd uchod. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gweithio gyda'r Pennaeth â'r Llywodraethwyr i sicrhau rheolaeth effeithiol a diogel o safle'r ysgol ynghyd â'i adnoddau yn ogystal â rheoli y staff glanhau. Byddai'r gallu i gyfathrebu drwy gyfrwng y Gymraeg yn ddymunol.

Oherwydd natur y swydd byddwn yn gofyn am Ddatgeliad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd ar gyfer yr ymgeisydd llwyddiannus.

Noder nid yw'r awdurdod yn cyhoeddi ffurflenni cais ac nid yw'n derbyn CV.

Mae Conwy wedi ymrwymo i ddiogelu - bydd cymwysterau a geirdaon yn cael eu gwirio. Os nad ydych wedi derbyn ymateb o fewn 3 wythnos i'r dyddiad cau, rhaid i'r ymgeiswyr dybio nad ydynt wedi cael eu cynnwys yn y rhestr fer ac felly ni fyddent yn cael eu hysbysu'n ysgrifenedig. Wrth fynd ati i hyrwyddo cyfle cyfartal, mae Conwy yn croesawu ymgeiswyr o bob rhan o'r gymuned. Bydd pob ymgeisydd anabl sy'n diwallu gofynion hanfodol y swydd yn cael cyfweliad.