MANYLION.
  • Lleoliad: Ysgol Uwchradd Tywyn,
  • Pwnc: Heb ei ddarparu
  • Oriau: Heb ei ddarparu
  • Cytundeb : Parhaol
  • Dyddiad Dechrau: Heb ei ddarparu
  • Dyddiad Gorffen: Heb ei ddarparu
  • Math o gyflog : Per annum
  • Cyflog : £33,731 - £51,942 y flwyddyn
  • Iaith: Unrhyw
  • Dyddiad Cau: 03 Tachwedd, 2026 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Athro/Athrawes Mathemateg - Ysgol Uwchradd Tywyn

Cyngor Gwynedd

Cyflog: £33,731 - £51,942 y flwyddyn

Manylion
Hysbyseb Swydd

ADDYSG

YSGOLION UWCHRADD

YSGOL UWCHRADD TYWYN

(Cyfun 11 - 16: 380 o ddisgyblion)

Yn eisiau: 1 af o Fedi 2027.

ATHRO / ATHRAWES MATHEMATEG

Gwahoddir ceisiadau oddi wrth unigolion brwdfrydig i weithio gyda thîm ymroddgar ac egnïol ac yn meddu ar y cymwysterau priodol a'r sgiliau addas. Disgwylir i'r ymgeisydd llwyddiannus addysgu yr holl ystod gallu ac oedran.

Oriau gwaith: 32.5 awr yr wythnos.

Telir cyflog yn unol â Graddfa Gyflog Athrawon (£33,731 - £51,942) y flwyddyn i'r ymgeisydd addas yn ôl profiad a chymhwyster.

Mae'r gallu i addysgu trwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg yn ddymunol ar gyfer y swydd yma.

Rydym yn annog pob ymgeisydd am swydd gyda'r Cyngor i gyflwyno ceisiadau yn Gymraeg neu yn ddwyieithog. (Bydd ceisiadau sydd yn cael eu cyflwyno yn uniaith Gymraeg neu Saesneg yn cael eu trin yn gwbl gyfartal, ond gofynnir i'r ymgeisydd ystyried yn ofalus beth yw gofynion iaith y swydd a'r sefydliad ac a fyddai cyflwyno cais yn uniaith Gymraeg yn fwy addas).

Gwahoddir unrhyw un sydd â diddordeb a/neu angen mwy o wybodaeth i drafod yn anffurfiol â'r Pennaeth, Mr David Thorp ar 01654 710256, neu drwy e-bost i pennaeth@tywyn.ysgoliongwynedd.cymru

Gellir cyflwyno cais am y swydd yma ar-lein ar wefan Cyngor Gwynedd neu mae pecyn cais i'w cael gan Lynsey Williams, Swyddog Gweinyddol, Ysgol Uwchradd Tywyn, Ffordd yr Orsaf, Tywyn, Gwynedd, LL36 9EU (Rhif Ffôn: 01654 710256). Os dymunir dychwelyd y cais drwy'r post, dylid ei ddychwelyd i'r cyfeiriad uchod erbyn y dyddiad cau.

DYDDIAD CAU: 10:00 Y.B., DDYDD MAWRTH, 3 TACHWEDD, 2026

Bydd y Cyngor yn gofyn am gopi o'r dadleniad gan Wasanaeth Datgelu a Gwahardd a chadarnhad o gofrestriad gyda'r Cyngor Gweithlu Addysg gan yr ymgeisydd llwyddiannus cyn y gallent gychwyn yn yr Ysgol.

Mae'r awdurdod hwn wedi ymrwymo i ddiogelu a hyrwyddo lles plant a phobl ifanc ac mae'n disgwyl y bydd pob un o'i staff a'i wirfoddolwr yn rhannu'r ymrwymiad hwn.

Manylion Person

GOFYNION ANGENRHEIDIOL AR GYFER Y SWYDD

CYMWYSTERAU /HYFFORDDIANT GALWEDIGAETHOL/CYMWYSEDDAU
  • Gradd Anrhydedd
  • Statws athro wedi cymhwyso

GWYBODAETH A SGILIAU
  • Meddu ar wybodaeth dda o ddatblygiadau cyfoes mewn addysg yn lleol ac yn genedlaethol
  • Meddu ar ddealltwriaeth eglur o egwyddorion dysgu o ansawdd, addysgu ac asesu yn y sectorau cynradd ac uwchradd
  • Meddu ar ddealltwriaeth gadarn o brosesau hunan-arfarnu a dealltwriaeth gyflawn o bwrpas cynllun busnes yr ysgol
  • Meddu ar wybodaeth gadarn o strategaethau gweithredu sy'n sicrhau safonau uchel o ymddygiad a phresenoldeb
  • Gallu paratoi strategaethau ar gyfer sicrhau cynhwysiad cymdeithasol, amrywiaeth a mynediad.
  • Meddu ar wybodaeth dda o rôl y corf llywodraethol ac yn gallu gweithredu strategaethau gwelliant parhaus ac atebolrwydd
  • Deall gofynion cynllunio ariannol strategol, rheolaeth gyllidebol ac egwyddorion gwerth gorau.
  • Meddu ar wybodaeth dda o'r cwricwlwm ehangach tu hwnt i'r ysgol a'r cyfleoedd ar gyfer disgyblion a chymuned yr ysgol
  • Dangos brwdfrydedd personol at y defnydd o'r Iaith Gymraeg/Cwricwlwm Cymreig yn yr ysgol

PROFIAD
  • Tystiolaeth o brofiad cyson a perthnasol o arweinyddiaeth a rheolaeth
  • Profiad o ddatblygu strategaethau addysgu a dysgu effeithiol
  • Profiad o sefydlu ac adeiladu partneriaethau gyda rhieni, y gymuned a gyda phartneriaid eraill
  • Tystiolaeth o weithio'n effeithiol gyda llywodraethwyr

NODWEDDION A GWERTHOEDD PERSONOL
  • Dangos brwdfrydedd ac ymroddiad tuag at y broses ddysgu
  • Hawdd mynd ato/ati a gallu ysbrydoli, ysgogi a gosod her i eraill
  • Gallu arddangos yn glir i ba gyfeiriad mae'r ysgol yn mynd
  • Parod i gydweithio ag asiantaethau eraill er lles disgyblion, teuluoedd a'r gymuned
  • Yn rhugl o ran safon sgiliau ar lafar ac ysgrifenedig yn y Gymraeg a'r Saesneg

ANGHENION Y BUASAI'N DDYMUNOL EU CAEL YN Y SWYDD
  • Gradd Uwch neu gymhwyster cyfwerth
  • Tystiolaeth o ddatblygiad proffesiynol parhaus.

ATODIAD I SWYDD DDISGRIFIAD: ATHRO / ATHRAWES MATHEMATEG

Safonau Proffesiynol ar gyfer addysgu ac arweinyddiaeth - wedi eu haddasu gan yr ysgol

Gwerthoedd ac Ymagweddau Cyffredin

  • Iaith a Diwylliant Cymru

Mae'r athro yn pwysleisio'n gyson ei bod yn hollbwysig hyrwyddo iaith a diwylliant Cymru. Caiff dysgwyr eu helpu i feithrin sgiliau ym mhob maes dysgu ac achubir ar bob cy e i ymestyn sgiliau a chymhwysedd dysgwyr.
  • Hawliau Dysgwyr

Bydd anghenion a hawliau dysgwyr yn ganolog ac yn cael blaenoriaeth yn ymagwedd yr athro at ei swydd. Mae gan yr athro ddisgwyliadau uchel ac ymrwymiad i sicrhau bod pob dysgwr yn cyflawni.
  • Llythrennedd, Rhifedd a Chymhwysedd Digidol

Mae'r athro yn pwysleisio'n gyson bod llythrennedd, rhifedd a chymhwysedd digidol yn hollbwysig. Caiff dysgwyr eu helpu i feithrin sgiliau ymmhob maes dysgu ac achubir ar bob cy e i ymestyn sgiliaua chymhwysedd dysgwyr.
  • Dysgwyr Proffesiynol

Mae'r athro yn ddysgwr proffesiynol ac yn ymrwymo i ddatblygu, cydweithredu ac arloesi'n barhaus drwy gydol ei yrfa.
  • Rôl yn y System

Mae'r athro yn ymrwymedig i ddysgwyr ym mhob man ac mae'n chwarae rhan ddylanwadol wrth ddatblygu diwylliant addysg cydlynol yng Nghymru.
  • Hawl Broffesiynol

Mae gan yr athro hawl broffesiynol ifod yn rhan o ysgol sy'n ystyried ei hun yn sefydliad dysgu. Mae gan yr athro yr ymreolaeth i gyfrannu at y proffesiwn yn lleol, yn genedlaethol ac yn fyd-eang ac mae ganddo'r hawl i ddechrau a chefnogi gwelliannau i'r ysgol er budd dysgwyr.

Y Pum Safon Proffesiynol ar gyfer addsygu ac arweinyddiaeth
  • Addysgeg...mae'n holl bwysig
  • Arweinyddiaeth...helpu i dyfu
  • Dysgu Proffesiynol...mynd yn ddyfnach
  • Arloesi...symud ymlaen
  • Cydweithredu...galluogi lledaenu

Safon

Elfennau

ADDYSGEG

Mireinio Addysgu

Rheoli'r amgylchedd dysgu

Asesu

Gwahaniaethu

Cofnodi ac Adrodd

Cynnwys Partneriaid mewn dysgu

Hyrwyddo Dysgu

Pedwar diben i ddysgwyr

Ymelwa ar ddisgyblaethau pynciol mewn meysydd dysgu

Profiadau dysgu cyfunol

Cyd-destunau bywyd go iawn dilys

Dilyniant mewn dysgu

Themau trawsgwricwlaidd

Dylanwadu ar Ddysgwyr

Herio a disgwyliadau

Gwrando ar ddysgwyr

Dysgwyr yn arwain dysgu

Ymdrech barhaus a gwydnwch dysgwyr

Myfyrio ar ddysgu

Deilliannau dysgu a lles

CYDWEITHREDU

Ceisio cyngor a chymorth

Gweithio gyda chydweithwyr yn yr ysgol

Cefnogi a datblygu eraill

Galluogi gwelliannau

DYSGU PROFFESIYNOL

Darllen ehangach a chanfyddiadau ymchwil

Rhwydweithiau a chymunedau proffesiynol

Dysgu proffesiynol parhaus

Sgiliau Cymraeg

ARLOESI

Cynnig arbenigedd

Datblygu technegau newydd

Gwerthuso effaith newid mewn ymarfer

ARWEINYDDIAETH

Cymryd cyfrifoldeb personol

Arfer cyfrifoldeb corfforaethol

Arwain cyd-weithwyr, prosiectau a rhaglenni

Cefnogi rolau arweinyddiol ffurfiol

Swydd Ddisgrifiad

Amcan/Pwrpas:
  • I weithredu a chyflwyno cwricwlwm eang, cytbwys perthnasol a gwahaniaethol fydd yn addas i'r ddisgyblion, a chefnogi cwricwlwm penodedig fel bo'n addas.
  • I fonitro a chefnogi cynnydd a datblygiad cyflawn y ddisgyblion fel athro/athrawes ddosbarth.
  • I hwyluso ac hybu y profiad o ddysgu fydd yn rhoi i'r ddisgyblion y cyfle i gyrraedd eu potensial fel unigolion.
  • I gyfrannu tuag at godi safonau cyrhaeddiad y ddisgyblion.
  • Rhannu a chefnogi cyfrifoldeb yr ysgol i gyflwyno ac i fonitro cyfleon i ddisgyblion lwyddo'n bersonol ac yn academaidd.

PRIF DDYLETSWYDDAU/DYLETSWYDDAU CRAIDD

Cynllunio Gweithredol a strategol:
  • Cynorthwyo i ddatblygu meysydd llafur addas, adnoddau, cynlluniau gwaith, polisïau marcio a dysgu strategaethau yn y Cwricwlwm ac yn yr Adran.
  • Cyfrannu tuag at y Cwricwlwm a chynllun datblygu yr Adran a'i weithredu.
  • Cynllunio a pharatoi cyrsiau a gwersi.
  • Cyfrannu tuag at gynllunio gweithgareddau yr ysgol gyfan.

Darpariaethy Cwricwlwm:
  • I gynorthwyo y Pennaeth MDaPh, i sicrhau fod y Cwricwlwm yn cynnig ystod eang o ddysgu fydd yn cyd-fynd ac amcanion yr ysgol.

Datblygu y Cwricwlwm:
  • I gynorthwyo yn y broses o ddatblygu a newid y Cwricwlwm fel ag i sicrhau ei fod yn addas ar gyfer anghenion y disgyblion, cyrff archwilio o dyfarnu a Chynllun Gwella yr ysgol.

Staffio

Datblygiad Staff: Recriwtio/Datblygiad Staff
  • Cymryd rhan yn rhaglen datblygu staff yr ysgol, drwy rannu yn y trefniadau ar gyfer hyfforddi pellach a datblygiad proffesiynol.
  • Parhau i ddatblygu'n bersonol mewn ardaloedd addas gan gynnwys gwybodaeth o bwnc a dulliau dysgu.
  • Cymryd rhan weithredol yn y broses o Adolygu Rheoli Perfformiad.
  • Sicrhau y defnydd effeithiol ac effeithlon o gefnogaeth yn y dosbarth.
  • Gweithio fel aelod o dîm penodedig, ac i gyfrannu yn bositif i berthynas effeithiol a gweithgar oddi fewn i'r ysgol.

Sicrhau Ansawdd:
  • Helpu i weithredu dulliau ansawdd yr ysgol a chadw atynt.
  • Cyfrannu tuag at y broses o fonitro a gwerthuso datblygiad y cwricwlwm/yr adran, i gyd-fynd â dulliau cytøn yr ysgol, yn cynnwys gwerthuso yn ôl safonau ansawdd a pherfformiad.
  • I geisio/cario allan newidiadau a gwelliannau fel bo'r angen. I arolygu o dro i dro, y dulliau dysgu a rhaglenni gwaith.
  • I gymryd rhan, fel bo'r angen, yn yr arolygu, datblygiad a rheolaeth y gweithgareddau sydd yn gysylltiedig â'r cwricwlwm, trefniant a gweithgarwch bugeiliol yr ysgol.

Gwybodaeth Rheoli:
  • I gadw cofnodion addas a chynnig gwybodaeth gywir, manwl, a chyfoes i'r MIS, cofrestrau, ayyb.
  • I gwblhau y dogfennau perthnasol i gynorthwyo yn y dasg o fonitro y disgyblion.
  • I fonitro cynnydd y disgyblion a defnyddio yr wybodaeth i roi gwybod am y dysgu a'r addysgu.

Cyfathrebu:
  • I gyfathrebu yn effeithiol gyda rhieni y myfyrwyr fel bo'n addas.
  • Fel bo'n addas, i gyfathrebu a chydweithio gyda phobl neu sefydliadau y tu allan i'r ysgol.
  • I ddilyn y polisïau cytunedig ynglŷn â chyfathrebu oddi fewn i'r ysgol.

Marchnata a Chysylltiadau:
  • Cymryd rhan mewn gweithgareddau marchnata a chysylltiadau fel Nosweithiau Agored Rhieni, dyddiau Arolygu a digwyddiadau i gysylltu gydag ysgolion mewn partneriaeth.
  • I gyfrannu tuag at ddatblygu cysylltiadau pynciol effeithiol gydag asiantaethau allanol.

Rheoli Adnoddau:
  • I gyfrannu tuag at y broses o archebu a dosbarthu cyfarpar ac adnoddau.
  • I gynorthwyo y Pennaeth MDaPh i benderfynu ar anghenion adnoddau a chyfrannu tuag at y defnydd effeithiol/effeithlon o adnoddau materol.
  • I gydweithio gyda'r staff i sicrhau defnydd effeithiol a'r rhaniad teg o'r adnoddau, er lles yr ysgol, adran a'r disgyblion.
  • I werthuso a monitro cynnydd y myfyrwyr a chadw y cofnodion diweddaraf fel bo'r angen.
  • I gyfrannu tuag at baratoi ffeiliau cynnydd, ac adroddiadau eraill.
  • I sicrhau fod y staff addas yn effro i'r problemau sydd gan y disgyblion, ac i argymell ffyrdd o ddatrys y rhain.
  • I gyfathrebu, fel bo'n addas, gyda rhieni y disgyblion a chyda phobl a chyrff tu allan i'r ysgol sydd â wnelo â lles y disgyblion unigol, wedi cysylltu gyda'r athrawon pwrpasol. I gyfrannu i ABaCh, Dinasyddiaeth a Menter yn ôl polisi yr ysgol.
  • I weithredu sustemau rheoli ymddygiad, fel bo dysgu effeithiol yn cymryd lle.

Dysgu:
  • I ddysgu disgyblion yn ôl eu hangen addysgol, gan gynnwys gosod a marcio gwaith wneir gan y disgyblion yn yr ysgol a thu allan.
  • I asesu, cofnodi ac adrodd ar bresenoldeb, cynnydd, datblygiad a chyrhaeddiad disgyblion, a chadw cofnodion fel bo'r angen.
  • I gynnig, neu gyfrannu, tuag at asesu ar lafar, neu yn ysgrifenedig, roi adroddiadau a chyfeirnodau sydd yn berthnasol i'r disgyblion yn unigol ac fel grwp.
  • I sicrhau bod TGC, Llythrennedd a Rhifedd ac arbenigedd pwnc, yn cael ei adlewyrchu yn y profiad o ddysgu/addysgu y disgyblion.
  • I gario allan rhaglen dysgu penodedig. I sicrhau profiad dysgu o ansawdd uchel i'r myfyrwyr - fydd yn cwrdd â safonau ansawdd mewnol ac allanol.
  • I baratoi a diweddaru adnoddau pwnc.
  • I ddefnyddio gwahanol ddulliau o gyflwyno gwersi, fydd yn hybu y dysgu sydd yn addas i anghenion y disgyblion a gofynion y maes llafur.
  • I gadw a chynnal disgyblaeth yn ôl dulliau yr ysgol, a hybu ymarfer da lle bo prydlondeb, ymddygiad, safonau gwaith a gwaith cartref yn y cwestiwn.
  • I gario allan asesu y disgyblion yn ôl gofynion cyrff arholi allanol, amodau yr adran a'r ysgol.
  • I farcio, graddio a rhoi adborth diagnostig yn ysgrifenedig ac yn llafar fel bo'r angen.

Dyletswyddau Penodol Ychwanegol:
  • I gymryd rhan gyflawn ym mywyd cymunedol yr ysgol, i gefnogi ei bwriadau pendant ac ethos yr ysgol, ac i annog y staff a'r disgyblion i ddilyn yr esiampl yma.
  • I gefnogi yr ysgol i gwrdd â gofynion y deddf ynglŷn ag addoli ar y cyd.
  • I hybu yn ymarferol, bolisïau yr ysgol fel corff.
  • I barhau gyda datblygiad personol yn ôl y cytundeb.
  • I gyd-fynd â pholisi yr ysgol ynglŷn ag Iechyd a Diogelwch a chydymffurfio ag Asesu Risg, fel bo'r angen.
  • I ymgymryd ag unrhyw ddyletswydd arall, yn ôl gofynion y Tîm Rheoli - nad sydd ar y rhestr uchod.
  • I hyrwyddo dwyieithrwydd fel modd o ddatblygiad personol a phroffesiynol.

Tra gwneir pob ymdrech i egluro prif ddyletswyddau a chyfrifoldebau'r swydd, nid yw'n bosibl i fanylu ynglŷn â phob tasg wneir.

Disgwylir i'r cyflogedig i gyd-fynd ag unrhyw gais rhesymol gan reolwr i wneud gwaith tebyg, ond heb ei olrheinio yn y disgrifiad yma.

Disgwylir i'r cyflogedig i fod yn gwrtais tuag at ei gydweithwyr, a chynnig amgylchfyd groesawgar i ymwelwyr â'r rhai sydd yn ffonio.

Bydd yr ysgol yn ceisio gwneud unrhyw newidiadau angenrheidiol i'r swydd a'r amgylchfyd gwaith, i greu cyfleon gwaith i'r anabl fydd yn cynnig am swydd neu i sicrhau parhad y gwaith i unrhyw un fydd yn cael ei hun yn y sefyllfa yma.

  • Ceisio ar lein - Sut?
  • Rhestr Swyddi