MANYLION.
  • Lleoliad: Heb ei ddarparu
  • Pwnc: Heb ei ddarparu
  • Oriau: Llawn amser
  • Cytundeb: Heb ei ddarparu
  • Math o gyflog: Heb ei Gyflenwi
  • Cyflog: Main Pay Scale \/ Upper Pay Scale (depending on experience)
  • Iaith: Unrhyw
  • Dyddiad Cau: 11 Hydref, 2026 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Athro Gwaith Coed, Coginio a Gwneud - Ysgolion Cynradd y Ffederasiwn

Torfaen Local Authority

Cyflog: Main Pay Scale \/ Upper Pay Scale (depending on experience)

Rôl newydd sbon. Ffederasiwn ffyniannus. Cyfle i lunio'r dyfodol trwy ein gweledigaeth: tyfu dysgwyr ffyniannus, llwyddiannus, arwain ein pobl i ragoriaeth a newid ein cymuned a'n gwlad er gwell.

Rydym yn chwilio am Athro eithriadol mewn Gwaith Coed, Coginio a Gwneud i ysbrydoli chwilfrydedd, creadigrwydd a phosibilrwydd ar draws ein ffederasiwn ysgolion cynradd. Mae'r rôl arloesol hon yn canolbwyntio ar ddod â dysgu yn fyw trwy fwyd, peirianneg, dylunio, gwaith coed, gwneud, creadigrwydd a datrys problemau yn y byd go iawn.

P'un a ydych chi'n athro profiadol sy'n chwilio am her newydd neu'n arbenigwr uwchradd ar ddechrau gyrfa gydag angerdd am ddysgu ymarferol, mae'r rôl hon yn cynnig cyfle unigryw i bontio'r bwlch rhwng sut y mae addysg yn edrych heddiw a'r hyn y bydd ei angen ar ein plant ar gyfer yfory.

Rydym yn credu fod plant yn ffynnu o gael cyfleoedd i greu, archwilio, adeiladu, dylunio, arbrofi a rhyfeddu. Wedi'i ysbrydoli gan egwyddorion Froebelaidd blynyddoedd cynnar ac wedi ein gyrru trwy ein cwricwlwm sy'n seiliedig ar brosiectau STEAM ysgol gyfan, rydym yn rhoi gwerth aruthrol ar ddysgu trwy brofiadau ystyrlon sy'n sbarduno dychymyg, hyder a chariad gydol oes at ddysgu.

Os ydych chi'n credu y dylai addysg danio chwilfrydedd, dathlu creadigrwydd ac arfogi plant â'r sgiliau i lunio'r dyfodol, byddem wrth ein bodd yn clywed gennych. Gwyliwch ein dysgu diweddar wedi'i ysbrydoli gan Froebel yma: Froebel Trust | Froebelian Practice Across Primary School

Dyma ble rydyn ni nawr. Mae ein plant yn ffynnu trwy gwricwlwm cyfoethog ac uchelgeisiol. Dychmygwch ble gallai eich arbenigedd, eich angerdd a'ch gweledigaeth fynd â nhw nesaf.

Contract Cyfnod Penodol: 1 Ionawr 2027 tan 31 Awst 2027 i ddechrau

Ffederasiwn Ysgol Gynradd Gymunedol Blenheim Road ac Ysgol Gynradd Coed Efa

Yn ofynnol o: 1 Ionawr 2027
Contract: Cyfnod Penodol tan 31 Awst 2027 yn y lle cyntaf
Cyflog: Prif Raddfa Gyflog / Graddfa Gyflog Uchaf (yn dibynnu ar brofiad)

Y Rôl

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn:
  • Gweithio ar draws y ddwy ysgol gynradd i gyflwyno addysg ysbrydoledig, o ansawdd uchel yn rhai o'r meysydd canlynol: bwyd, peirianneg, dylunio, gwaith coed, gwneud, creadigrwydd a datrys problemau yn y byd go iawn.
  • Datblygu profiadau dysgu diddorol sy'n hyrwyddo creadigrwydd, datrys problemau, gwytnwch a sgiliau ymarferol.
  • Gweithio mewn ffordd gydweithredol gydag athrawon dosbarth i wella darpariaeth cwricwlwm a chefnogi gwelliant ysgol gyfan.
  • Arwain a hwyluso dysgu proffesiynol i gydweithwyr, rhannu arbenigedd a modelu arfer effeithiol.
  • Datblygu a chyflenwi cyfleoedd dysgu teuluol, gweithdai a phrosiectau yn y gymuned.
  • Cryfhau partneriaethau gyda rhieni, gofalwyr a'r gymuned ehangach trwy weithgareddau ymgysylltiad arloesol.
  • Cyfrannu at ymrwymiad y ffederasiwn at gynhwysiant, lles ac uchelgeisiau i bob dysgwr.

Rydym yn Chwilio am Rywun Sydd:
  • Yn ymarferydd rhagorol.
  • Yn meddu ar wybodaeth arbenigol, sgiliau a brwdfrydedd ar gyfer bwyd, peirianneg, dyluniad, gwaith coed, gwneud, creadigrwydd a datrys problemau yn y byd go iawn.
  • Ag angerdd ar gyfer dysgu ymarferol ar sail profiad.
  • Yn ymrwymedig at godi cyflawniad ac ysbrydoli plant o bob cefndir.
  • Yn meddu ar sgiliau rhyngbersonol cryf ac sy'n gallu gweithio'n effeithiol gyda disgyblion, staff, teuluoedd a phartneriaid cymunedol.
  • Yn hyderus wrth arwain dysgu proffesiynol a chefnogi datblygiad cydweithwyr.
  • Yn dod ag egni, creadigrwydd ac arloesedd i'w gwaith.

Rydym yn Cynnig:
  • Plant cyfeillgar, brwdfrydig sy'n mwynhau dysgu.
  • Ffederasiwn cefnogol a chydweithredol gydag ethos tîm cryf.
  • Cyfleoedd i arloesi a ffurfio cynnig cwricwlwm unigryw.
  • Ymrwymiad i ddysgu proffesiynol a datblygiad gyrfa.
  • Partneriaethau cryf gyda theuluoedd a'r gymuned ehangach.
  • Cyfle cyffrous i wneud gwahaniaeth parhaol i fywydau plant.

Diogelu

Mae'r Ffederasiwn wedi ymrwymo i ddiogelu a hyrwyddo lles plant a phobl ifanc ac mae'n disgwyl i'r holl staff a gwirfoddolwyr rannu'r ymrwymiad hwn. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn destun gwiriad GDG uwch a geirdaon boddhaol.

Gwybodaeth am y Cais

Mae ymweliadau â'r ysgolion yn cael eu croesawu a'u hannog.

Am ragor o wybodaeth a phecyn cais, cysylltwch â Swyddfa'r Ffederasiwn.

Dyddiad Cau: Dydd Sul 11 eg Hydref am hanner nos
Rhestr Fer: Wythnos yn dechrau dydd Llun 12 fed Hydref
Dyddiad Cyfweliad: Dydd Gwener 16 eg neu ddydd Llun 19 eg Hydref

Mae'n hanfodol eich bod yn dangos sut rydych yn bodloni'r meini prawf Hanfodol a restrir yn y Fanyleb Person atodol, er mwyn sicrhau cyfweliad: Sut i wneud cais Canllaw i ymgeiswyr Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen .

Mae'r swyddhon wedi' iheithrio o Ddeddf Adsefydlu Troseddwyr 1974. Bydd proses sgrinio gynhwysfawr yn cael ei chynnal ar gyfer pob ymgeisydd a fydd yn cynnwys gwiriad Manwl gyda'r Gwasanaeth Datgelua Gwahardd.

Mae angen cofrestru gyda Chyngor y Gweithlu Addysg ar gyfer y swydd hon.

Mae Cyngor Bwrdeistref Siriol Torfaen yn ymdrechu i fod yn gyflogwr teg, cefnogol ac effeithiol. Mae'r Cyngor wedi ymrwymo i ddiogelu a hyrwyddo llesiant plant, pobl ifanc ac oedolion sy'n agored i niwed. Mae'r Cyngor yn disgwyl i'w gyflogeion, boed yn gweithio am dâl neu'n ddi-dâl, i rannu'r ymrwymiad hwn. Rydym yn gwerthfawrogi'r ystod o brofiadau a ddaw yn sgil gweithlu amrywiol ac felly rydym yn croesawu ceisiadau gan bobl o bob cefndir a grwpiau sy'n cael eu tangynrychioli.

Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y rôl hon ond nid ydynt yn hanfodol.Mae croeso i chi gyflwyno eich ffurflen gais yn Gymraeg neu yn Saesneg. Bydd pob cais yn cael ei drin yn gyfartal.

Rydyn ni wedi cofrestru fel ArweinyddHyderus o ran Anabledd, ac ymrwymo i gyflogi a datblygu gyrfaoedd pobl anabl. Mae ein Cynllun Gwarantu Cyfweliad yn gwarantu y bydd pobl ag anableddau yn cael eu gwahodd i gyfweliad, ar yr amod eu bod yn bodloni'r gofynion hanfodol ar gyfer y rôl. Os oes gennych gyflwr iechyd, os ydych yn niwroamrywiol, neu'n defnyddio Iaith Arwyddion Prydain, a hoffech drafod addasiadau rhesymol, cysylltwch â'r rheolwr recriwtio. Gallwn weithio gyda chi i drefnu addasiadau os ydym yn gwybod pa ofynion sydd gennych, cyn i chi gyflwyno'ch cais, sefyll prawf neu ddod i gyfweliad.

Gwnewch yn siŵr mai drwy wefan swyddi gwag Cyngor Torfaen yn unig yr ydych chi'n gwneud cais am y swydd hon. Nid ydym yn derbyn CVs na cheisiadau sy'n cael eu cyflwyno ar unrhyw wefannau eraill.