MANYLION.
  • Lleoliad: Heb ei ddarparu
  • Pwnc: Heb ei ddarparu
  • Oriau: Llawn amser
  • Cytundeb: Heb ei ddarparu
  • Math o gyflog: Heb ei Gyflenwi
  • Cyflog: Main Pay Scale \/ Upper Pay Scale (depending on experience)
  • Iaith: Unrhyw
  • Dyddiad Cau: 12 Hydref, 2026 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Athro Dosbarth (Derbyn) - Ysgolion Cynradd y Ffederasiwn

Torfaen Local Authority

Cyflog: Main Pay Scale \/ Upper Pay Scale (depending on experience)

Ydych chi eisiau gweithio yn un o'r amgylcheddau Blynyddoedd Cynnar mwyaf cyffrous yng Nghymru?

Ydych chi'n credu bod plant ifanc yn dysgu orau trwy chwarae, perthnasoedd, chwilfrydedd, creadigrwydd a phrofiadau uniongyrchol sy'n ystyrlon?

Ydych chi'n angerddol am addysg y Blynyddoedd Cynnar ac yn gyffrous am y cyfle i helpu i lunio dull Ffroebelaidd unigryw o fewn Ffederasiwn uchelgeisiol iawn?

Os felly, carem ni glywed gennych.

Mae Ffederasiwn Ysgolion Cynradd Cymunedol Blenheim Road a Choed Eva yn chwilio am athro Derbyn eithriadol i ymuno â'n tîm yn Ysgol Gynradd Coed Eva.

Rydym yn chwilio am rywun sy'n wybodus am ymarfer yn y Blynyddoedd Cynnar ond hefyd yn chwilfrydig am y maes mewn ffordd ddeallusol, a rhywun sy'n deall bod addysgeg ardderchog yn y Blynyddoedd Cynnar yn hynod fwriadol ac nad oes angen cyfarwyddyd beichus gan oedolion. Rhywun sy'n gyffrous am y cyfle i weithio yn ôl dull Ffroebelaidd sy'n datblygu. Rhywun sy'n gallu cyfrannu eu meddyliau eu hunain, dysgu ochr yn ochr â chydweithwyr a'n helpu i barhau i ddatblygu darpariaeth wirioneddol unigryw, sy'n briodol i ddatblygu ein dysgwyr ieuengaf.

Mwy o wybodaeth

Rydym yn annog darpar ymgeiswyr i ddysgu mwy am ein hagwedd at y Blynyddoedd Cynnar trwy ein gwefan a ffilm am ymarfer Ffroebelaidd:

https://federationbrce.com/

Froebel Trust | Froebelian Practice Across Primary School

Ffederasiwn sydd â phwrpas clir

Ym mhopeth a wnawn, rydyn ni'n:
  • tyfu dysgwyr llwyddiannus, ffyniannus;
  • arwain ein pobl at ragoriaeth; a
  • newid ein cymuned a'n gwlad er gwell.

Mae ein Ffederasiwn yn unigryw yng Nghymru. Anelwn i sicrhau'r:
  • lefelau cyrhaeddiad uchaf i'n dysgwyr;
  • lefelau llesiant uchaf posib;
  • ymgysylltiad mwyaf effeithiol â theuluoedd a'r gymuned; a'r
  • paratoadau mwyaf effeithiol ar gyfer y dyfodol;

ar gyfer pob aelod o'n cymuned ysgol, drwy'r amser.

Beth sy'n gwneud ymarfer Blynyddoedd Cynnar yn ein Ffederasiwn yn unigryw?

Mae ein darpariaeth Blynyddoedd Cynnar:
  • Wedi'i wreiddio'n gryf mewn egwyddorion Ffroebelaidd, felly mae perthnasoedd, chwarae, creadigrwydd, natur a phrofiadau uniongyrchol wrth wraidd y dysgu.
  • Wedi'i adeiladu ar addysgeg araf, ymatebol sy'n gwerthfawrogi dyfnder, ailadrodd a meddwl parhaus yn hytrach na gweithgarwch sydd dan arweiniad cyson oedolion.
  • Wedi'i yrru gan yr hyn rydyn ni'n sylwi am blant, a'i gydbwyso â dilyniant yn y cwricwlwm a phrofiadau cyfoethog yr ydym yn credu bod pob plentyn yn ei haeddu.
  • Wedi'i gynllunio o amgylch amgylcheddau digynnwrf, agored sy'n cefnogi annibyniaeth, diddordebau, sgemâu a chwarae ystyrlon.
  • Mae'n gyfoeth o brofiadau dilys fel coginio, clai, gwaith coed, gwnïo, adeiladu a dysgu tymhorol yn yr awyr agored.
  • Mae'n canolbwyntio ar ddatblygu agweddau fel chwilfrydedd, hyder, dyfalbarhad, creadigrwydd a chydweithrediad ochr yn ochr â gwybodaeth a sgiliau.
  • Mae wedi ymrwymo i ddulliau ystyrlon a datblygiadol briodol o ran llythrennedd a mathemateg trwy ddulliau fel Read Write Inc. a White Rose Maths.
  • Mae'n cysylltu'n ddwfn ag ymdeimlad o berthyn, diwylliant, teulu a chymuned.

Mae ein tîm Blynyddoedd Cynnar yn manteisio'n rheolaidd ar ddysgu proffesiynol pwrpasol, wedi'i wreiddio mewn arsylwi, ymchwil, myfyrio ac anghenion y plant yn ein gofal.

Rydym yn chwilio am rywun sy'n:
  • Gynnes, ysgogol a hynod berthynol.
  • Angerddol am greu ymdeimlad cryf o berthyn i bob plentyn.
  • Chwilfrydig am y ffyrdd y mae plant yn meddwl a diddordeb yn yr ystyr y tu ôl i'r chwarae, eu hymddygiad a'u dewisiadau.
  • Myfyriol, meddu ar feddwl agored ac yn awyddus i ddatblygu eu hymarfer.
  • Digynnwrf ac amyneddgar, gan ganiatáu i'r dysgu ddatblygu, ond yn gwybod pryd a sut i ymyrryd yn effeithiol.
  • Creadigol, dyfeisgar ac ymatebol.
  • Cynhwysol ac yn canolbwyntio ar y plentyn, gyda disgwyliadau uchel i bob dysgwr.

Byddem yn gwerthfawrogi'n arbennig rhywun sydd â:
  • Dealltwriaeth gref am ddatblygiad plant a sut mae plant ifanc yn dysgu trwy chwarae, symud, archwilio a pherthnasoedd.
  • Gwybodaeth gadarn am y Cwricwlwm yng Nghymru, ac arfer sy'n briodol i ddatblygiad.
  • Profiad o gynllunio ymatebol, sy'n cael ei arwain gan arsylwi.
  • Dealltwriaeth am sgemâu a sut y gall patrymau ailadroddus y plant wrth iddynt chwarae, lywio'r ddarpariaeth.
  • Gwybodaeth gref am gyfathrebu, iaith, llythrennedd a datblygiad mathemategol cynnar.
  • Profiad o Read Write Inc, neu barodrwydd i ddysgu.
  • Y gallu i ddefnyddio dull Sylwi - Dadansoddi - Ymateb wrth gynllunio.
  • Ymrwymiad i greu amgylcheddau cyfoethog sy'n gweithredu fel &slshquot;trydydd athro&slshquot;.
  • Yr hyder i gydbwyso dysgu a ddechreuir gan y plentyn ag addysgu bwriadol.
  • Y gallu i ddogfennu dysgu ystyrlon a'i ddathlu.

Rydym wedi ymrwymo i ddiogelu a hyrwyddo llesiant plant ac rydym yn disgwyl i'r holl staff a gwirfoddolwyr rannu'r ymrwymiad hwn.

Mae'n hanfodol eich bod yn dangos sut rydych yn bodloni'r meini prawf Hanfodol a restrir yn y Fanyleb Person atodol, er mwyn sicrhau cyfweliad: Sut i wneud cais Canllaw i ymgeiswyr Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen .

Mae'r swyddhon wedi' iheithrio o Ddeddf Adsefydlu Troseddwyr 1974. Bydd proses sgrinio gynhwysfawr yn cael ei chynnal ar gyfer pob ymgeisydd a fydd yn cynnwys gwiriad Manwl gyda'r Gwasanaeth Datgelua Gwahardd.

Mae angen cofrestru gyda Chyngor y Gweithlu Addysg ar gyfer y swydd hon.

Mae Cyngor Bwrdeistref Siriol Torfaen yn ymdrechu i fod yn gyflogwr teg, cefnogol ac effeithiol. Mae'r Cyngor wedi ymrwymo i ddiogelu a hyrwyddo llesiant plant, pobl ifanc ac oedolion sy'n agored i niwed. Mae'r Cyngor yn disgwyl i'w gyflogeion, boed yn gweithio am dâl neu'n ddi-dâl, i rannu'r ymrwymiad hwn. Rydym yn gwerthfawrogi'r ystod o brofiadau a ddaw yn sgil gweithlu amrywiol ac felly rydym yn croesawu ceisiadau gan bobl o bob cefndir a grwpiau sy'n cael eu tangynrychioli.

Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y rôl hon ond nid ydynt yn hanfodol.Mae croeso i chi gyflwyno eich ffurflen gais yn Gymraeg neu yn Saesneg. Bydd pob cais yn cael ei drin yn gyfartal.

Rydyn ni wedi cofrestru fel ArweinyddHyderus o ran Anabledd, ac ymrwymo i gyflogi a datblygu gyrfaoedd pobl anabl. Mae ein Cynllun Gwarantu Cyfweliad yn gwarantu y bydd pobl ag anableddau yn cael eu gwahodd i gyfweliad, ar yr amod eu bod yn bodloni'r gofynion hanfodol ar gyfer y rôl. Os oes gennych gyflwr iechyd, os ydych yn niwroamrywiol, neu'n defnyddio Iaith Arwyddion Prydain, a hoffech drafod addasiadau rhesymol, cysylltwch â'r rheolwr recriwtio. Gallwn weithio gyda chi i drefnu addasiadau os ydym yn gwybod pa ofynion sydd gennych, cyn i chi gyflwyno'ch cais, sefyll prawf neu ddod i gyfweliad.

Gwnewch yn siŵr mai drwy wefan swyddi gwag Cyngor Torfaen yn unig yr ydych chi'n gwneud cais am y swydd hon. Nid ydym yn derbyn CVs na cheisiadau sy'n cael eu cyflwyno ar unrhyw wefannau eraill.