MANYLION.
  • Lleoliad: Heb ei ddarparu
  • Pwnc: Heb ei ddarparu
  • Oriau: Llawn amser
  • Cytundeb: Heb ei ddarparu
  • Math o gyflog: Per annum
  • Cyflog: Grade 5 | £30,023 - £33,119 PRO RATA
  • Iaith: Unrhyw
  • Dyddiad Cau: 16 Hydref, 2026 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Cynorthwyydd Addysgu Lefel 3 - Ysgol Gynradd Nant Celyn

Torfaen Local Authority

Cyflog: Grade 5 | £30,023 - £33,119 PRO RATA

Mae Corff Llywodraethu Ysgol Gynradd Nant Celyn yn dymuno cynnig contract Dros Dro i Gynorthwyydd Addysgu Lefel 3. Bydd gan yr ymgeiswyr llwyddiannus angerdd am ddysgu ac am gefnogi plant. Yn ddelfrydol, rydym yn chwilio am rywun sydd â phrofiad cryf a chadarn, ac sy'n dangos eu bod yn deall datblygiad cynnar plant.

Gallech chi fod yn berffaith i ni, os ydych chi:
  • Yn ymarferydd gofalgar sy'n rhoi llesiant pob plentyn wrth wraidd eich ymarfer, o ddifri
  • Yn ymarferydd creadigol sy'n llawn ysbrydoliaeth ac sydd wedi ymrwymo i fodloni'r Safonau Proffesiynol ar gyfer Cynorthwywyr Addysgu, a'u cynnal;
  • Yn gallu cefnogi'r dosbarth gan ddarparu cyfleoedd dysgu cynhwysol, creadigol a heriol, gan ddefnyddio technoleg mewn ffordd arloesol;
  • Yn aelod o staff hyderus a rhagweithiol;
  • Yn meddu ar wybodaeth gadarn am egwyddorion diogelu;
  • Yn gallu meithrin perthynas ardderchog â phlant a'u teuluoedd.
  • Yn gallu dangos bod gennych hanes amlwg o gael effaith ar ddysgu plant
  • Yn gallu dangos bod gennych hanes amlwg o'ch gallu i ymyrryd ar lefel uchel
  • Yn barod i gamu i mewn i gyflenwi yn y tymor byr yn un o'r dosbarthiadau penodol os oes angen, a'r gallu i wneud hynny.
  • Yn meddu ar y sgiliau a'r wybodaeth i gynllunio ymyrraeth effeithiol a chyflawni hynny mewn dosbarthiadau penodol.
  • Yn aelod brwd a gweithgar o gymuned yr ysgol sy'n mwynhau cyfleoedd i fod yn rhan o fywyd yr ysgol y tu allan i'r ystafell ddosbarth.
  • Yn ymroddgar i fynychu cyfleoedd dysgu proffesiynol a chyfarfodydd staff.

Am drafodaeth anffurfiol ynglŷn â'r swydd wag hon, cysylltwch â Ms Keri Smith (Pennaeth) ar 01633 624170 neu clerk.nantcelyn@torfaen.gov.uk

Dyddiad Cau: Dydd Gwener 16 Hydref 2026

Cyfweliadau: Dydd Mawrth 20 Hydref 2026

Mae'n hanfodol eich bod yn dangos sut rydych yn bodloni'r meini prawf Hanfodol a restrir yn y Fanyleb Person atodol, er mwyn sicrhau cyfweliad: Sut i wneud cais Canllaw i ymgeiswyr Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen .

Mae'r swyddhon wedi' iheithrio o Ddeddf Adsefydlu Troseddwyr 1974. Bydd proses sgrinio gynhwysfawr yn cael ei chynnal ar gyfer pob ymgeisydd a fydd yn cynnwys gwiriad Manwl gyda'r Gwasanaeth Datgelua Gwahardd.

Mae angen cofrestru gyda Chyngor y Gweithlu Addysg ar gyfer y swydd hon.

Mae Cyngor Bwrdeistref Siriol Torfaen yn ymdrechu i fod yn gyflogwr teg, cefnogol ac effeithiol. Mae'r Cyngor wedi ymrwymo i ddiogelu a hyrwyddo llesiant plant, pobl ifanc ac oedolion sy'n agored i niwed. Mae'r Cyngor yn disgwyl i'w gyflogeion, boed yn gweithio am dâl neu'n ddi-dâl, i rannu'r ymrwymiad hwn. Rydym yn gwerthfawrogi'r ystod o brofiadau a ddaw yn sgil gweithlu amrywiol ac felly rydym yn croesawu ceisiadau gan bobl o bob cefndir a grwpiau sy'n cael eu tangynrychioli.

Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y rôl hon ond nid ydynt yn hanfodol.Mae croeso i chi gyflwyno eich ffurflen gais yn Gymraeg neu yn Saesneg. Bydd pob cais yn cael ei drin yn gyfartal.

Rydyn ni wedi cofrestru fel ArweinyddHyderus o ran Anabledd, ac ymrwymo i gyflogi a datblygu gyrfaoedd pobl anabl. Mae ein Cynllun Gwarantu Cyfweliad yn gwarantu y bydd pobl ag anableddau yn cael eu gwahodd i gyfweliad, ar yr amod eu bod yn bodloni'r gofynion hanfodol ar gyfer y rôl. Os oes gennych gyflwr iechyd, os ydych yn niwroamrywiol, neu'n defnyddio Iaith Arwyddion Prydain, a hoffech drafod addasiadau rhesymol, cysylltwch â'r rheolwr recriwtio. Gallwn weithio gyda chi i drefnu addasiadau os ydym yn gwybod pa ofynion sydd gennych, cyn i chi gyflwyno'ch cais, sefyll prawf neu ddod i gyfweliad.

Gwnewch yn siŵr mai drwy wefan swyddi gwag Cyngor Torfaen yn unig yr ydych chi'n gwneud cais am y swydd hon. Nid ydym yn derbyn CVs na cheisiadau sy'n cael eu cyflwyno ar unrhyw wefannau eraill.