MANYLION
  • Lleoliad: SWANSEA, Swansea, SA2 9EB
  • Testun: Rheolwr Datblygu
  • Oriau: Amser llawn
  • Cytundeb: Cyfnod penodol
  • Math o gyflog: Blynyddol
  • Salary Range: £44,047 - £46,835
  • Iaith: Saesneg
  • Dyddiad Cau: 07 Awst, 2022 11:59 y.p

This job application date has now expired.

Rheolwr Marchnata a Derbyn (Gwarchodaeth Mamolaeth)

Rheolwr Marchnata a Derbyn (Gwarchodaeth Mamolaeth)

Coleg Gwyr Abertawe
Mae Coleg Gwyr Abertawe’n chwilio am Reolwr Marchnata a Derbyn profiadol i arwain, datblygu ac ysgogi tîm brwdfrydig a dawnus o staff marchnata a derbyn.

I gyflawni’r rôl yn llwyddiannus, bydd angen i chi feddu ar brofiad helaeth o arwain tîm cyfathrebu marchnata a dealltwriaeth o brosesau derbyn.

Byddwch yn datblygu ac yn siapio naratif Coleg Gwyr Abertawe, gan ddefnyddio pob maes cyfathrebu gan gynnwys brandio, elfennau digidol, y wasg/cysylltiadau cyhoeddus a hysbysebu.

Bydd gennych brofiad llwyddiannus o weithredu strategaethau a thactegau marchnata, a byddwch yn chwilio am gyfleoedd i ymgysylltu’n gadarnhaol â chynulleidfaoedd allweddol y Coleg, gan gynnwys darpar fyfyrwyr a’u rhieni/gofalwyr, dysgwyr addysg uwch/dygwyr sy’n oedolion, rhyngwladol, cyflogwyr a staff.

Bydd gennych gymhwyster gradd neu’r cyfwerth, ynghyd â diploma ôl-raddedig mewn marchnata neu bwnc perthnasol. Byddai cymhwyster rheoli neu arwain hefyd yn ddymunol.

Cyfweliadau yn cael eu cynnal ddydd Mawrth 16eg Awst.

Ni cheir ceisiadau Cymraeg eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau Saesneg.

Mae Coleg Gwyr Abertawe yn ymrwymedig i ddiogelu a hyrwyddo lles pobl ifanc ac yn disgwyl i’r holl staff rhannu’r ymrwymiad hwn. Bydd penodiadau eu gwneud ar sail gwiriad DBS manylach a bydd gofyn i chi ymaelodi â Chyngor Gweithlu Addysg Cymru.

Rydym yn disgwyl nifer fawr o ymgeiswyr ar gyfer y swydd wag hon. Os derbynnir llawer o geisiadau, efallai y byddwn yn atal unigolion rhag cyflwyno cais cyn y dyddiad penodedig. Awgrymir felly ichi gyflwyno’ch cais yn gynnar.

Fel rheol, bydd penodiadau yn cael eu gwneud ar waelod y raddfa gyflog gyda chynyddrannau blynyddol ar 1 Awst bob blwyddyn (yn amodol ar ddyddiad cychwyn cyn Chwefror 1).