MANYLION
  • Lleoliad: Deeside, Flintshire, CH5 4BR
  • Testun: Hyfforddwr
  • Oriau: Amser llawn
  • Cytundeb: Parhaol
  • Math o gyflog: Blynyddol
  • Salary Range: £21,579 - £25,466
  • Iaith: Saesneg

This job application date has now expired.

Hyfforddwr Arddangoswr Peirianneg Uwch

Hyfforddwr Arddangoswr Peirianneg Uwch

Coleg Cambria
Rhagori ar ddisgwyliadau drwy addysg, arloesedd ac ysbrydoliaeth...

Teitl y Swydd: Hyfforddwr Arddangoswr Aero

Lleoliad: Glannau Dyfrdwy

Math o Gontract: Parhaol, Llawn amser

Cyflog: £21,579-£25,466

Ydych chi’n Beiriannydd Medrus sy’n awyddus i rannu eich arbenigedd a’ch sgiliau ymarferol gyda’n myfyrwyr? Os felly, mae Coleg Cambria yn chwilio am Hyfforddwr Arddangoswr mewn Aero i weithio ar ein safle Glannau Dyfrdwy.

Fel Hyfforddwr Arddangoswr, byddwch yn gyfrifol am gyflwyno sesiynau ymarferol mewn Peirianneg yn bennaf i’n myfyrwyr yn Sefydliad Technoleg o’r radd flaenaf Coleg Cambria. Byddwch yn gyfrifol am baratoi amserlen o weithgareddau ymarferol o wybodaeth gan Gyfarwyddwyr Cwricwlwm a Darlithwyr yn ogystal â rhoi cymorth wrth fonitro cynnydd myfyrwyr. Bydd yr Hyfforddwr Arddangoswr yn cynorthwyo gydag asesu cymhwysedd a chynnydd myfyrwyr mewn gweithgareddau ymarferol hefyd. Byddwch yn gyfrifol am osod a chynnal a chadw amgylcheddau gwaith ac offer arbenigol yn rhagweithiol i alluogi darpariaeth i’n dysgwyr. Bydd gofyn i chi gwblhau cofnodion diweddar, cynorthwyo gydag adolygiadau myfyrwyr yn ogystal â chynhyrchu canlyniadau cyrsiau.

Rydym yn chwilio am rywun sydd â phrofiad diweddar yn y diwydiant peirianneg (mecanyddol neu electroneg neu gynnal a chadw). Yn ddelfrydol bydd ganddynt brofiad o ddarparu hyfforddiant ymarferol neu weithdy. Dylech allu dangos eich bod yn deall y datblygiadau cyfredol yn eich maes arbenigol eich hun. Fel Hyfforddwr Arddangoswr bydd gennych sgiliau rhyngbersonol ardderchog ac yn gallu creu amgylchedd gofalgar a chefnogol i’n myfyrwyr.



Gofynion Hanfodol

Mae’n rhaid bod gennych o leiaf gymhwyster Lefel 3 mewn Peirianneg neu gymhwyster cyfwerth mewn maes pwnc perthnasol.

Profiad diweddar yn y diwydiant mewn maes arbenigol perthnasol.

Dangos eich bod yn deall y datblygiadau cyfredol yn eich maes arbenigol eich hunan a sut y byddwch yn sicrhau bod gennych y wybodaeth ddiweddaraf am y datblygiadau hyn.

Gallu defnyddio Microsoft Office a phecynnau TGCh eraill.

Hunanhyder ac yn dangos egni a brwdfrydedd yn yr amgylchedd dysgu.

Gallu sefydlu perthnasau gweithio effeithiol ac yn aelod cadarn o dîm