MANYLION.
  • Lleoliad: Brynmawr,
  • Pwnc: Heb ei ddarparu
  • Oriau: Llawn amser
  • Cytundeb: Parhaol
  • Math o gyflog: Per annum
  • Cyflog: Arweinyddion L8-L12 £62,612 - £69,088 Y Flwyddyn
  • Iaith: Unrhyw
  • Dyddiad Cau: 08 Hydref, 2026 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Dirprwy Bennaeth - Ysgol Gymraeg Bro Helyg / Ysgol Gymraeg Tredegar

Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent

Cyflog: Arweinyddion L8-L12 £62,612 - £69,088 Y Flwyddyn

Mae Ysgol Gymraeg Bro Helyg yn darparu addysg cyfrwng Cymraeg i ddisgyblion ym Mlaenau Gwent. Wedi'i lleoli ar gyrion Brynmawr, mae'r ysgol yn cynnig adeiladau modern eang ac adnoddau rhagorol, ac mae'n elwa ar rwydwaith ffyrdd yr A465 sy'n sicrhau bod modd teithio'n hwylus o Gasnewydd, Caerdydd, Abertawe a rhanbarth ehangach De-ddwyrain Cymru. Mae Ysgol Gymraeg Bro Helyg yn ysgol agored a chyfeillgar gyda staff ymroddedig sy'n gweithio'n galed i greu ethos cadarnhaol a gofalgar. Datganiad cenhadaeth yr ysgol yw"Gosod sylfaen gadarn ar gyfer dyfodol disglair."

Mae'r ysgol hefyd yn cynnal darpariaeth ysgol egin, Ysgol Gymraeg Tredegar, yn nhref Tredegar mewn adeilad pwrpasol. Ar hyn o bryd mae'r ddarpariaeth yn gwasanaethu tua 32 o blant ac mae'n gweithredu o dan lywodraethwyr Ysgol Gymraeg Bro Helyg, gyda thîm staff ymroddedig ac uwch arweinydd eisoes yn ei le. Mae'r ysgol hefyd yn cynnal darpariaeth ysgol egin, Ysgol Gymraeg Tredegar, yn nhref Tredegar mewn adeilad pwrpasol. Ar hyn o bryd mae'r ddarpariaeth yn gwasanaethu tua 74 o blant ac mae'n gweithredu o dan lywodraethiant Ysgol Gymraeg Bro Helyg, gyda thîm staff ymroddedig ac uwch arweinydd eisoes yn ei le.

Mae'r Llywodraethwyr yn ceisio penodi Dirprwy Bennaeth sy'n ymarferydd rhagorol ac sy'n ymrwymedig i ddatblygu addysgu a dysgu o'r safon uchaf. Rydym yn chwilio am unigolyn sydd wedi ymrwymo i sicrhau bod yr ysgol yn darparu'r cyfleoedd gorau i'n holl ddysgwyr ac sy'n chwarae rhan weithredol yn ehangu a datblygu addysg cyfrwng Cymraeg ym Mlaenau Gwent ac ar draws y rhanbarth ehangach.

Mae'r Llywodraethwyr wedi ymrwymo i benodi Dirprwy Bennaeth sydd:
  • Yn arweinydd ysbrydoledig ac effeithiol iawn gyda gweledigaeth glir ar gyfer rhagoriaeth mewn addysgu, dysgu a lles.
  • Yn meddu ar hanes profedig o wella safonau a deilliannau ar gyfer pob dysgwr.
  • Yn rhannu ein hymrwymiad i gynhwysiant, tegwch a llwyddiant pob plentyn.
  • Yn dangos ymrwymiad cryf i arfer cynhwysol a rhagoriaeth mewn darpariaeth Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY), gan sicrhau bod pob dysgwr, beth bynnag fo'u hanghenion neu'u galluoedd, yn cael y gefnogaeth angenrheidiol i gyflawni eu potensial llawn.
  • Yn arddangos sgiliau rhyngbersonol a chyfathrebu rhagorol, gan feithrin perthnasoedd cryf gyda dysgwyr, staff, rhieni, llywodraethwyr ac asiantaethau allanol.
  • Yn gallu ysgogi, herio a datblygu eraill, gan hyrwyddo diwylliant o ddisgwyliadau uchel a gwelliant parhaus.
  • Yn ymrwymedig i ddiogelu a hyrwyddo lles plant a phobl ifanc.
  • Yn gallu cefnogi a chryfhau ein hethos, ein hiaith a'n diwylliant Cymraeg.
  • Yn wydn, yn hyblyg ac yn gallu arwain yn effeithiol drwy gyfnodau o newid.
  • Yn gweithio mewn partneriaeth â'r Pennaeth i yrru datblygiad strategol yr ysgol a sicrhau'r deilliannau gorau posibl i bob dysgwr.

Bydd y Llywodraethwyr yn cefnogi'r ymgeisydd llwyddiannus ym mhob agwedd ar fywyd yr ysgol, gan greu diwylliant o ddysgu a datblygiad effeithiol ar draws yr ysgol a'i chymuned.

Hoffai'r Llywodraethwyr i ymgeiswyr gyflwyno ffurflen gais gyflawn a manwl.

Mae Ysgol Gymraeg Bro Helyg wedi ymrwymo i ddiogelu a hyrwyddo lles plant a phobl ifanc ac mae'n disgwyl i bob aelod o staff a gwirfoddolwr rannu'r ymrwymiad hwn.

Mae'r swydd hon yn gofyn am gofrestru gyda Chyngor y Gweithlu Addysg (CGA) o dan y categori Athro Ysgol, a bydd angen cwblhau'r cofrestriad cyn dechrau yn y swydd. Gellir cael rhagor o wybodaeth am gofrestru ar wefan y CGA: Cyngor y Gweithlu Addysg.

Mae'r swydd hon wedi'i heithrio o Ddeddf Adsefydlu Troseddwyr 1974. Cynhelir proses sgrinio cyn cyflogaeth gynhwysfawr a fydd yn cynnwys Gwiriad Manylach y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) gyda Rhestr Wahardd Plant.

Amdanom Ni

Ym Mlaenau Gwent, rydym yn angerddol am y gwaith rydym yn ei wneud a'r effaith a gawn. Rydym yn grymuso ein staff i wneud newidiadau ystyrlon a gweithredu i wella ein gwasanaethau.

Dyddiad Cau:

Am 12:00 canol nos Dydd Iau yr 8fed o Hydref 2026

Rhest fer:

15fed o Hydref 2026

Ymweliad Ysgol

Arsylwad Gwers

Bydd croeso i ddarpar ymgeiswyr ymweld ar ysgolion cyn y dyddiad cau. Os hoffech drefnu ymweliad, cysylltwch â Mr Sion Roberts ar 07732185624.

Bydd gofyn i ymgeiswyr ar y rhestr fer baratoi a chyflwyno gwers yn eu hysgol bresennol cyn y cyfweliad ar 19 neu 20 Hydref 2026.

Dyddiad Cyfweld:

Dydd Iau 22 Hydref a Dydd Gwener 23 Hydref 2026